Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grazing Gogs

Ariannwyd drwy’r Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Ymgynghorol o dan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 

Grazing Gogs

Caerfaddon, Bryste a Llanandras
3ydd - 5ed Hydref

3rd - 5th Hydref


1) Cefndir

Aeth chwe aelod o’r grŵp ar daith, y nifer isaf erioed. Er bod hynny’n siomedig ar y dechrau, roedd y nifer isel yn golygu ein bod wedi cynnal trafodaethau manwl iawn ac agored gydag ein gwesteion.

2) Manylion y Daith

2.1 Diwrnod 1 – Sioe Laeth

Oherwydd y gwahanol bellteroedd ac amseroedd teithio cytunwyd i gyfarfod yn y sioe laeth fel na fyddai unrhyw broblem pe bai rhywun yn cyrraedd yn hwyr.   Roedd y stondinau  arddangos arferol yn y sioe ond yr un a ddenodd y diddordeb mwyaf ymysg y grŵp oedd offer synwyryddion Sabre. Caiff y blwch du ei osod yn y parlwr godro a’i ddefnyddio i wirio ansawdd y llaeth a chyfri celloedd somatig wrth i’r buchod gael eu godro. Ar stondin cyfrifwyr Old Barn cawsom gyflwyniad gan Robert Driesdale ar gynnig newydd i fagu a phesgi lloi teirw croes Jersey.

2.2 Diwrnod 2 – Alvis Bros Ltd / A & R Giles Ltd

Ar yr ail ddiwrnod aethom ar ymweliad â busnes Alvis Bros ym Mryste lle cawsom daith o gwmpas y safle gan John Alvis y tad, sydd wedi derbyn OBE ers ein hymweliad â nhw. Yma yn yr ystafell fwrdd roedd y ffaith mai dim ond nifer fach oedd yn bresennol o fantais gan ein bod wedi cael trafodaeth lawn am y busnes caws teuluol yn cynnwys elw’r cwmni, y cyfalaf angenrheidiol ar gyfer offer ac aeddfedu’r stoc caws a sut oedd yn cael ei ariannu. Pwysleisiwyd yr angen am reoli ansawdd a bod y teulu’n talu cyflogau uchel i gael y staff gorau i gynnig sgiliau nad oedd gan y teulu.

Un ffaith ddiddorol oedd ei bod yn haws ac yn fwy proffidiol allforio i Ogledd America na chyflenwi archfarchnadoedd y DU. Hefyd roeddent yn allforio i’r UE. Nid oeddent yn poeni llawer am Brexit oherwydd eu bod yn credu naill ai y byddai’r wlad hon yn cytuno ar ddêl a byddai busnes yn parhau fel y mae nawr, neu byddai ‘dim dêl’ yn dod â chyfleoedd i fewnforio i’r DU yn hytrach na’r UE.

Ar ôl bod yn y safle caws aethom i weld fferm laeth a dysgwyd am broblemau TB difrifol. Caewyd y brif fferm am 23 mis o ganlyniad i TB ac yn yr ail fferm symudwyd  y gwartheg oddi yno dros gyfnod o 12 mis gan fod prawf ar ôl prawf yn dangos ymatebion positif nes bod y 30 buwch olaf wedi’u symud. Bellach defnyddir yr ail fferm i dyfu porthiant ar gyfer y brif fferm. Roedd y ddwy fuches yn mynd trwy’r un parlwr godro rotari, un yn cael ei godro unwaith y dydd i wneud y defnydd gorau ohono. Un wers a ddysgwyd – roedd cymydog wedi buddsoddi’n helaeth i ehangu i fusnes llaeth, ond heb gynnwys cyfleusterau trin slyri, ac o ganlyniad, roedd wedi cael gwaharddiad rhag godro gan awdurdod amgylcheddol yn Lloegr ac arweiniodd hynny at orfod gwerthu.

Trefnwyd ymweliad ychwanegol ag Andrew a Rachel Giles ar fyr rybudd. Roedd Andrew a Rachel yn y rownd derfynol ar gyfer y Gwpan Aur yn 2017, maent yn ffermwyr rhagorol gyda stori dda i’w hadrodd am eu cynnydd. Dechreuasant ffermio yn Sir Benfro, roeddent yn berchen ar ddau floc ar wahân o 100 erw ond mewn dyled enfawr. Gwerthwyd y ffermydd hyn cyn symud i fferm denant gyda 500 o wartheg yn Swydd Henffordd.

Roedd eu dau fab wedi symud i ffermydd tenant 500 erw yng Ngwlad yr Haf. Credai Andrew fod hyn yn bwysig neu fel arall byddent yn dychwelyd adref i fusnes wedi’i sefydlu’n barod na fyddai’n cynnig unrhyw her iddynt. Hefyd gwerthodd ran fach iawn o’i fusnes i’w hwsmon oedd wedi gofyn am fod yn rhan o fenter ar y cyd. Roedd yr hwsmon yn derbyn £3,000 o elw'r flwyddyn ar ei fuddsoddiad, elw da ond dywedodd Andrew fod y newid mewn agwedd yn anghredadwy ac na allai fyth fod wedi cyflawni hynny trwy dalu £60 yn ychwanegol yr wythnos at ei gyflog.

Cytunodd holl aelodau’r grŵp eu bod wedi cael negeseuon gwerthfawr gan Andrew.

2.3 Diwrnod 3 – EP Davies & Son Ltd

Mae ‘Bill the Knill’, fel y caiff ei alw, bellach yn ei 70au ond mae'n dal i chwarae rhan lawn yn y busnes teuluol a ddatblygwyd ganddo efo a’i wraig dros y blynyddoedd. Mae’r busnes yn cynnwys dwy fferm laeth, un fferm âr a thair uned magu cywion. Aethom ar ymweliad â’r brif fferm lle’r oedd yr uned magu cywion hynaf yn ogystal ag uned laeth gyda 450 o wartheg. Er mai ein prif nod oedd gweld yr uned magu cywion, roedd yr uned laeth yn ddiddorol iawn gan eu bod yn defnyddio technoleg fodern iawn. Gyda’u buches laeth oedd yn lloia yn y gwanwyn roeddent yn ceisio osgoi defnyddio tarw ar ôl triniaeth AI. Roeddent wedi gosod system benodol oedd yn cynnwys camera cyfrifiadurol i gael tystiolaeth o wartheg oedd yn gofyn tarw wrth adael y parlwr, gan eu symud yn ôl yr angen. Roedd y canlyniadau’n dda ond ddim yn ddigon da i wneud i unrhyw un o’r grŵp ruthro i fuddsoddi ond roeddent wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio teirw ac roedd yr hwsmon yn hapus ynglŷn â hynny.

Rhoddodd William Davies, un o’r meibion, ddadansoddiad ariannol o’r uned magu cywion gan egluro sut yr oedd yn gweithio. Mae’r elw’n isel ar gyfer unrhyw fuddsoddiad newydd ond gyda’r buddsoddiad cywir â rhychwant oes hir ac ar ôl talu’r benthyciadau cyfalaf, roedd yn dod ag elw da ac roedd y ffaith bod y teulu wedi bod yn ei wneud am amser hir yn rhoi hyder iddynt.

Roedd yr uned a welsom ni’n hen glamp silwair wedi’i greu ar ochr bryn oedd wedi cael ei addasu’n adeilad magu cywion ar dair lefel gyda 50,000 o adar ar y llawr. Roedd yn anhygoel gweld y system ac roedd y ffeithiau am y system yn ddiddorol – o 35 diwrnod pan oeddent yn cyrraedd fel cywion diwrnod oed nes oeddent yn barod, gydag wythnos yn unig i lanhau’r adeilad cyn i’r cytiad nesaf o gywion gyrraedd. Roedd newid o system wresogi’n cael ei phweru gan nwy i fwyleri naddion coed wedi lleihau’r cyfnod ar gyfer gorffen y cywion o bythefnos gan nad oedd y gwres mor sych. Roedd cyflogau staff yn uchel oherwydd dim ond pobl gyda nodweddion penodol allai wneud i’r systemau weithio ac nid oedd yn anghyffredin i staff gael eu denu o unedau eraill. Roedd y diwydiant hefyd yn arloesol iawn gyda llawer o waith ymchwil yn cael ei wneud, un enghraifft o hyn oedd rhoi wyau ar fin deor yn y siediau yn hytrach na chywion diwrnod oed gan fod hyn yn lleihau costau a gan fod newid mor sydyn rhwng bob cytiad o gywion roedd datblygiadau cynyddol yn y diwydiant, gyda staff yn cael eu talu ar sail cost cynhyrchu ar gyfartaledd, os nad oeddech yn perfformio yna roeddech yn cael eich diswyddo.

Roedd gwersi pwysig iawn i’w dysgu gan y teulu Davies yn ogystal â gwesteion eraill ar ein taith.

3) Camau Nesaf

  • Mae un o aelodau ein grŵp yn rhoi cynnig ar dechnoleg synwyryddion Sabre gan fod y system cofnodi llaeth yn eu parlwr yn anodd a dylai’r dechnoleg hon helpu i ganfod buchod â lefel SCC a thrwy hynny fod yn gost effeithiol.
  • Byddai’r uned oedd yn magu lloi teirw’n dod â chyn lleied o arian ymhen chwe wythnos fel na fyddai gan aelodau ddiddordeb mewn gweithredu’r syniad hwn, er bod teirw lloi ar unedau llaeth yn broblem y bydd yn dal angen ei datrys.
  • Roedd Alvis Bros Ltd yn enghraifft o’r hyn y gall busnes teuluol ei gyflawni drwy gynllunio olynol da ac ystyried y genhedlaeth nesaf wrth adeiladu eu busnes. Roedd ganddynt feddwl agored i gyfleoedd newydd gan chwilio am farchnadoedd arbenigol oedd yn caniatáu iddynt gystadlu â busnesau mawr.
  • Y brif wers a ddysgwyd gan y teulu Giles oedd bod yn barod i symud i ble bynnag mae’r cyfleoedd a pheidio â disgwyl a gobeithio y byddant yn dod atoch, gan ymateb i sefyllfaoedd cyfnewidiol ac wynebau heriau.
  • O ran y teulu Davies roedd yn amlwg fod Bill wedi gweld bwlch yn y farchnad flynyddoedd yn ôl wrth sefydlu uned magu cywion ac roedd wedi manteisio arno i arallgyfeirio a chreu busnes teuluol llwyddiannus y gellid ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
  • Roedd gan y tri busnes aelodau o’r teulu oedd wedi meddwl y tu allan i’r bocs neu’r busnes yr oeddent wedi’i etifeddu. Roedd gwersi da i’w dysgu.
  • Yn olaf, roedd un pwynt arall, os ydych yn prynu anrhegion diolch i’ch gwesteiwyr, dylech fynd â nhw gyda chi rhag i chi orfod prynu riliau ffens drydan yn y Sioe Laeth, er, roedd yr anrhegion yn dderbyniol iawn gyda phob un yn honni mai dyma’r anrheg fwyaf defnyddiol iddynt ei chael erioed.