Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Trafod yr Angel

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys. 

Angel Discussion Group

Gogledd Cymru

19eg - 20fed Hydref 2017


Cefndir

Nod y daith hon i Ogledd Cymru yw gweld sut y mae eu systemau ffermio yn gweithio fel gall y grŵp arsylwi a gweithredu rhai o’r arferion da ar eu ffermydd adref. Bydd yr ymweliad yn canolbwyntio ar y problemau unigryw sy’n wynebu ffermwyr llaeth Cymru a’r strategaethau a ddefnyddir i oresgyn y problemau hyn. Mae’r holl ffermydd yr ydym yn bwriadu ymweld yn gweithredu systemau glaswellt, gan ganolbwyntio ar gynyddu faint o laswellt a gynhyrchir a’r litrau o laeth a gynhyrchir o laswellt er mwyn lleihau eu costau cynhyrchu cyffredinol. Rydym hefyd yn gobeithio ennill mewnwelediad i sut y mae gwahanol fodelau busnes a chytundebau ffermio ar y cyd wedi helpu denu gwaed ifanc i’r diwydiant yn ogystal â gwella gwytnwch a phroffidioldeb y busnesau. 

Amserlen

Diwrnod 1

Sam Carey, Rhiwlas Farm, Bala

Ar y diwrnod cyntaf bûm yn ymweld Sam Carey sy’n godro 500 o wartheg ar uned lloia yn y gwanwyn ar gytundeb ffermio ar y cyd a thenantiaeth busnes fferm fel rhan o ystâd Rhiwlas. Rhoddodd Sam drosolwg o sut y mae’r cytundeb yn gweithio a’r cymhelliant y mae’n ei roi iddo gan ei fod yn cael cyfran o’r elw yn ogystal ag adeiladu cyfalaf trwy gymryd perchnogaeth o’r stoc. Mae hyn yn golygu bod ganddo fuddiant breintiedig yng ngwella perfformiad a phroffidioldeb y busnes, rhywbeth na fyddai’n digwydd pe bai’n cymryd cyflog safonol fel rheolwr fferm. Mae hyn yn darparu sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill, gyda Sam a pherchennog yr ystad yn cyfathrebu’n rheolaidd i sicrhau bod y busnes yn rhedeg yn rhwydd. Roedd brwdfrydedd Sam tuag at y fenter yn amlwg a chafodd yr aelodau fewnwelediad defnyddiol iawn o ran sut yr oedd y cytundeb presennol yn annog Sam i ddatblygu perfformiad y busnes – rhywbeth y gall yr aelodau efelychu ar eu ffermydd adref i wella strwythur eu busnesau.

Cafodd y grŵp daith gan Sam o amgylch adeiladau’r fferm lle cafwyd sgwrs ar y llif gwartheg a chapasit’r siediau, rhywbeth y bydd angen cynyddu os yw Sam yn bwriadu ehangu’r fuches. Gan fod y fferm yn hir a chul, mae’n rhaid i’r gwartheg gerdded cryn bellter i gael eu godro, a fydd yn ei dro yn effeithio’r cynnyrch llaeth. Cafwyd trafodaeth ar gynllunio patrwm pori cylchdro er mwyn sicrhau nad yw pob grŵp o wartheg yn defnyddio gormod o egni wrth gerdded i gael eu godro dwywaith y dydd. Amlygodd ddadansoddiad PFC broffidioldeb da ond roedd y cynhyrchiant llaeth yn is na’r disgwyl o ystyried y lefelau porthi dwysfwyd ond roedd y fuches yn eithaf ifanc a disgwylir i’r cynnyrch llaeth gynyddu wrth i’r fuches aeddfedu. 

Dafydd Wynne Finch, Foelas Farm, Betws-y-Coed
Yn ystod y prynhawn bûm yn ymweld Foelas Farm, fferm a redir ar gytundeb ffermio ar y cyd tebyg i sefyllfa Sam Carey. Roedd y fferm wedi cael trafferth cadw staff yn y gorffennol a chynigodd y symud i gytundeb ffermio ar y cyd ddatrysiad i’r broblem. Wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, roedd y fferm yn eithaf agored ac yn dueddol o gael gaeafau caled felly roedd cael llochesi digonol ar gyfer yr anifeiliaid yn hanfodol. Mae buddsoddiad diweddar mewn siediau wedi arwain at gynydd yn y cynnyrch llaeth ac iechyd y fuches yn gyffredinol. Cafwyd trafodaeth ar ddyluniad ciwbiclau a’r lle bwydo wrth wella’r cyfleusterau dan do. Cafodd y grŵp gyfle i wylio’r gwartheg yn cael eu godro yn y parlwr cylchdro 50-pwynt a chafodd y llif gwartheg a llif y system argraff dda ar y grŵp. Cynhyrchu llaeth o laswellt a phorthiant yw’r arfer ac roedd gan y busnes bolisi ail-hadu blynyddol mewn lle i sicrhau’r twf ac ansawdd glaswellt gorau posib er mwyn cadw’r costau cynhyrchu mor isel â phosib. 

Diwrnod 2

Sam Pearson, Hendre Llwyn y Maen, Conwy

Pwrpas yr ymweliad hwn oedd gweld sut yr oedd system bori technegol yn gweithio ar fferm bîff. Dysgodd y grŵp bod y costau o ran gosod y system yn ddrud gyda’r deunyddiau ffensio, system ddŵr a mapio’r tir yn badogau cyfartal. Ond unwaith i’r system gael ei sefydlu, ni ddylai’r costau fod yn uchel. Dangosodd y system pa mor hawdd oedd rheoli stoc gan fod yr un ardal yn cael ei gosod yn ddyddiol a gellir symud y stoc gydag un person mewn modd saff a rhwydd. Ceir hefyd gyfle i gynyddu faint o laswellt a gynhyrchir. Dysgom eu bod yn defnyddio system dechnegol iawn, gan fesur y glaswellt yn wythnosol a monitro cyfraddau twf y stoc ac y bod hyn yn sicrhau’r perfformiad gorau gan yr anifeiliaid yn ogystal â’r proffidioldeb gorau. Roedd rhaid monitro perfformiad yr anifeiliaid yn agos i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu targedau. Byddai hwn yn gyfle da i ffermwr ifanc gychwyn busnes pe baent yn medru sicrhau 20-30 acer a’i reoli’n rhwydd ar system cost isel. Mae’r system hon yn gofyn am dir sy’n addas ar gyfer gaeafu allan. 

Gareth Williams, Y Gilan, Llangernyw

Roedd hon yn fferm ucheldir mewn ardal glaw trwm. Roedd Gareth wedi sicrhau Tenantiaeth Busnes Fferm (FBT) ar y fferm ond nid oedd ganddo adeiladau nag unrhyw gyfleusterau godro. Roedd angen ail-hadu’r fferm yn llwyr a chreu traciau gwartheg er mwyn gweithredu system lloia yn y gwanwyn felly roedd costau cychwynnol uchel o ran buddsoddiad cyfalaf. Yn anffodus i Gareth, cafodd y gwaith hwn ei gyflawni yn ystod cyfnod pan oedd ffermwyr yn derbyn prisiau isel am eu llaeth a death masnachu yn anodd iawn o ganlyniad. Oherwydd yr incwm isel, nid oedd Gareth yn medru adeiladu unrhyw siediau ar gyfer yr anifeiliaid. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol oherwydd glaw trwm a gafodd effaith ar berfformiad y fuches gan nad oedd opsiwn i gadw’r gwartheg dan do. Roedd darparu porthiant ychwanegol yn anodd hefyd. Cedwir yr holl wartheg oddi ar y fferm yn ystod y gaeaf ar gytundeb ‘B&B’.  Mae hyn yn gweithio’n dda ond hoffai’r gofalwr eu cadw am gyfnod hirach na Gareth ac mae hyn yn effeithio dyddiau llaetha posib. Roedd gwerth rhentu’r fferm yn uchel o ystyried y gwaith oedd angen ei gyflawni ar y tir a’r ffaith nad oedd cyfleusterau ar y fferm.

Camau Nesaf

Casgliadau:

  • Mae staff yn mynd yn fater cynyddol bwysig gyda ffermwyr yn teimlo efallai y bydd angen talu cyflog uwch neu gynnig cytundebau rhannu elw er mwyn cadw staff da.
  • Os ydych yn sicrhau tir newydd ar unrhyw fath o gytundeb, peidiwch â rhoi’r argraff bod rhaid i chi gael y tir oherwydd bydd cyfle arall yn dod i’r amlwg.
  • Gwnewch yn siwr bod gan unrhyw gytundebau ysgrifenedig (tenantiaethau) gymalau sy’n eich galluogi i drafod gwerthoedd rhentu yn ystod y cytundeb, yn flynyddol os yn bosib.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen a ffurfioli cytundebau gyda chorff proffesiynol.
  • Roedd yn ymddangos mai prif darged y ffermydd oedd defnydd porthiant isel ond roedd hyn yn effeithio’r cyfanswm allbynnau llaeth. Teimla’r grŵp bod mantais i wario mwy ar borthiant pan mae prisiau llaeth yn uchel.
  • Roedd nifer o’r aelodau yn hoffi’r dull pori technegol ac yn gallu ei weld fel system ar gyfer magu heffrod llaeth. Y prif reswm oedd symlrwydd a gofynion llafur isel y system. Byddai’r system yn lleihau buddsoddiad cyfalaf ar ffermydd sy’n gallu gaeafu eu hanifeiliaid tu allan.
  • Roedd yn ymddangos bod nifer o gyfleoedd ar gael o ran unedau llaeth cychwynnol yng Ngogledd Cymru, y mwyafrif ohonynt yn ddarnau mawr o dir gyda chapasiti ar gyfer unedau 300-400 o wartheg.
  • Roedd yn dda gweld ffermwyr ifanc yn cael y cyfle i redeg eu busnesau eu hunain.
  • Roedd gan yr holl ffermydd barlwr cylchdro. Mae’r buddsoddiad cyfalaf yn fwy gyda pharlwr cylchdro ond mae’r amseroedd godro llawer llai felly roedd staff yn hapusach ac yn medru gorffen yn gynnar.
  • Gyda’r gwartheg yn gorfod cerdded cryn bellter yn ogystal â llethrau serth ar rai o’r ffermydd, teimla’r grŵp bod rhaid i’r traciau fod o’r ansawdd gorau. Roedd angen porthiant ychwanegol ar y gwartheg hefyd gan eu bod yn defnyddio egni wrth gerdded a fyddai yn ei dro yn effeithio’r cynnyrch llaeth.