Cyfle #118

Lleoliad: Wdig

Tir: 68 hectar/168 acer

Da Byw: Buches sugno Red Devon

Cytundeb: Contract hunan-gyflogedig ar gyfer gwasanaethau neu cytundeb Ffermio cyfran
 

Proffil Darparwr

(Amlinelliad o’r cyfle sy’n cael ei ddarparu)

Manylion y tirfeddiannwr

61-64 oed

Siaradwr di-Gymraeg

Bu i ni ddechrau ffermio 7 mlynedd yn ôl ac rydym wedi adeiladu buches fach o wartheg Red Devon pur. Rydym yn canolbwyntio ar ffermio cynaliadwy, mewnbwn isel. Mae gennym dystysgrif Sicrwydd Fferm, Cynllun Iechyd Gwartheg Premiwm (buches elitaidd) ac wedi’n hardystio fel fferm sy’n cael bwyd o borfa 100% gyda Pasture for Life. Rydym yn gobeithio rhoi cyfle i rywun ennill/dod â phrofiad a chynyddu nifer y da byw ar y fferm. Bu i ni werthu ein defaid ein hunain yn gynharach eleni, ond mae posibilrwydd o ailgyflwyno defaid (defaid magu, neu efallai pesgi ŵyn stôr) i gynorthwyo gyda rheoli porfa. Yn ogystal â'r fferm, mae gennym 2 fwthyn gwyliau sy’n cael eu gosod ar y fferm - efallai y bydd un ar gael i'r partner sy'n dod i mewn.

Fy nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf

  1. Parhau i ddatblygu busnes y fferm da byw, gyda ffocws cryf ar les anifeiliaid.
  2. Rhyddhau amser ar gyfer gweithgareddau eraill.
  3. Rhoi cyfle i newydd-ddyfodiaid, neu bâr ifanc sydd am ddechrau ffermio. 

Manylion y fferm 

Arwynebedd tir sydd ar gael: Cyfanswm o 68 hectar/168 acer, 45 hectar/111 acer o dir pori da

Isadeiledd sydd ar gael:

Ystod o adeiladau atcost (un a ddefnyddiwyd fel sied ŵyna mewn blynyddoedd blaenorol)
System trin a thrafod gwartheg ardderchog
System trin a thrafod defaid
Prif gyflenwad dŵr i bob cae

Da byw sydd ar gael

  • 24 o wartheg Sugno Red Devon
  • 1 Tarw Red Devon
  • 25 o wartheg cyfnewid

Peiriannau sydd ar gael

NH T5-110 gyda llwythwr / telehandler JCB / cloddiwr bach Kubota

Peiriant torri gwair / rholer / trelar 6T / peiriant taenu tail  flail / Guttler Greenmaster gyda pheiriant hadu gyda aer

Trelar da byw Ifor Williams (un mawr, un bach)

Llety ar gyfer y sawl sy’n chwilio am gyfle: Oes

Yr ardal leol: Rydym ni tua 20 munud o Wdig ger St.Nicholas. Mae'r fferm yn rhedeg i'r clogwyni draw am Bwll Deri, lle mae goleudy Pen-caer i’w weld. Mae Hwlffordd tua 40 munud.

Pa fath o gytundeb ydych chi'n ei ystyried? Contract hunan-gyflogedig ar gyfer gwasanaethau neu cytundeb Ffermio cyfran

Nodweddion allweddol y byddwn yn edrych amdanynt mewn partner busnes

Rydym yn chwilio am unigolyn o'r un anian, neu bâr ifanc i ymuno â ni i gynyddu cynhyrchiant da byw'r fferm. Mae gwella rheolaeth pori yn gynaliadwy yn allweddol i hyn, felly mae gwybodaeth a phrofiad yn y maes hwn yn ddefnyddiol. Mae hyblygrwydd, cyfathrebu da a natur siarad yn blaen i gyd yn werthfawr. Mae angen ymagwedd dawel wrth drin a thrafod da byw.

I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen ‘mynegi diddordeb’ isod:

Manylion Cyswllt:
Defnyddir y rhif hwn i gysylltu â chi.
Amdanaf fi:
Cyflogwr Teitl Swydd Dyddiad Dechrau Dyddiad Gorffen