Arallgyfeirio a Gwerth Ychwanegol

Manteision ar gyfer eich busnes:

Gallai menter arallgyfeirio arwain at well dulliau o weithio neu ffrwd incwm ychwanegol.

Bydd y categori hwn yn eich cynorthwyo i asesu dichonolrwydd eich syniad, a byddwch yn derbyn cyngor ynglŷn ag agweddau gan gynnwys cynllunio ariannol a busnes, rheoliadau, prosesau deddfwriaethol, ymchwil i’r farchnad ac elfennau eraill o’r gymysgedd gyflenwi a marchnata.

Mae gan fusnesau 9 mis i gwblhau cyngor un-i-un a 12 mis i gwblhau cyngor grŵp, oni bai bod cais y grŵp yn cael ei gymeradwyo ar ôl 1 Chwefror 2022. Yn yr achos hwn, bydd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r cyngor yn 31.01.2023.