Pam fyddai Adam yn fentor effeithiol

  • Symudodd Adam, sy’n ddysgwr Cymraeg, i Orllewin Cymru yn 2010 i sefydlu Gardd Fasnachol Glebelands, siop fferm sy'n gwerthu cnydau tymhorol o safle organig wyth erw ger Aberteifi. Ei gynllun oedd adeiladu ar fodel arloesol yr ardd fasnachol faestrefol a redodd ef a phartner busnes rhwng 2001 a 2009 ym Manceinion.   
  • Cyn Glebelands Fersiwn I, roedd Adam wedi sefydlu Unicorn Grocery Ltd ym Manceinion ym 1996. Heddiw, mae hwnnw’n parhau i fod yn un o'r manwerthwyr annibynnol mwyaf o fwydydd organig yn y DU, gan gynnig ffrwythau a llysiau organig o ffynonellau lleol a chynhyrchion deli masnach deg. Athroniaeth y cwmni yw gweithio gyda chynhyrchwyr y DU i hyrwyddo deiet tymhorol, cost-effeithiol, sy'n hygyrch i bawb.
  • Er nad yw'n dod o gefndir ffermio, mae gan Adam brofiad o'r holl faterion rheoli, ariannol, staffio a chynllunio sy'n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg busnesau manwerthu bwyd a garddwriaeth, ac mae wedi arfer hefyd ag asesu ceisiadau benthyg a chyfrifon rheoli yn y sector cydweithredol.   
  • Mae Gardd Fasnachol Glebelands wedi parhau i dyfu'n gyson, bellach yn darparu cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn, ac mae ganddi broffil lleol cryf. Mae’r ardd ar agor i'r cyhoedd bedwar diwrnod yr wythnos, ac mae Adam yn tyfu amrywiaeth eang o gnydau tymhorol sy'n cael eu cefnogi gan lysiau gwraidd a ffrwythau a dyfir gan dyfwyr rhanbarthol eraill, sydd hefyd yn cael eu gwerthu i fwytai, siopau a busnesau lleol eraill.
  • Ac yntau'n eiriolwr brwd dros gynhyrchu bwyd cynaliadwy, mae Adam yn benderfynol o adael y pridd yn gyfoethocach ac yn ddyfnach nag yr oedd pan ddechreuodd ei drin. Mae'n dweud bod y pridd yn cael ei bweru yn y pen draw gan yr haul a gwastraff compostio, drwy blanhigion sy’n sefydlogi nitrogen megis meillion a ffacbys, gyda chymorth amodau hinsoddol tymherus gorllewin Cymru.  
  • Mae Adam yn hapus i gynnig cyngor i'r rhai sy'n sefydlu gardd fasnachol neu fentrau cynhyrchu bwyd eraill, ac mae'n credu y bydd yr argyfwng ynni a thanwydd a’r cyfyngiadau o ran mewnbynnau ar hyn o bryd yn gwneud y math hwn o fenter yn fwyfwy pwysig. Mae’n wrandäwr a chyfathrebwr da, a fydd yn eich annog i siarad yn onest ac yn agored am eich disgwyliadau o 'dyfu' menter garddwriaeth neu arallgyfeirio!

Busnes fferm presennol

  • Safle organig 8 erw ger Aberteifi sy'n tyfu llysiau gwyrdd deiliog tymhorol ac ystod eang o lysiau
  • Siop Fferm Gardd Fasnachol Glebelands
  • 10,000 tr sgwâr o dwneli plastig a dyfrhau ar raddfa cae
  • 11 o gyflogeion amser llawn a rhan-amser 


Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Diploma Cenedlaethol BEC mewn Astudiaethau Busnes
  • BSc Ecoleg Ddynol 2.1 (Coleg Polytechnig Huddersfield)
  • Mwy na 20 mlynedd o brofiad ym maes sefydlu, rheoli a marchnata busnesau sy’n 'gysylltiedig â bwyd'
  • Ac yntau’n ddysgwr Cymraeg, mae Adam yn siarad Cymraeg sylfaenol.

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

"Mae garddwriaeth yn heriol, felly peidiwch â cheisio rhedeg 'yn rhy gyflym, yn rhy fuan';  gosodwch ddisgwyliadau realistig a gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda yn gyntaf. Peidiwch â thyfu nac arallgyfeirio'ch busnes nes bod gennych chi'r hyder, yr arbenigedd cywir a'r sicrwydd bod y farchnad yn barod am yr hyn rydych chi'n ei werthu."

"Gwnewch eich ymchwil a threulio amser gyda phobl brofiadol, wybodus - mae cydweithwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd at ddiben cyffredin yn rym pwerus."