Pam fyddai Carys yn fentor effeithiol
- Mae Carys yn wenynwraig llwyddiannus sydd wedi cystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau a sioeau amaethyddol ar draws y Deyrnas Unedig ers dros 25 mlynedd. Mae galw mawr amdani fel siaradwraig ac mae wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau yn cynnwys clybiau garddio, Sefydliad y Merched, ysgolion a cholegau
- Fel arbenigwraig adnabyddus gyda phrofiad uniongyrchol yn y maes cadw gwenyn, mae galw rheolaidd amdani i feirniadu a stiwardio mewn digwyddiadau yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Fawr Ogledd Swydd Efrog, Sioe’r Ucheldir, Sioe Sir Feirionydd a Sioe Flodau Amwythig
- Mae Carys yn angerddol am gadw gwenyn, rhywbeth a fydd hi’n ennill bywoliaeth llawn amser ohono’n fuan, ac mae’n awyddus i rannu ei brwdfrydedd, gwybodaeth a phrofiad gydag eraill
- Mae Carys yn awyddus i helpu gwenynwyr posib i ddefnyddio’r arferion gorau o’r dechrau, sy’n cynnwys adnabod lleoliadau addas ar gyfer y cychod, cynghori ar offer, dod o hyd i wenyn, bwydo a chadw nythfeydd yn iach yn ogystal â thynnu a gwerthu mêl a sgîl-gynnyrch
- Mae Carys hefyd yn mentora a darparu cyngor ar gadw gwenyn i grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd
Busnes fferm presennol
- Fferm denantiaeth fynydd 370 erw o fewn Parc Cenedlaethol Eryri lle mae’n ffermio gyda’i thad ar hyn o bryd
- 70 o nythfeydd gwenyn mêl (a gedwir ar y fferm a thir cyfagos) gyda’r bwriad i gynyddu i 200 o nythfeydd trwy symud i ddaliad 26 erw a sefydlu cychod gyda thirfeddianwyr lleol eraill
- 300 o famogiaid mynydd Cymreig sy’n cael eu gwerthi i’w pesgi yn bennaf
- Hwch Gymreig a pherchyll a gedwir ar gyfer troi’r tir sy’n rhy anodd i’w aredig
- Ieir maes
Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad
- 2008 – Cymdeithas Gwenynwyr Cymru (arholiad)
- 2009 - Cymdeithas Gwenynwyr Cymru (arholiad beirniadu)
- Dyletswyddau stiwardio, dyfarnu a beirniadu rheolaidd yn Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Meirionnydd, Sioe Fawr Ogledd Swydd Efrog, Sioe’r Ucheldir, Sioe Sir Dyfnaint a Sioe Flodau Amwythig, i enwi rhai
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Mynychwch gwrs cadw gwenyn awdurdodedig a gofynnwch am gyngor cyn prynu unrhyw wenyn neu offer.”
“Byddwch yn dysgu rhywbeth newydd gan wenyn yn gyson felly byddwch yn agored i ffyrdd newydd o weithio.”
“Canolbwyntiwch ar y canlyniadau ehangach o gadw gwenyn. Gallwch edrych ymlaen at werthu mêl sef y cynnyrch terfynol amlwg ond gan fod gwenyn yn helpu peillio’r holl blanhigion ar eich fferm, byddwch hefyd yn gwella ansawdd y glaswellt a’r cnydau sy’n bwydo eich stoc.”
“Gall wenyn ddarparu ffrydiau incwm ychwanegol megis mêl, cŵyr gwenyn, paill, glud gwenyn a jeli’r frenhines.”