Pam fyddai David yn fentor da
- Mae gan David Evershed gryn dipyn o brofiad o ddefnyddio dyfeisiau LoRaWAN a synwyryddion clyfar eraill i fonitro a rheoli adnoddau, a hynny ar ei fferm deuluol 400 erw ger yr arfordir. Mae’n rhedeg y fferm hon ger Clarach yng Ngheredigion gyda’i dad.
- Mae buddsoddiad y teulu mewn technoleg glyfar (tua £1,400) yn 2023 a delweddu data dŵr wedi bod yn drawsnewidiol. Mae wedi cynnig atebion cynaliadwy i heriau’r fferm sydd â thirwedd arw a chyflenwad dŵr ffynnon annibynadwy. Cyn gosod LoRaWan, roedd argaeledd dŵr yfed ar gyfer da byw yn bryder mawr a dyma oedd y rhwystr mwyaf i dwf y busnes, yn enwedig yn ystod tywydd poeth 2022.
- Roedd y fferm gynt yn dibynnu ar hen rwydwaith o ffynhonnau tymhorol a thanciau dŵr i sicrhau cyflenwad parhaus o ddŵr, a hynny ar gyfer ei diadell o famogiaid sy’n wyna tu allan, ei siediau a chartrefi. Roedd y ffaith bod ffynhonnau digonol a dibynadwy o ddŵr mewn llefydd anodd yn golygu bod y fferm yn gorfod defnyddio pympiau electronig i symud dŵr i gronfeydd. Yna, roedd y dŵr yn cael ei fwydo gan ddisgyrchiant i’r llefydd yr oedd ei angen.
- Mae synwyryddion clyfar LoRaWAN bellach yn darganfod gollyngiadau cyn gynted ag y byddan nhw’n dechrau. Mae pwmpio dŵr o ffynhonnau erbyn hyn yn gallu cael ei arwain gan ddata yn hytrach na dyfalu. Mae’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan y paneli ffotofoltäig hefyd yn arbed ynni. Mae’r busnes nid yn unig yn lleddfu’r risg bwyd a diod ac yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae hefyd yn elwa o’r canlynol:
- gwell effeithlonrwydd ynni
- gwell rheolaeth o adnoddau
- gwell diogelwch fferm
- gwell Iechyd a Diogelwch
- gwell safonau lles anifeiliaid
- Cyn dychwelyd i’r fferm yn 2022, bu David yn gweithio mewn amrywiol uwch swyddi yn y diwydiant gwyddoniaeth âr yn East Anglia a’r cyffiniau. Enillodd brofiad gwerthfawr o hyfforddi eraill – sgiliau mae’n edrych ymlaen at eu defnyddio wrth fentora gyda Cyswllt Ffermio. Mae’n deall y dirwedd amaethyddol yng Nghymru yn dda ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o lywio gwahanol brosesau yn ymwneud â cheisiadau grant Llywodraeth Cymru. Fe welwch chi ei fod yn eiriolwr gwybodus ac ysbrydoledig dros gofleidio arloesedd a thechnolegau newydd. Bydd hefyd yn eich cyfeirio at gyllid addas a allai fod ar gael.
Y busnes fferm presennol
- Fferm arfordirol 400 erw (glaswelltir wedi’i wella a’i led-wella, tir pori garw a choetir)
- 750 o famogiaid magu (ŵyn stôr mynydd Cymreig x Charolais a defaid cyfnewid Cymreig pur neu Gymreig x Aberfield)
- Model busnes a chanddo fewnbwn isel ar gyfraddau stocio isel – lle i dyfu. Mae maint y ddiadell yn cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn.
Cymwysterau/cyflawniadau/profiad
- BSc mewn Bioleg Foleciwlaidd a Biocemeg (Prifysgol Durham)
- Ymchwilydd ôl-raddedig rhan-amser yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth
Awgrymiadau am lwyddiant busnes
“Manteisiwch ar unrhyw gyllid sydd ar gael yn aml ar gyfer technoleg glyfar ac atebion arloesol i broblemau ffermio.”
“Ystyriwch rannau o'ch fferm lle rydych chi'n aml yn meddwl: 'Pe bawn i'n gwybod am x, y, neu z, fe fyddwn i wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch neu wedi gwneud penderfyniad gwahanol'. Pam nad oeddech chi’n gwybod am x, y neu z? Gofynnwch i chi’ch hun a allwch chi ddarganfod y problemau hyn am gost isel trwy ddefnyddio technoleg fodern?”