Pam fyddai Gary yn fentor effeithiol
- Magwyd Gary ar fferm deuluol gymysg yn Sir Benfro ond gadawodd i ddilyn gyrfa mewn TG, gan weithio yn y maes hwnnw o 1982 i 2010. Ochr yn ochr â hyn astudiodd arddwriaeth rhan-amser rhwng 2004 a 2005, gyda golwg ar ddychwelyd i’r fferm. Dychwelodd Gary i weithio ar y fferm llawn-amser yn 2010.
- Roedd dychwelyd i’r fferm deuluol ar ôl cyfnod hir o weithio mewn diwydiant gwahanol yn heriol ond eto yn rhoi boddhad ac, yn 2011, penderfynodd Gary newid i arddwriaeth, gan dyfu amrywiaeth o gynnyrch tymhorol. Bu’n rhaid iddo ddysgu am dyfu cnydau garddwriaethol ar raddfa cae a sgiliau newydd i redeg y busnes fel cadw llyfrau a chodi cyfalaf. Gyda’i brofiad personol o dyfu cnydau a rhedeg ei fusnes ei hun, gall Gary gynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r rhai sy’n cychwyn arni yn ogystal â garddwriaethwyr mwy profiadol sy’n gobeithio ychwanegu gwerth.
- Cychwynnodd Gary trwy gynhyrchu ffrwythau meddal cyfanwerthu ond arallgyfeiriodd i fenter Hel Eich Hun yn 2013 lle gall cwsmeriaid ymweld â’r fferm i hel mefus, mafon cochion ac eirin Mair ffres. Yn 2014 crëwyd Clwt Pwmpenni ac mae ar agor yn ystod mis Hydref yn flynyddol. Mae wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi tyfu yn sylweddol ers iddo gael ei agor gyntaf. Erbyn hyn mae gan y fferm fwy na 5,000 o ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol sydd wedi helpu i ddenu cwsmeriaid a diddordeb newydd.
- Maent hefyd yn y drydedd flwyddyn o ddatblygu menter flodau, yn tyfu amrywiaeth helaeth o flodau blynyddol a pharhaol i’w gwerthu i gyfanwerthwyr ac yn uniongyrchol.
- Mae Gary yn rhoi pwyslais mawr ar ychwanegu gwerth ac mae wedi gweld gwerth brandio; marchnata a gwerthu yn uniongyrchol, gan weithio gyda nifer o sefydliadau fel Cyswllt Ffermio, Cywain, Garddwriaeth Cymru, WRAP Cymru, Canolfan Bwyd Cymru, ADAS, Busnes Cymru a llu o rai eraill. Mae’r llwybrau i’r farchnad yn cynnwys gwerthu yn uniongyrchol, adwerthwyr lleol, cyfanwerthwyr mwy ac e-fasnach. Mae ganddo feddwl agored o ran posibiliadau newydd ac mae’n ceisio gwneud y mwyaf o unrhyw gefnogaeth sydd ar gael. Manteisiodd y busnes ar gyngor technegol a busnes a ariannwyd trwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio.
- Dyfarnwyd grant RBIS (Bwyd) am gyfleuster cynhyrchu ar y fferm i ychwanegu gwerth a lleihau gwastraff ar gyfer cynnyrch sylfaenol trwy greu cynnyrch o werth uchel.
- Mae Gary’n teimlo bod ei flynyddoedd oddi ar y fferm wedi ei alluogi i weld ffyrdd eraill o weithio o gwmpas problemau posibl a gweithredu dull ffres gan ddal i fod yn realistig am gyflawni ei nod.
Busnes fferm presennol
- Fferm arddwriaeth 60 erw
- Clwt pwmpenni 3 erw gydag amrywiaeth o bwmpenni yn cael eu tyfu yn flynyddol
- Menter casglu ffrwythau meddal eich hun 3 erw yn tyfu mefus, mafon cochion ac eirin Mair
- perllan ffrwythau 2.5 erw a blannwyd yn 2017 i gynhyrchu seidr.
- Menter flodau 10 erw yn tyfu cennin Pedr i’w cyfanwerthu a’u gwerthu trwy e-fasnach yn ogystal â’r cae blodau newydd
- Menter gadw gwenyn newydd
- Coetir cynhenid 4,000 o goed
- Gwefan e-fasnach
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- 1982-2010: Profiad 28 mlynedd yn y diwydiant TG
- 2004-2005: Cwrs Garddwriaeth, Coleg Sir Benfro
- Cyd-enillwyr Gwobr ‘Cydweithredu mewn Busnes’ Garddwriaeth Cymru am weithio gyda ffermydd bach eraill i gyflenwi cennin Pedr i adwerthwyr mawr
- Profiad o sefydlu menter fferm newydd
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Bydd dyfalbarhad, brwdfrydedd a’r dymuniad i lwyddo yn mynd â chi ymhell mewn busnes a bywyd.”
“Cadwch feddwl agored o ran posibiliadau newydd.”
“Gwnewch eich gwaith cartref!”