Pam y byddwn i’n fentor effeithiol

  • Mae Gwerfyl, sy’n ferch fferm, gwraig a mam, yn dweud nad yw hi’n ‘ddylunydd mewnol’ nodweddiadol, ond yn ddylunydd â meddylfryd ymarferol sy’n sicrhau bod steil y cleient yn cael ei ystyried. Os oes angen cyngor wyneb yn wyneb neu ar-lein arnoch ar steilio, cynllunio a dodrefnu eich cartref, eich safle busnes neu fenter arallgyfeirio, bydd yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i chi greu’r gofod perffaith. 
  • Sefydlodd Gwerfyl ei busnes dylunio mewnol ei hun, ‘Dylunio Dy Dŷ’, yng nghanolbarth Cymru tua saith mlynedd yn ôl; ers hynny, mae hi wedi rheoli gwaith adeiladu ochr yn ochr â phrif gontractwyr ac wedi rheoli steilio adeiladau newydd, trawsnewidiadau ac adnewyddu ar gyfer eiddo preswyl a masnachol ledled Cymru.
  • Yn gyfathrebwr gwych yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd Gwerfyl yn rhannu ei chyngor a’i phrofiadau gyda chi, gan wrando ar eich nodau busnes a’ch helpu i gyflawni cynlluniau ar amser ac o fewn cyllideb.  
  • Mae ei chefndir ffermio yn golygu ei bod yn deall y diwydiant amaethyddiaeth a thwristiaeth, a bydd yn eich helpu i greu cynlluniau unigryw, bythol a fydd ag apêl hir dymor i chi, eich teulu, a’ch cynulleidfaoedd targed. 
  • P’un a ydych eisiau cyngor ar gyflawni’r ‘wawffactor’ mewn un ystafell yn unig, neu os oes gennych eiddo cyfan i weithio arno, bydd Gwerfyl yn eich helpu i osgoi’r camgymeriadau costus a throi eich syniadau yn realiti.

Cymwysterau/cyraeddiadau/profiadau 

  • 2015 hyd yma: Sefydlu Dylunio Dy Dŷ, fy musnes ymgynghori dylunio mewnol annibynnol. Profiad helaeth o weithio ar brosiectau ledled Cymru. Rheolwr prosiect profiadol, yn ymwneud ag adeiladau newydd, trawsnewidiadau ac adnewyddu ar gyfer cleientiaid preifat a masnachol. Gallu cynnig cyngor ar steilio, cynllun, lloriau, dodrefn a dodrefn meddal, gosodiadau trydanol, ystafelloedd ymolchi, ceginau a mwy. Arbenigedd penodol mewn prosiectau twristiaeth fferm.   
  • 1998-2014: Swyddog grantiau gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn asesu a rheoli grantiau ar raddfa fawr, gan gynnwys grantiau cyfalaf a refeniw. 
  • 1995-1998: Gweithio mewn Llys Ynadon, gan ddelio â gorfodi dirwyon a phapurau traddodi’r Llys. 
  • 1992-1995: Teithio ledled Seland Newydd, gan weithio fel triniwr defaid a gwlân mewn gorsafoedd defaid ar raddfa fawr. 

Prif awgrymiadau ar gyfer sicrhau busnes llwyddiannus 

“Mae cymaint o agweddau i’r hyn sy’n gwneud cartref, swyddfa, siop fferm neu lety gwyliau yn ‘arbennig’, felly canolbwyntiwch a threuliwch eich amser a’ch arian yn ddoeth i greu’r gofod unigryw y byddwch chi a’ch ymwelwyr yn ei gofio am byth – am y rhesymau cywir.” 

“Rwy’n eiriolwr gwych dros gynaliadwyedd a chefnogi cynhyrchwyr lleol, felly byddaf yn eich annog i weld y potensial mewn ‘uwchgyIchu’, cymysgu’r hen a’r newydd, a rhoi syniadau gwych i chi heb chwythu eich cyllideb!”.