Pam y byddai Lilwen yn fentor effeithiol:
-
Ganwyd a magwyd Lilwen ar fferm laeth 64 erw Cyngor Sir Benfro ger Eglwyswrw. Astudiodd yng Ngholeg Gelli Aur, gan ennill NCA mewn Amaethyddiaeth yn yr 1980au, ac yna anrhydedd. Yna, datblygodd ei haddysg trwy fynd ymlaen i astudio OND yn y CAC yn Aberystwyth. Ymsefydlodd Lilwen i ffermio yn Sir Benfro ar fferm fynydd 250 erw, gan redeg diadell o 640 o famogiaid Mynydd Cymreig a buches o 40 o wartheg Duon Cymreig. Arallgyfeiriwyd y fferm i lety gwyliau, dysgu a dofi ceffylau, yn ogystal â chynnal hyfforddiant traws gwlad a gwersylloedd merlod.
-
Daeth Lilwen yn fentor Cyswllt Ffermio yn 2018, ac mae wedi bod yn arweinydd Agrisgôp gyda Cyswllt Ffermio ers mis Mawrth 2017, gan redeg bron iawn i 20 o grwpiau dros y pedair blynedd diwethaf.
-
Lilwen yw sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘InnerSense Consultants Ltd’, sy’n darparu gwasanaeth olyniaeth i fusnesau fferm a hyfforddiant cyfannol i fentrau bach a chanolig. Mae’r cwmni’n ymgorffori hyfforddiant a chwnsela gyda’i gilydd fel dull cyfannol o rymuso arweinwyr busnes i werthuso, rheoli’n effeithiol a rhoi newid ar waith er mwyn cyflawni eu nodau busnes ac ariannol yn rymus. Lilwen yw sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Horse Sense for Life CIC’, hefyd, sy’n darparu gwasanaeth seicotherapi a dysgu gyda chymorth ceffylau i unigolion, grwpiau a thimau.
-
Mae Lilwen yn angerddol am iechyd meddwl a lles mewn ardaloedd gwledig. Hi yw perchennog ac ymarferydd preifat ‘Lilwen Selina Joynson Counselling’, sef busnes bach sy’n darparu gwasanaeth cwnsela integredig wyneb yn wyneb i unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chleientiaid ar faterion amrywiol sy’n amharu ar eu bywyd, naill ai yn y tymor byr neu’r tymor hir.
Cymwysterau:
- Awst 2021 - Siân Bushell Associates - Cwrs Hwyluso Olyniaeth Busnes Fferm wedi'i gwblhau
- Ionawr 2021- 12 sesiwn o hyfforddiant Niwroadborth a Hyfforddiant Uwch Neuroptimal
- Chwefror 2017 - Hydref 2019 – DPP ar gyfer Twf a Dysgu a Gynorthwyir gan Geffylau
- Tachwedd 2019 – ‘Neuro change solutions’ - Daksha Patel (Hyfforddwr dros Dr Joe Dispenza) hyfforddiant 2 ddiwrnod ar gyfer timau corfforaethol
- Ebrill 2019 - Gweithdy Blaengar Dr Joe Dispenza Caeredin, yr Alban
- Mawrth 2019 – Rhaglen Matrix - gyda Bob Proctor yn Toronto, Canada
- Hydref 2019- Datblygiad Arweinyddiaeth 2 Ddiwrnod yn Ysgol Fusnes Ryngwladol Ashridge
- Hydref 2010 hyd Heddiw – Rhaglen Rheoli Timau ac Arweinyddiaeth (TMLP) Landmark Worldwide Courses, a chwrs dwy flynedd ‘Entrepreneurial Advanced Communication’ / ‘Introduction Leaders Program’ (ILP)
- Awst 2009 hyd Heddiw - Cymdeithas Twf a Dysgu a Gynorthwyir gan Geffylau, Ymarferydd Ardystiedig EAGALA. Goruchwyliaeth Fisol a'm hunanymwybyddiaeth fy hun ar gyfer Cwnsela Preifat/ ‘Horse sense for Life’
- Medi 2008 - Gorffennaf 2011 – Prifysgol Roehampton, BSc Cwnsela Integreiddiol
- Medi 2008 - Gorffennaf 2009 - Cwrs Sylfaen Prifysgol Llambed
- Medi 1982 - Ebrill 1985 - Coleg Amaethyddol Cymru OND Amaethyddiaeth
- Medi 1981 - Gorffennaf 1982 – Coleg Gelli Aur, Rhagoriaeth NCA
Awgrymiadau da ar gyfer llwyddiant mewn busnes:
“Mae fy ymrwymiad i sicrhau bod mentrau ffermio a busnesau yn effeithiol ac yn gynaliadwy i’r dyfodol yn rhywbeth yr wyf wrth fy modd yn ei wneud. Mae dod â fy sgiliau datblygu personol â phobl, a’m profiad o hwyluso grwpiau ynghyd yn dangos fy ymrwymiad clir i deuluoedd ffermio.”