Datblygu ffordd newydd o fesur yn gyflym effeithiau triniaeth agronomig ar dyfiant glaswellt

Mae mesur cynnyrch glaswellt yn cymryd llawer o amser ac yn llafurus oherwydd ei fod naill ai’n cynnwys mesuriadau lluosog gyda mesurydd plât sy’n codi neu gyfrif a phwyso trelars silwair.
Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gellid defnyddio adlewyrchiad sbectrol o gnydau glaswellt a fesurwyd gan loeren i fesur cynnyrch glaswellt yn gywir. Mae’r dull hwn yn cynnig dull llawer mwy syml a chyflymach o fesur cynnyrch glaswellt a fyddai’n galluogi ffermwyr i brofi effaith gwahanol driniaethau agronomig er mwyn gwneud y gorau o’u dull hwsmonaeth laswellt. Bellach, gellir defnyddio delweddau adlewyrchiad sbectrol a ddaliwyd gan ddronau hefyd i fesur tyfiant glaswellt a all gynhyrchu delweddau manylach, fodd bynnag mae hyn yn ddibynnol ar weithredu â llaw.

Daeth tri ffermwr llaeth yn Sir Fynwy at ei gilydd i ymchwilio i weld a oedd y dulliau newydd hyn o fesur glaswellt wedi eu galluogi i fesur cynnyrch glaswellt yn ddibynadwy ac yn gyflym. 
Eu gobaith oedd y byddai'r dechnoleg yn caniatáu iddynt fesur effeithiau gwahanol driniaethau agronomig (triniaethau gwrtaith, mathau o laswellt a'r defnydd o chwynladdwr ac ati) o bell ar eu caeau eu hunain.

Y cynllun prosiect dwy flynedd:

  • Ar draws y tair fferm, roedd pum treial llain ar raddfa cae mewn caeau glaswellt a glaswellt/meillion yn 2020 a 2021 yn profi ystod eang o driniaethau agronomig gan gynnwys cymysgeddau gwahanol o laswellt a meillion, cyfraddau gwrtaith sylffwr, slyri, hyrwyddwr twf Smart Grass a biosymbylydd.
  • Y driniaeth reoli oedd triniaeth safonol y fferm, yr oedd y triniaethau'n ceisio ei gwella.
  • Ar ôl i'r driniaeth gael ei rhoi, mesurwyd biomas porthiant ar draws y gwahanol leiniau prawf gan ddefnyddio mesurydd plât sy’n codi, lloeren a delweddau drôn WDRVI (Mynegai Llystyfiant Ystod Deinamig Eang).