21 Ebrill 2022

 

Yn sgil yr astudiaeth ar sail ffermydd yng Nghymru, gwelwyd bod synwyryddion o bell yn gallu darparu gwybodaeth bwysig am sut mae glaswellt yn ymateb i fewnbynnau, a hynny'n fanylach ac yn gyflymach na phe bai ffermwyr yn mesur â llaw gyda phlât mesur sy’n codi.

Sefydlwyd cynlluniau ar fannau penodol ar dair fferm laswelltir yng Nghymru ar gyfer prosiect tair blynedd Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru er mwyn gallu casglu data am y ffordd yr oedd y borfa’n ymateb i sefyllfaoedd agronomegol gwahanol.

Defnyddiwyd drôn, technoleg lloeren a phlât mesur i gasglu'r wybodaeth honno a chymharwyd y canlyniadau.

Cafodd twf mewn gwahanol gymysgeddau glaswellt a meillion ei fonitro yn ogystal â’r ymateb wrth ddefnyddio gwahanol gyfraddau o wrtaith sylffwr. Roedd y cynllun treialu hefyd yn edrych ar sut yr oedd y glaswellt ymateb i driniaeth slyri a thriniaethau eraill gan gynnwys elfennau sy’n hybu twf glaswellt ac echdynnyn gwymon.

Roedd y cnwd glaswellt yn cael ei fesur yn rheolaidd.

Mae'r dechnoleg o bell yn defnyddio system a elwir yn adlewyrchiad sbectrol sy'n gallu amcangyfrif arwynebedd dail canopi cnydau. Un o'r mesuriadau a ddefnyddiwyd yn y cynllun treialu oedd WDRVI (Mynegai Llystyfiant Ystod Ddynamig Eang), sy'n fynegai o wyrddni planhigion a maint y canopi.

Dadansoddwyd yr wybodaeth o'r dechnoleg hon, a dangoswyd ei bod yn gallu canfod gwahaniaethau sylweddol yn y triniaethau agronomegol a ddefnyddiwyd ar y ffermydd oedd yn rhan o’r astudiaeth – data na fyddai’n bosibl ei gasglu gan y plât mesur.


Dangosodd yr astudiaeth hefyd wahaniaethau pwysig yn y data a geir o'r ddau ddull synhwyro o bell - gallai'r drôn ganfod y gwahaniaethau lleiaf rhwng y triniaethau ar lefel oedd ddwy neu dair gwaith yn llai na'r lloeren a ddefnyddiwyd. 

Ond yn ôl Katie Evans, ymgynghorydd ADAS, oedd yn gyfrifol am reoli’r astudiaeth, mae canlyniadau'r cynllun treialu’n dangos y gall ffermwyr fod yn hyderus wrth ddefnyddio'r naill dechnoleg neu'r llall i amcangyfrif biomas glaswellt ar eu ffermydd ac i weithio allan a yw'r triniaethau agronomegol maen nhw'n eu defnyddio yn cynyddu biomas glaswellt, ac i ba raddau.

"Gellid defnyddio mynediad at ddata ychwanegol o loeren a dronau i lywio agronomeg fanwl a helpu ffermwyr glaswelltir i fireinio'r gwaith o reoli glaswelltir a gwella perfformiad ffermydd,'' meddai Ms Evans.

Ar hyn o bryd, plât mesur yw'r ffordd fwyaf cyffredin o fesur cnwd glaswellt ond mae’r broses yma’n cymryd llawer o amser.

Gall systemau cynaeafu porthiant newydd hefyd fapio cnwd glaswellt, ond ychydig o ffermwyr sydd â mynediad at y dechnoleg yma, meddai Ms Evans.

Mae hyn yn groes i'r sector âr lle mae gan y rhan fwyaf o gombeiniau fonitorau cnwd sy'n cynhyrchu mapiau cnwd fel bod modd i ffermwyr ddeall yr effaith y mae gwahanol driniaethau agronomegol yn ei chael.

"Dydi cynhyrchwyr glaswellt a phorthiant ddim yn gallu gwneud hyn yn hawdd iawn ac mae perygl y byddan nhw ar ei hôl hi o ran gwella cynhyrchiant,'' meddai Ms Evans.

Nid pwrpas y prosiect EIP oedd profi a oes modd defnyddio dulliau synhwyro o bell i fesur twf glaswellt yn unig – mae hyn eisoes wedi’i brofi, meddai. 

"Pwrpas y prosiect hwn oedd galluogi ffermwyr i brofi effaith arferion agronomegol newydd yn rhad ac yn ddibynadwy.''

Ond mae cafeatau. Wrth ddefnyddio dronau mae angen arbenigedd technegol ar ffermwyr i weithredu a chasglu data; neu byddai’n bosibl mynd ar ofyn contractwr arbenigol.

Mae angen arbenigedd hefyd i gaffael data o loerennau a dim ond mewn amodau cymylog y gellir ei gael.

“Mae defnyddio data drôn a lloeren yn gofyn am sgiliau dadansoddi arbenigol i brofi a yw triniaeth agronomegol wedi cael effaith ystadegol sylweddol ar dwf glaswellt,'' meddai Ms Evans.

 

Ystyried y costau

Yr opsiwn drutaf yn y prosiect hwn oedd defnyddio drôn i ganfod gwahaniaethau rhwng y triniaethau - roedd yn costio tua £850 ar gyfer cae o faint cyffredin.

O gymharu â hyn, roedd data lloeren o loeren Sentinel-2 yn rhad ac am ddim ond i gael mynediad ato roedd angen gwerth tua £200 o amser ymgynghorydd ar gyfer pob cae.

Roedd y broses o ddadansoddi'r data i brofi effaith y triniaethau agronomegol ar sail ystadegau yn arwain at gostau uwch - ar gyfer y drôn roedd tua £400 y cae ac am y lloeren £250. 

Dywed Ms Evans fod y costau hyn - nad ydynt yn cynnwys TAW - yn dibynnu ar allu'r ffermwr i ddarparu cyfesurynnau GPS a bod dim angen ymweliadau ychwanegol gan ymgynghorwyr. 

"Yn y treialon arbrofwyd effeithiau triniaeth rhwng 150 a 1100 kg o fiomas sych yr hectar, felly bydd mwy o werth pan gaiff ei ddefnyddio ar gyfer nifer o gaeau,'' meddai.

Wrth wneud arolwg o grŵp o gaeau cyfagos, mae’n debygol y byddai modd eu cynnwys yn yr un ddelwedd lloeren, a thrwy hynny arbed arian.

Gall ffermwyr rannu'r costau drwy ymuno â'i gilydd i gynnal y mathau yma o dreialon ar ffermydd, yn ôl Ms Evans - er enghraifft gallai tri ffermwr ddod at ei gilydd i ariannu cost dau gynllun treialu.

 

ASTUDIAETH ACHOS

Mae gan David Jones, ffermwr llaeth, system silwair aml-doriad i wneud porthiant ar gyfer ei fuches o 200 o fuchod Holstein Friesian.

Mae'n dibynnu ar ddata a geglir drwy bwyso trelars silwair i ddeall sut mae caeau yn Fferm Hardwick, ger y Fenni yn perfformio, ond dim ond yn achlysurol y gwneir hyn.

Fel un o'r tri ffermwr a gymerodd ran yn yr astudiaeth EIP, roedd am weld a allai technoleg gynnig gwell ffordd o gael y wybodaeth honno, gyda phwyslais arbennig ar ba gymysgeddau o hadau glaswellt sy'n perfformio orau yn ei system.

Ail-heuodd gae gan ddefnyddio tri chymysgedd amrywiol - meillion coch a rhygwellt, meillion gwyn a rhygwellt a rhygwellt yn unig - a chafodd y rhain eu rheoli yn yr un ffordd. 

Defnyddiwyd technoleg drôn a lloeren a phlât mesur i fonitro sut yr oedd y gwndwn yn tyfu.

Yn y cynllun treialu hwn, y data drôn a roddodd yr wybodaeth fanylaf - gan ddatgelu gwahaniaethau ystadegol sylweddol yn y mynegeion llystyfiant sy'n fesur o fiomas porthiant.

"Bydd cael y wybodaeth yma, na fyddwn erioed wedi gallu ei chael wrth bwyso trelars silwair, yn fy helpu i mi wneud penderfyniadau ynglŷn ag ail-hau,'' meddai Mr Jones, sy'n cynhyrchu llaeth drwy system odro robot.

Er bod y gost sy'n gysylltiedig â chipio'r data yn gostus, dywed Mr Jones gyda chostau mewnbwn cynyddol ei fod yn hyderus y gallai'r gwariant ariannol gael ei adennill yn gyflym.

"Rwy'n credu bod y broses yn werthfawr i'n helpu i gynnal ansawdd ein silwair glaswellt,'' meddai Mr Jones, sy'n ail-hau tua 20 hectar o'i dir bob blwyddyn.

"Hefyd, os ydym ni’n defnyddio gwahanol gyfraddau gwrtaith gallwn weld beth sy'n gweithio ac yn rhoi gwerth am arian i ni. Mae hynny'n bwysicach yn awr gyda chwyddiant ar gynnydd.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu