Lleihau allyriadau amonia o systemau cynhyrchu brwyliaid
Bydd y prosiect hwn yn edrych sut i leihau allyriadau amonia o siediau brwyliaid gan ddefnyddio ychwanegion sydd ar gael yn fasnachol.
Cefndir
Mae systemau cynhyrchu brwyliaid wedi bod ar gynnydd yn y sector amaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r galw cynyddol am gywion ieir wedi darparu cyfleoedd arallgyfeirio hyfyw i nifer o ffermwyr Cymru. Canlyniad anochel unrhyw fath o ffermio dofednod yw cynhyrchu amonia, wrth i wradau ddadelfennu’n naturiol mewn tail ieir. Gall allyriadau amonia o systemau cynhyrchu dofednod effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, lles yr adar ac agweddau economaidd systemau cynhyrchu brwyliaid.
Cyfeirir at lefelau uchel o allyriadau amonia fel un o'r prif resymau dros wrthod trwyddedau neu dros wahardd ehangu arfaethedig. Mae siediau modern gyda gwell awyru a gwresogi ynghyd â gwell gwasarn wedi lleihau allyriadau amonia.
Gall gwelliannau pellach fod yn bosibl drwy ddefnyddio ychwanegion sy'n lleihau amonia naill ai wedi'u rhoi yn uniongyrchol yn y gwasarn neu eu rhoi i'r adar drwy'r dŵr yfed.
Roedd dau gynhyrchydd brwyliaid masnachol sefydledig, gydag adeiladau modern a nifer o flynyddoedd o brofiad o gynhyrchu dofednod ar gyfer marchnad y DU, yn rhan o'r prosiect blwyddyn hwn a ymchwiliodd i weld a all yr ychwanegion hyn leihau eu hallyriadau amonia.
Profwyd tri ychwanegyn gwahanol sy’n lleihau amonia a oedd ar gael yn fasnachol ar bob fferm. Ar y ddwy fferm, defnyddiwyd un sied ar gyfer y treial a'r llall fel rheolydd. Profwyd pob cynnyrch ar gyfer un cylch haid brwyliaid cyflawn (2 fis) a chofnodwyd y newidynnau canlynol:
- Lefelau amonia o fewn y siediau
- Tymheredd o fewn y sied
- Cyflwr pad traed, sgorio cymal yr egwyd a cherddediad
- Cyflwr plu
- Cyflwr gwasarn
- Pwysau byw cymedrig adar
- Marwolaethau o fewn yr haid
- Cymeriant porthiant
Canlyniadau'r Prosiect:
- Roedd allyriadau amonia ychydig yn is mewn gwirionedd yn y siediau rheoli nag yn y rhai â chynhyrchion wedi'u hychwanegu. Unwaith eto, roedd y gwahaniaethau'n fach iawn, dim ond tua 3%. Oherwydd maint bach y sampl, mae'n amhosibl gwybod yn sicr a oedd y gwahaniaethau a welwyd ar hap neu'n cynrychioli gwir effeithiau o'r ychwanegion.
- Roedd y pwysau byw cyfartalog yn y siediau â chynhyrchion ychydig yn is nag yn y siediau rheoli, er bod yr oedran cyfartalog wrth brosesu ychydig yn uwch. Mae'r gwahaniaethau unwaith eto’n ymylol serch hynny.
- Mae gan ddefnyddio ychwanegion y potensial i arwain at ddeunydd sych gwasarn uwch mewn siediau dofednod o'i gymharu â'r rhai nad ydynt yn derbyn unrhyw ychwanegion. Os yw'r gwahaniaeth hwn yn wirioneddol, yna byddai'r defnydd o gynhyrchion yn gyson â'r nod o gadw gwasarn mor sych â phosibl.
- Amlygodd y prosiect rai anawsterau posibl wrth gyfrifo ffactorau allyriadau amonia mewn lleoliadau masnachol ac efallai y bydd angen astudiaethau pellach i ddatrys materion methodoleg ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.