Ymchwiliad i effaith systemau cynhyrchu llaeth cyferbyniol yng Ngorllewin Cymru ar broffil asid brasterog llaeth (omega-3 a 6 yn arbennig)
Nid yw’r corff dynol yn gallu cynhyrchu’r asidau brasterog omega-6 ac omega-3. Gelwir y rhain yn “asidau brasterog hanfodol” gan fod rhaid iddynt gael eu bwyta yn ein diet. Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn cael digon o omega-3. Rydym yn dueddol o gael lefelau llawer uwch o omega-6 yn ein diet. Gall y diffyg cydbwysedd hwn mewn asidau brasterog gael effaith negyddol ar ein hiechyd. Mae cynyddu faint o omega-3 yr ydym yn ei gael a chael y cydbwysedd cywir rhwng y ddau yn hanfodol a gwelwyd bod i hynny fanteision amrywiol o ran iechyd i’r meddwl a’r corff.
Mae ugain o ffermwyr llaeth o Dde Orllewin Cymru wedi dod at ei gilydd i ymchwilio a yw systemau cynhyrchu llaeth yng Ngorllewin Cymru eisoes yn cynnwys lefelau gwerthfawr o omega-3. Eu nod yw dynodi pa arferion rheoli ar sail porfa sy’n cynhyrchu’r lefelau uchaf o asid brasterog. Gallai’r canlyniadau roi cyfle i ffermwyr llaeth ystyried y dewisiadau ar sail porthiant o gynhyrchu llaeth gyda lefelau uwch o omega-3. Gallai hyn roi mantais wrth farchnata heb fynd i’r gost ychwanegol o ychwanegu ategolion at eu porthiant. Mae’r grŵp yn cyflenwi eu llaeth i nifer o wahanol brynwyr a phroseswyr llaeth, gan gynnwys llaeth hylifol, llaeth hylifol premiwm organig, cynhyrchwyr caws a chynhyrchwyr cynhwysion bwyd uchel eu gwerth. Mae potensial i’r defnyddwyr llaeth yma i gyd fanteisio ar ganlyniadau’r prosiect trwy farchnata eu cynnyrch am eu cynnwys omega-3 uchel.
Archwilir pedair system gynhyrchu llaeth:
- Confensiynol Dan do yn y gaeaf/allan yr haf
- Buchesi sydd dan do trwy’r flwyddyn
- Buchesi organig
- Buchesi sy’n lloea mewn bloc yn y gwanwyn