27 Ebrill 2022

 

Dr Emma Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’n bosibl addasu cyfansoddiad asid brasterog mewn llaeth drwy wneud newidiadau i ddiet y fuwch.
  • Mae llaeth gwartheg sy’n pori glaswellt ffres yn cynnwys lefelau uwch o asidau brasterog annirlawn gan gynnwys asidau brasterog omega-3 ac omega-6 na llaeth gwartheg sy’n bwyta porthiant wedi’i gywain a dognau cymysg.  
  • Trwy gynyddu lefelau asidau brasterog amlannirlawn mewn llaeth, ceir potensial i gynyddu’r buddion iechyd dynol sy’n gysylltiedig â llaeth, gan gynyddu potensial marchnata systemau cynhyrchu llaeth sy’n seiliedig ar y borfa.

 

Cyflwyniad

Mae’r llaeth sy’n cael ei gynhyrchu gan fridiau gwartheg llaeth yn cynnwys oddeutu 87% o ddŵr ac amrywiaeth o gyfansoddion toddedig, emylsiog a gwasgaredig.  Mae’r cyfansoddion yn cynnwys lipidau, proteinau, carbohydradau, halenau, fitaminau a mwynau. O’r gwahanol fathau o lipidau sy’n cael eu cynnwys mewn llaeth, mae asidau brasterog o ddiddordeb penodol gan ein bod yn gwybod bod y rhain yn effeithio’n sylweddol ar iechyd dynol.

Mae llaeth buwch yn cynnwys dros 400 o asidau brasterog. Mae’r rhain yn cael eu dosbarthu yn ôl strwythur moleciwlaidd, ac yn cael eu galw’n asidau brasterog dirlawn, mono-annirlawn, neu amlannirlawn. Mae asidau brasterog dirlawn yn seiliedig ar asgwrn cefn carbon sydd wedi’i gysylltu gyda bondiau unigol yn unig, gan olygu eu bod yn gwbl “ddirlawn” gydag atomau hydrogen ynghlwm. I’r gwrthwyneb, mae gan asgwrn cefn carbon asidau brasterog annirlawn un (mono) neu fwy (aml) o fondiau dwbl, gan olygu bod llai o atomau hydrogen ynghlwm â’r gadwyn garbon. Y gwahaniaethau hyn mewn strwythur moleciwlaidd sy’n gyfrifol am wahanol nodweddion brasterau dirlawn ac annirlawn. Er enghraifft, mae asidau brasterog dirlawn yn tueddu i fod yn solid ar dymheredd yr ystafell, ac mae asidau brasterog annirlawn yn tueddu i fod yn hylif ar dymheredd yr ystafell.

Gellir isrannu asidau brasterog annirlawn ymhellach yn ôl safle’r bond dwbl cyntaf. Mewn asidau brasterog omega-3, mae’r bond dwbl yn digwydd ar y trydydd atom carbon, ac mewn asidau brasterog omega-6, mae’r bond dwbl yn digwydd ar y chweched atom (gan ddefnyddio cyfundrefn enwi gwlad Groeg). Mae asid Alffa-linolenig (ALA), asid brasterog omega-3, a’r asid brasterog omega-6, asid linolëig, yn asidau brasterog amlannirlawn hanfodol i ddiet pobl Maen nhw’n hanfodol gan nad oes modd i’r corff dynol eu cynhyrchu ac mae’n rhaid iddynt gael eu bwyta. Mae enghreifftiau eraill o asidau brasterog omega-3 yn cynnwys asid docosahecsaenoig (DHA) ac asid eicoasapentaenoig (EPA), ac mae asid arachidonig yn enghraifft o asid brasterog omega-6. Cig, llaeth, wyau, pysgod ac olewau planhigion yw’r ffynonellau mwyaf o’r asidau brasterog hyn yn niet pobl.

Mae asidau brasterog amlannirlawn yn cael eu dosbarthu yn ôl lleoliad eu bond dwbl cyntaf.

Yn gyffredinol, ystyrir fod brasterau amlannirlawn yn fwy buddiol i iechyd dynol na brasterau dirlawn, gan fod brasterau dirlawn wedi cael eu cysylltu gyda chyflyrau megis cynnydd mewn colesterol lipoprotein dwysedd isel (LDL), clefyd y galon a strôc. Fodd bynnag, mae gan asidau brasterog annirlawn megis omega-3 ac omega-6 swyddogaethau biolegol gwarchodol. Un asid brasterog omega-6 sy’n bresennol mewn llaeth yw asid linolëig rhediadol. Gwelwyd fod gan hwn nodweddion gwrth-garsinogenaidd cryf, a dyma’r asid brasterog sy’n cael ei astudio fwyaf helaeth mewn llaeth. Fodd bynnag, mae’r cydbwysedd dietegol rhwng asidau brasterog omega-6 ac omega-3 yn effeithio’n gryf ar eu swyddogaeth. Mae dieteau gyda chymhareb asidau brasterog omega-6 i omega-3 uchel, megis diet y gorllewin, yn gysylltiedig â chynyddu'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd, canser, a chlefydau llidiol ac awtoimiwnedd. Fodd bynnag, credir fod dietau gyda chymhareb asidau brasterog omega-6 i omega-3 is (1-4:1), yn lleihau’r risg o ddioddef nifer o glefydau cronig. Felly mae bwyta brasterau amlannirlawn yn hytrach na brasterau dirlawn, yn enwedig asid linolëig rhediadol ac ALA, a bwyta diet gyda chymhareb isel o ran omega-6 i omega-3 yn bwysig er mwyn sicrhau’r iechyd gorau posibl.

Gan fod proffil asidau brasterog dirlawn ac amlannirlawn mewn llaeth yn cael ei ddylanwadu gan ddiet y fuwch, mae’n bosibl gwneud addasiadau er mwyn cynhyrchu llaeth gyda chyfansoddiad asidau brasterog sy’n cael eu hystyried yn fuddiol i iechyd pobl. Mae un prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop a oedd yn cynnwys 20 fferm laeth yn Ne Orllewin Cymru yn ceisio ymchwilio pa ymarferion rheoli’r borfa sy’n arwain at y lefelau uchel o asidau brasterog amlannirlawn yn eu llaeth.  

 

Pa ffactorau sy’n effeithio ar grynodiad asidau brasterog mewn llaeth?

Mae crynodiad asid brasterog mewn llaeth yn ddibynnol ar nifer o ffactorau, gan gynnwys cyfansoddiad asid brasterog yn niet y fuwch, gweithgaredd microbaidd y rwmen, a synthesis asidau brasterog o fewn y chwarren laeth.

Yn nodweddiadol, mae asidau brasterog dirlawn yn gyfrifol am 70-75% o’r asidau brasterog sydd mewn llaeth yn ôl pwysau.  Daw swm sylweddol o’r asidau brasterog hyn o’r broses biohydrogenu asidau brasterog annirlawn gan ficro-organebau yn y rwmen, ac o synthesis o fewn y chwarren laeth. Mae asidau brasterog mono-annirlawn ac amlannirlawn yn gyfrifol am 20-25% a 0-5% o’r asidau brasterog mewn llaeth yn y drefn honno, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn deillio’n uniongyrchol o ddiet y fuwch. Daeth un astudiaeth benodol o’r fuches laeth yn Sweden yn 2001, sy’n defnyddio system siediau a phori cymysg tebyg i’r system a ddefnyddir amlaf yn y DU, i’r casgliad fod asidau brasterog amlannirlawn yn gyfrifol am 2.3% o gyfanswm yr asidau brasterog yn ôl pwysau, gydag asid linolëig ac ALA yn fwyaf amlwg, gyda chymhareb o 2.3:1.

Mae ffactorau’n ymwneud â diet sy’n effeithio ar grynodiad a chyfansoddiad asidau brasterog mewn llaeth yn cynnwys cymeriant egni, cymeriant ffibr, ac eplesiad yn y rwmen. Fodd bynnag, mae’r ffactorau sy’n cael eu hystyried fwyaf dylanwadol yn benodol i’r planhigion eu hunain, y cyltifar, y cam yn nhwf y planhigyn a’i statws (ffres neu wedi’i silweirio). Mae ffactorau amgylcheddol rhanbarthol ac yn ymwneud â’r tywydd hefyd yn cael rhywfaint o effaith, fel y mae geneteg y gwartheg (brid), a’r cam yn y broses laetha.

Ar gyfer porthiant glaswellt a chodlysiau ffres, mae’r cynnwys asidau brasterog yn gyffredinol yn is na 50g fesul Kg/DM. Fodd bynnag, ALA yw’r asid brasterog mwyaf amlwg ac mae’n gallu cyrraedd lefelau uwch na 50g fesul Kg/DM yn ystod cyfnodau twf cynnar yn y gwanwyn.

Mae lefelau cyfanswm asidau brasterog yn y glaswelltau ar eu huchaf yn ystod y gwanwyn (Ebrill), yn lleihau yn ystod yr haf (Mehefin), ac yn adfer yn yr hydref (mis Medi a mis Tachwedd). Mae’r gymhareb asid linolëig i ALA hefyd yn lleihau yn ystod misoedd yr haf, gyda chymarebau oddeutu 4.5-6:1 yn ystod y gwanwyn, 2-4:1 yn ystod yr haf, a 4-5:1 yn ystod yr hydref.

Mae lefelau asidau brasterog yn cyfateb â’r cam yn nhwf y planhigyn a chyfartaledd y dail, ac mae gwahanol amrywiaethau o laswellt yn cynhyrchu gwahanol broffiliau asidau brasterog ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Er enghraifft, gwelwyd fod L. ×boucheanum (ffurf hybrid o L. multiflorum x perenne) a rhygwellt Eidalaidd (L. multiflorum)  yn cynnwys lefelau uwch o asid brasterog ac ALA na rhygwellt parhaol (L. perenne) yn ystod y gwanwyn a’r hydref yn y drefn honno. Fodd bynnag, mae rhygwellt parhaol yn cynnwys lefelau uwch o asid brasterog ac ALA na rhygwellt Eidalaidd a L. ×boucheanum yn ystod yr haf.

Yn yr un modd, mae gwahanol rywogaethau meillion yn cynhyrchu gwahanol grynodiadau asid brasterog. Mae’r crynodiadau asid linolëig mewn meillion coch a gwyn yn debyg i’w gilydd ac i rygwellt. Fodd bynnag, mae crynodiad ALA yn tueddu i fod ychydig yn uwch mewn meillion gwyn o’i gymharu â meillion coch, sy’n debyg i rygwellt. Mae’r gymhareb asid linolëig i ALA mewn meillion gwyn a choch ffres yn llai na mewn glaswelltau, sef oddeutu 2-3:1 yn ystod cyfnodau cynnar a hwyr yn eu tyfiant.

Mae lefelau asidau brasterog mewn porthiant wedi’i silweirio yn is na’r hyn a welir mewn porthiant ffres gan fod y prosesau sychu, ocsideiddio a chwalu dail yn gostwng lefelau lipidau, yn enwedig lefelau linolëig ac ALA. Felly, mae lefelau lipid hefyd yn llawer is mewn gwair o’i gymharu â silwair.

Yn debyg i’r hyn a welir mewn glaswellt a meillion ffres, ALA yw’r asid brasterog mwyaf amlwg mewn silwair, ond asid linolëig yw’r asid brasterog mwyaf amlwg mewn silwair india corn a silwair gwenith cnwd cyflawn.

Gall dietau gwartheg llaeth hefyd gynnwys lipidau ar ffurf olewau a hadau olew o fewn dogn cymysg. Mae olew o hadau olew a blodau haul yn cynnwys lefelau uchel o asid linolëig ac asid oleig, asid brasterog mono-annirlawn omega-9, ond yn cynnwys lefelau cymharol isel o ALA.

Mae safflwr a ffa soia hefyd yn cynnwys lefelau uchel o asid linolëig. Fodd bynnag, mae had llin a  chydlin yn cynnwys lefelau uchel o ALA, a chyfran uchel o ALA o’i gymharu ag asid linolëig. 

 

Cyfansoddiad llaeth a’r system gynhyrchu

Mae nifer o astudiaethau wedi cymharu effaith gwahanol systemau cynhyrchu ar gyfansoddiad asidau brasterog mewn llaeth. Yn gyffredinol, mae lefelau omega-3 ac asidau linolëig rhediadol ar eu huchaf mewn systemau’n seiliedig ar y borfa, ac yna systemau siediau cymysg organig, ac yna’n olaf mewn systemau dan do. Yn ogystal, mae cymarebau asidau brasterog omega-6 i omega-3 ar eu hisaf ar systemau’n seiliedig ar y borfa, ac yna systemau siediau cymysg organig a systemau dan do.

Mae astudiaethau wedi dangos mewn systemau siediau cymysg a systemau pori bod cynnwys asid brasterog dirlawn mewn llaeth ar ei isaf yn ystod yr haf pan fo gwartheg yn pori ac ar ei uchaf yn y gaeaf pan fo’r gwartheg yn cael eu cadw dan do ac yn bwyta porthiant wedi’i silweirio a dwysfwyd. I’r gwrthwyneb, mae lefelau asidau brasterog annirlawn, gan gynnwys asidau brasterog omega-3 ac omega-6 ar eu huchaf yn ystod yr haf ac ar eu hisaf yn ystod y gaeaf. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i’r gwahaniaeth ym mhroffil asidau brasterog porthiant ffres a phorthiant wedi’i silweirio a dognau cymysg.

Bu un astudiaeth benodol a gynhaliwyd yng Nghymru yn cymharu effeithiau tair system yn seiliedig ar borfa ar gyfansoddiad llaeth. Roedd y systemau a gymharwyd yn cynnwys system ddwys gonfensiynol lle’r oedd gwartheg yn cael eu cadw dan do yn y gaeaf, system organig o ddwysedd canolig gyda lefel ganolig o bori, a system dwysedd isel confensiynol gyda llawer o bori, yn seiliedig ar system Seland Newydd. Daeth yr astudiaeth i’r canlyniad bod lefelau asidau brasterog annirlawn, sy’n cael eu hystyried yn fuddiol i iechyd dynol, ar eu huchaf yn y system dwysedd isel confensiynol, ac yna’r system dwysedd canolig organig, ac yna’r system ddwys gonfensiynol. Roedd lefelau asidau brasterog dirlawn yn sylweddol uwch yn y system ddwys gonfensiynol na’r ddwy system arall. Roedd cynnwys asidau brasterog omega-3 hefyd ar ei uchaf yn y systemau dwysedd canolig organig a’r systemau dwysedd isel confensiynol, a oedd yn gyson drwy gydol y flwyddyn.

Felly, mae cynyddu faint o borthiant ffres sydd yn niet y fuwch yn cynyddu crynodiad asidau brasterog amlannirlawn mewn llaeth. Mae astudiaethau wedi dangos pan fo buwch yn symud o ddietau cymysg yn cynnwys silwair, grawn a hadau olew i ddiet o borthiant ffres yn cynnwys glaswelltau a chodlysiau, gallai crynodiadau asidau brasterog amlannirlawn, gan gynnwys asid linolëig rhediadol gynyddu, a dyblu hyd yn oed. Gall cynyddu’r gyfran o borthiant ffres mewn dietau hefyd arwain at lefelau uwch o omega-3 ac asid linolëig. Fodd bynnag, mae rhai astudiaethau hefyd wedi dangos bod dietau’n seiliedig ar laswellt hefyd yn gallu cynyddu lefelau asid brasterog dirlawn yn ogystal ag annirlawn.

Mae crynodiad asidau brasterog omega-3 ac omega-6 mewn llaeth gwartheg sy’n cael eu cadw dan do a’u bwydo ar silwair yn is nag mewn llaeth gwartheg sy’n pori glaswellt ffres.

 

Mae’r gwahaniaethau mewn lefelau asidau brasterog rhwng rhywogaethau glaswellt yn dangos potensial ar gyfer dethol rhywogaethau glaswellt uchel mewn lipdau. Yn ogystal, mae cynnwys gwahanol rywogaethau glaswellt yn niet y fuwch ar wahanol adegau o’r flwyddyn yn debygol o fod yn fuddiol wrth geisio cynnal proffiliau llaeth cymharol uchel mewn asidau brasterog amlannirlawn. Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod lefelau asid brasterog, yn enwedig asid linolëig ac ALA, yn lleihau pan fo’r cyfnod aildyfu’n cael ei ymestyn i 38 diwrnod neu fwy. Mae hyn yn dangos bod rheoli tir pori’n ffactor pwysig wrth reoli proffiliau asid brasterog llaeth, gan fod cylchdro pori byr yn ddelfrydol er mwyn cynnal lefelau uchel o asid brasterog amlannirlawn o’r planhigion. Yn yr un modd, gellir defnyddio cylchdro torri byr i gynnal y lefelau gorau posibl o asidau brasterog amlannirlawn mewn porthiant wedi’i silweirio.

Mae amrywiaeth y rhywogaethau planhigion yn niet y fuwch hefyd yn dylanwadu ar gyfansoddiad y llaeth. Er enghraifft, gall symud o silwair india corn ungnwd i silwair a dorrwyd o gae o laswellt amrywiol gynyddu asidau brasterog amlannirlawn buddiol, gan gynnwys asidau brasterog omega-3 ac asid linolëig rhediadol. A gan fod meillion yn cynnwys cyfran uwch o ALA i asid linolëig na rhygwellt, gallai cynnwys meillion gwyn neu goch i borthiant yn seiliedig ar rygwellt hefyd gynyddu asidau brasterog omega-3, yn enwedig ALA mewn llaeth.

Gellir hefyd wella proffiliau asidau brasterog gwartheg sy’n cael eu cadw dan do drwy ychwanegu hadau ac olewau at ddognau cymysg. Gall hyn gynyddu cynnwys asid brasterog annirlawn y llaeth. Er enghraifft, gwelwyd fod  bwydo olew ffa soia neu ffa soia wedi’i allwthio, sy’n uchel mewn asid linolëig yn gallu cynyddu cynnwys asid linolëig rhediadol mewn llaeth, a bod bwydo olew had llin yn gallu cynyddu lefelau ALA a lefelau asidau brasterog omega-3.

 

Crynodeb

Mae rhai o’r dietau iachaf yn y byd, megis diet y Canoldir, yn cynnwys lefelau cymharol isel o frasterau dirlawn a lefelau uchel o frasterau annirlawn. Mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod gwartheg sy’n bwyta porthiant ffres yn cynhyrchu llaeth sy’n cynnwys crynodiad uwch o asidau brasterog annirlawn. At hynny, mae crynodiad ALA ac asid linolëig rhediadol, dau fath o asidau brasterog omega-3 ac omega-6 pwysig, yn cynyddu mewn llaeth a gynhyrchir gan wartheg sy’n cael eu bwydo ar borthiant ffres. Wrth i ymwybyddiaeth y cyhoedd o fuddion iechyd gwahanol fwydydd a chyfansoddion bwyd gynyddu, gallai cynyddu cyfansoddiad asidau brasterog amlannirlawn mewn llaeth trwy addasu diet gwartheg gynyddu statws iechyd llaeth yn gyffredinol. Yn ogystal, wrth i’r galw gan ddefnyddwyr am gynnyrch llaeth a chig o anifeiliaid sydd wedi cael eu magu ar borfa a’u rheoli’n eang gynyddu o ganlyniad i ymwybyddiaeth gynyddol o les anifeiliaid, mae potensial i laeth a gynhyrchir gan wartheg sy’n pori porthiant ffres fodloni gofynion defnyddwyr wrth iddynt newid.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth