Dewi Jones

DE SIR GAERFYRDDIN, ABERTAWE A'R GŴYR


Mae Dewi Jones wedi’i phenodi’n swyddog datblygu ar gyfer De Sir Gaerfyrddin, Abertawe a'r Gŵyr. 

Magwyd Dewi yng ngogledd Ceredigion, a bu’n astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan dderbyn gradd BSc mewn amaethyddiaeth. Roedd ei gwrs pedair blynedd yn cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, a threuliodd y cyfnod hwnnw gyda Menter a Busnes, yn gweithio yng Nghanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.    

Mae Dewi yn byw gartref ar dyddyn ei deulu ym Mhontrhydfendigaid, ac mae’n cael digon o brofiad ymarferol o gynorthwyo gyda’r ddiadell o famogiaid miwl Cymreig a Texel croes yn bennaf sy’n cael eu gwerthu gan amlaf fel ŵyn stôr yn un o’r marchnadoedd lleol.

Mae Dewi yn aelod brwd o CFfI Tregaron. Mae’n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Tregaron ac mae hefyd yn cynorthwyo gyda stiwardio yn ei sioe amaethyddol leol.

“Ar ôl treulio blwyddyn yn gweithio yn y Ganolfan Wasanaeth, rydw i wedi dysgu o brofiad pa mor fanteisiol yw hi i ffermwyr a choedwigwyr fanteisio’n llawn ar yr hyn sydd ar gael iddyn nhw drwy Cyswllt Ffermio. 

"Gyda’r holl wasanaethau naill ai wedi’u hariannu’n llawn neu’n rhannol hyd at 80%, byddaf yn gwneud fy ngorau i annog ffermwyr i gael mynediad at y pecyn gorau posibl o wasanaethau i’w cynorthwyo i weithredu yn y modd mwyaf effeithlon a phosibl ar draws bob maes ac i beidio â methu unrhyw gyfleoedd i ganfod dulliau newydd neu fwy effeithiol o weithio.”