Diweddariad am y Cynnydd ym Maestanyglwyden - Ebrill 2021
Mae rhan fwyaf y mamogiaid ym Maestanyglwyden wedi ŵyna erbyn hyn, ac ar y cyfan, mae'r ŵyna wedi mynd yn dda. Y broblem fawr a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf fu mastitis ymhlith y mamogiaid, gyda 10-13% o'r mamogiaid yn cael eu difa oherwydd mastitis, a 2-3% pellach o farwolaethau ymhlith mamogiaid o ganlyniad i fastitis difrifol.
Eleni, cynhaliwyd prosiect er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r problemau mastitis a welir ar y fferm. Eleni, rhoddwyd brechiad mastitis yn erbyn Staph. aureus, sef bacteria heintus a geir yn yr amgylchedd, i hanner y mamogiaid a oedd yn cario efeilliaid.
Mae'r bacteria hwn yn un o achosion mastitis ymhlith defaid ac mae'n parhau mewn diadell trwy ddefaid sy'n 'gludwyr', wrth iddynt ollwng y bacteria yn y sied ŵyna o’r pwrs.
Eleni, brechwyd rhai o'r mamogiaid bum wythnos a phythefnos cyn ŵyna er mwyn helpu i roi 'hwb' i'w hymateb imiwnyddol yn erbyn Staph. Aureus, y gallent ddod i gyswllt ag ef yn y siedau ŵyna, er mwyn gweld a fyddai hyn yn gallu helpu i leihau'r lefelau mastitis a welir yn y ddiadell.
Roedd y mamogiaid mewn cyflwr gwell cyn ŵyna eleni, ac ar y fferm hon, mae hyn yn golygu mamogiaid gydag ychydig yn llai o fraster, gan sicrhau sgôr cyflwr y corff (BCS) cyfartalog o 3-3.5. Gallai sicrhau bod mamogiaid mewn cyflwr gwell fod wedi cyfrannu at iechyd gwell y mamogiaid, ac efallai ymateb imiwnyddol gwell yn erbyn bacteria ar y fferm.
Hyd yn hyn yn ystod y gwanwyn, mae chwech o'r mamogiaid wedi dioddef mastitis. Anfonwyd tri meithriniad i ffwrdd, a ddatgelodd bod Staph aureus yn parhau i fod yn facteria a welir ar y fferm, ac sy'n peri problemau. O blith y chwe mamog hyd yn hyn, ni fu unrhyw farwolaethau, mae tair wedi cael eu difa ac mae tair wedi gwella/dioddef arwyddion mwy ysgafn ac nid ydynt wedi colli chwarter, a allai fod o ganlyniad i ddiogelwch gan y brechiad.
Yn ogystal, mae Maestanyglwyden wedi parhau i fwydo'r mamogiaid unwaith y tu allan ar gyfradd uchel (bwydo gwair yn ôl archwaeth a bwydo dwysfwyd ~1lb/pen), er mwyn gwaredu unrhyw broblemau maeth y gallent fod wedi bod yn cyfrannu at y gyfradd mastitis uchel. Gyda'r borfa bellach yn tyfu, caiff swm y dwysfwyd a roddir ei leihau'n raddol ac nid yw'r defaid yn bwyta'r gwair a gynigir mwyach.
Cofnodwyd y casgliad cychwynnol ar gyfer y set ddata – manylion adnabod (rhif tag clust) mamogiaid, nifer y dannedd blaen (oedran), BCS a statws brechu (wedi cael eu brechu neu heb gael eu brechu).
Casglwyd y data hwn wrth i'r mamogiaid gael eu trin yn barod trwy'r clamp cyfunol, er mwyn osgoi eu trin sawl gwaith yn ddianghenraid. Fe'u brechwyd wrth iddynt gael eu dosio er mwyn atal llyngyr (targedu llyngyr canolig-i-oedolyn, Closantel) ac wrth eu tocio cyn wyna.
Caiff data pellach am y defaid ei gasglu'n barhaus. Os gwelir unrhyw famogiaid sy'n dangos arwyddion clinigol mastitis, cofnodir hynny trwy gofnodi rhif eu tag clust, BCS a chymerir sampl llaeth os oes modd. Mae hyn yn caniatáu cymharu rhwng BCS mamog cyn wyna ac wrth iddynt gael mastitis, os oedd y famog wedi cael brechiad yn erbyn mastitis ac anfonir samplau llaeth i ffwrdd ar gyfer meithriniad/nodi'r bacteria sy'n achosi'r mastitis.
Mae'r cofnodwyr glawiad a thymheredd ar y fferm o hyd – lleolir un ger y sied ac yn y sied wyna a lleolir y llall yn y cae.
Gwelwyd uchafswm y glawiad yn ystod wythnos 10-17 Mawrth, ac mae'r tymheredd y tu allan wedi amrywio o -4.1 oC i 22.4 oC ers dechrau'r prosiect. Dadansoddir yr amrywiad mewn tymheredd, ynghyd â'r glawiad, ar ddiwedd y prosiect i weld a welwyd achosion mastitis yn ystod y cyfnod pan welwyd y glawiad uchaf neu'r tymheredd a oedd wedi amrywio fwyaf.
Mae’r prosiect yn parhau ac rydym yn gobeithio y bydd lefelau mastitis yn aros yn isel hyd y cyfnod diddyfnu.