Diweddariad Prosiect: Hau haidd y gwanwyn gan ddefnyddio cyfradd amrywiol ar fferm arddangos Pantyderi
Mae gwaith i fapio’r pridd gan ddefnyddio offer sganio dargludedd trydan (EC) wedi cael ei gwblhau ar 60 ha o dir sy’n tyfu cnydau grawn ar fferm Pantyderi. Mae’r broses hon yn mapio’n fanwl sut mae nodweddion pridd yn amrywio ar draws cae cyfan. Yna, gellir rhannu’r caeau’n barthau rheolaeth ar sail y canlyniadau. Mae samplu’r priddoedd yn y parthau hyn mewn modd strategol yn cynnig darlun mwy manwl y gellir ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo cyfraddau amrywiol ar gyfer calch, gwrtaith a hau hadau.
Bydd y broses o ddefnyddio gwybodaeth o’r gweithgaredd mapio pridd er mwyn tyfu cnwd o haidd gwanwyn yn cael ei arddangos mewn arbrawf a fydd yn defnyddio dau gae nesaf at ei gilydd o’r un maint ac amrywiaeth tebyg o ran math o bridd. Bydd un yn cael ei reoli ar gyfradd sefydlog ar gyfer pob mewnbwn a’r llall ar gyfradd amrywiol. Bydd hyn yn golygu hau hadau ar gyfradd amrywiol lle bydd yr ardaloedd gyda’r priddoedd salaf neu ardaloedd problemus yn y cae yn derbyn cyfraddau uwch o hadau er mwyn ceisio cydbwyso cynnyrch y cnwd ar draws y cae. Bydd mapiau digidol (fel y gwelir isod) yn cael eu darparu ar gof bach i’r contractwr sy’n hau a bydd y data’n cysylltu gyda phanel rheoli system GPS y tractor i alluogi’r dril i hau ar gyfradd amrywiol. Bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y ddau gae o ran datblygiad y cnydau’n cael eu monitro drwy gydol y cyfnodau tyfu gan arwain at gymhariaeth o’r cnydau sy’n cael eu combeinio yn ystod y cynhaeaf.
Cliciwch yma i weld cyflwyniad y prosiect.