Diweddariad Prosiect: Ŵyna yn ei anterth yn safle arddangos Glanmynys – Ebrill 2020

Mae’r ŵyna bellach yn ei anterth yn safle arddangos Glanmynys, ger Llanymddyfri. Bu i 550 allan o 900 famogiaid Cymreig ŵyna allan yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill, gan fanteisio ar y tywydd sychach a chynhesach.

Yn ôl Peredur Owen, sydd yn ffermio ar y cyd gyda’r perchennog Carine Kidd, mae’r ŵyna yn mynd yn dda hyd yn hyn gyda nifer isel o golledion a dim ond ambell achos o lawes-goch mewn mamogiaid a haint y cymalau (joint-ill) mewn ŵyn.

“Mae’r tywydd wedi bod o gymorth mawr – yn enwedig gan ein bod yn ŵyna mamogiaid Cymreig wedi eu croesi gyda hyrddod Easycare y tu allan.”

“Yn wreiddiol, roeddwn yn amheus a fyddai digon o wlân gan yr ŵyn er mwyn iddynt ymdopi gyda’r elfennau, fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw hyn yn broblem. Mae’r ŵyn yn egnïol ac yn iach ac ar eu traed yn sugno yn syth.”