Gate Farm, Llandysul, Trefaldwyn

Prosiect Safle Ffocws: Gwahanol ddulliau sefydlu o dros-hadu gan ddefnyddio cymysgeddau aml-rywogaeth a lleiafswm o driniaeth tir fel dull sefydlu ar gyfer defnyddio cnydau bresych fel cnwd toriad mewn gwyndonnydd

Nodau’r prosiect:

Nod y prosiect yw cyflwyno cymysgedd o amrywiaethau newydd o laswellt, codlysiau a pherlysiau i wella bioamrywiaeth porfa a strwythur a ffrwythlondeb y pridd, er mwyn cynyddu cynhyrchiant a defnydd proteinau porthiant cartref yn y platform pori organig.

Bydd y prosiect yn cymharu tri dull adfywio gwahanol. 

Bydd y prosiect hefyd yn pwyso a mesur y potensial i ddefnyddio cnydau bresych hybrid (hybrid rêp/cêl) fel cnwd toriad wrth adnewyddu glaswelltiroedd drwy ddefnyddio lleiafswm o driniaeth tir fel dull sefydlu.  

  • Archwilio tair techneg sefydlu tros-hadu gwahanol gan ddefnyddio cymysgeddau aml-rywogaethol (perlysiau, codlysiau a glaswelltau) i wella ansawdd ac amrywiaeth y borfa yn ogystal â gwead a strwythur y pridd mewn platform pori glaswelltir organig.
  • Archwilio dull sefydlu lleiafswm o driniaeth tir ar gyfer defnyddio cnydau bresych fel cnwd toriad er mwyn ymestyn y tymor pori a chadw stoc ifanc trwy’r gaeaf.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Tŷ Coch
Tŷ Coch, Llanbadog Fawr, Brynbuga, Sir Fynwy Prosiect Safle
Ysgellog
Ysgellog, Rhosgoch, Amlwch, Ynys Môn Prosiect Safle Ffocws
Uned Moch Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon
Coleg Meirion-Dwyfor GLYNLLIFON, PENYGROES, CAERNARFON Prosiect