Ffeithiau Fferm Glanmynys

Daliad bîff a defaid o 202 hectar (ha) yw Safle Arddangos Glanmynys ac mae’n cael ei ffermio gan berchennog y fferm, Carine Kidd, a’i phartner ffermio cyfran, Peredur Owen.

Mae'r fferm yn cynnal diadell o 700 o famogiaid Cymreig x Aberfield, ac mae’r mwyafrif yn ŵyna y tu allan rhwng 1 Ebrill a 1 Mai.  

Ar hyn o bryd mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu i Dunbia.

Mae buches o 25 o wartheg sugno, sef croesiadau Simmental yn bennaf, yn lloia yn y gwanwyn a'r hydref, ond bydd y niferoedd yn cael eu lleihau yr haf hwn er mwyn cynyddu’r mentrau defaid a gwartheg.  

Mae’r lloi’n cael eu gwerthu’n uniongyrchol oddi ar y fferm neu mewn marchnadoedd da byw.

Mae’r busnes yn magu 40 o loi blwydd Aberdeen Angus.

Mewn menter newydd, daeth 40 o loi Aberdeen Angus 5 mis oed i’r fferm ym mis Mehefin.  Bydd y rhain yn cael eu magu am 12 mis ac yna eu gwerthu i gadwyn gyflenwi Select Livestock a Dovecote Park.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

  • Manteisio i'r eithaf ar borfeydd glaswellt y fferm drwy fesur a monitro
  • Sicrhau bod sgôr cyflwr corff y mamogiaid yn gywir drwy’r amser
  • Lleihau nifer y dyddiau cyn lladd y gwartheg a’r ŵyn neu cyn eu bod yn cyrraedd y pwysau gwerthu targed