Ffeithiau Fferm Halghton Hall
Mae Halghton Hall yn fferm tir glas 121-hectar (ha) sy’n cynnal diadell o 800 o famogiaid sy’n wyna o dan do.
Mae’r fferm yn cael ei rhedeg gan David Lewis, y drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio Halghton Hall.
Mae’r ddiadell yn cael ei pharu â hyrddod Innovis yn gynnar ym mis Medi, i wyna ym mis Chwefror. Mae’r ŵyn benyw yn cael eu troi at yr hwrdd fis wedyn ac yn wyna ym mis Mawrth.
Mae'r brif ddiadell yn sganio 190% ar gyfartaledd, gan werthu 1.75 o ŵyn i bob mamog, ar gyfartaledd.
Mae’r ŵyn benyw yn magu un oen cyn cael eu hintegreiddio i’r ddiadell y flwyddyn wedyn.
Mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu ar darged pwysau marw o 20kg o ddiwedd mis Mai i Tesco ar gontract costau cynhyrchu.
Mae pwyslais yn cael ei roi ar gynhyrchu ar borfa a meillion - mae rhyw 10% o’r fferm yn cael ei ail-hadu bob blwyddyn â rhywogaethau Aber sy’n cynnwys llawer o siwgr.
Mae gwartheg bÎff Charolais a Limousin yn pori yn ystod yr haf ac yn cael eu pesgi wedyn ar silwair glaswellt a dwysfwyd er mwyn eu gorffen pan fyddan nhw’n 18-23 mis.
Mae contract Glastir Uwch yn Halghton Hall wedi bod yn allweddol o ran adfer gwrychoedd a chreu coridorau bywyd gwyllt.
Amcanion
Cynhyrchu a marchnata cynnyrch o safon mewn amgylchedd cost-effeithiol ond cynaliadwy ar lefel fferm ymarferol, gan gofio’n cwsmeriaid, eu disgwyliadau newidiol a’r dyfodol.