Cymrage

Pam fyddai Glynne yn fentor effeithiol

  • Mae’r siaradwr Cymraeg Glynne Jones yn ffermwr defaid a gwartheg amser llawn. Mae hefyd yn brofiadol fel hyfforddwr a thriniwr cŵn defaid. Mae Glynne yn edrych ymlaen at gael mentora ar drin cŵn ac, fel cyn-brynwr anifeiliaid, mae hefyd yn barod iawn i rannu ei arbenigedd ar sut a phryd i ddewis da byw a sut i ddod o hyd i’r farchnad fwyaf addas.
  • Ar hyn o bryd mae Glynne yn ffermio 130 erw rhwng Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.  Mae’n cadw tua 300 o ddefaid mynydd Cymreig ac Easycare, 20 o wartheg bîff a thîm o gŵn defaid i weithio.
  • Mae Glynne yn gwerthu cŵn defaid a chŵn bach o’r safon uchaf o’r llinellau gwaed DNA gorau a brofwyd yn y Deyrnas Unedig, gan ddibynnu’n bennaf ar ei wefan a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook ac Instagram.  
  • Cychwynna arbenigedd eang Glynne ym mynd trin cŵn defaid gyda dethol cŵn ifanc, dysgu sgiliau newydd iddynt sy’n sicrhau eu bod yn rhan ganolog a gwerthfawr o fusnes y fferm.  Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad a’r sgiliau angenrheidiol i feithrin ac arwain yr hyfforddwyr a’r cŵn i weithio gyda defaid a gwartheg. 
  • Ar hyn o bryd mae Glynne yn gweithio gyda chŵn defaid sydd wedi eu cofrestru gyda’r ISDS (y Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol) yn ddyddiol.  Mae ganddo’r profiad a’r sgiliau cyfathrebu i helpu bugeiliaid eraill i ddeall beth sydd arnynt ei angen gan eu cŵn.  Ei nod fydd sicrhau eich bod chi a’ch ci yn cael partneriaeth waith lwyddiannus ac effeithiol. 
  • Nod Glynne yw sicrhau, ar ôl y mentora, y bydd gan y triniwr cŵn newydd yr hyder i gyflawni tasgau ar y fferm yn ddiogel a medrus ac y bydd y ci wedi dysgu’r sgiliau bugeilio angenrheidiol i wneud cyfraniad pwysig. 
  • Mae gan Glynne hefyd brofiad sylweddol o ddewis anifeiliaid addas i’w gwerthu ymlaen i farchnadoedd neu safleoedd prosesu ac mae’n cynnig hyn fel ail bwnc mentora. 

Busnes fferm presennol

  • Mae gan Glynne fferm deuluol fechan ym Mhentir, lle mae’n cadw 300 o ddefaid easy-care i gynhyrchu ŵyn a mamogiaid magu. 
  • Mae ganddo hefyd tua 20 o fuchod Swydd Henffordd
  • Ers saith mlynedd mae hefyd wedi rhedeg ei fusnes Cŵn Defaid ei hun ym Mhentir, cyfrannwr pwysig at incwm y fferm.
  • Mae bob amser yn anelu at gyfateb y cŵn defaid mwyaf addas i ofynion ffermwyr defaid a gwartheg, gan anelu fel arfer at gynnig dewis o gŵn o bob oed a gallu o gŵn bach dau fis oed i gŵn wedi eu hyfforddi tua dwy flwydd oed.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Yn ychwanegol at werthu yn y Deyrnas Unedig, mae’n allforio cŵn bach a chŵn hŷn dros y byd i gyd, gan farchnata’n bennaf ar ei wefan, y cyfryngau cymdeithasol a thrwy argymhellion personol. 

  • Bu’n dal record byd am y pris uchaf am gi defaid heb ei hyfforddi ar arwerthiant ar-lein yn 2021.

  • Dros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cig coch fel rheolwr prynu ŵyn i un o broseswyr mwyaf Ewrop.
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Osgowch adael i’r ci ddysgu arferion drwg, yn hytrach cynyddwch ei hyder gyda thasgau y gall eu cyflawni.”
“Os ydych yn marchnata da byw ar gyfer y fasnach gig, cofiwch mai dim ond unwaith y cewch chi werthu stoc, felly gwnewch iddo gyfri!”