18 Hydref 2018
Gallai gwella strwythur pridd a’i statws o ran defnydd organig a maetholion gynorthwyo llawer o ffermydd yng Nghymru i fod yn fwy cynhyrchiol mewn cyfnod o newidiadau i gymorth amaethyddol.
Yn ystod gweithdy deuddydd Meistr ar Briddoedd Cyswllt Ffermio, cynghorwyd ffermwyr bod yn rhaid iddynt wneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau sydd ganddynt ar y fferm wrth iddynt baratoi i ffermio heb daliadau uniongyrchol.
Pridd yw’r adnodd pwysicaf o blith y rhain, yn ôl awgrym Charlie Morgan, a oedd yn gyfrifol am arwain y gweithdy, mewn cydweithrediad â’i gyd-arbenigwr ar laswelltir, Chris Duller.
Rhaid i briddoedd gyflawni eu potensial er mwyn galluogi ffermydd i sicrhau glaswellt a chnydau sy’n well, ac yn fwy cyson, o ran eu maint a’u hansawdd – dyna oedd neges Mr Morgan i’r rhai fu’n cymryd rhan yn y gweithdy, a gynhaliwyd yng Ngholeg Gelli Aur ger Llandeilo, sy’n un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio.
“Gweithgaredd cemegol, ffisegol a biolegol yw tri chonglfaen hwsmonaeth priddoedd,’’ meddai.
“Gallwch ddylanwadu ar dwf glaswellt trwy reoli’r pridd, ac mae hyn hefyd yn cael dylanwad ar y modd yr ydych yn rheoli eich da byw.
“Mae cyflwyno’r eneteg orau o ran da byw yn un peth, ond os nad yw’r anifeiliaid yn cael y porthiant gorau oherwydd bod y gwaith rheoli pridd yn wael, ni fyddwch yn cael y budd gorau o’r buddsoddiad hwnnw.”
Fel cam cyntaf, mae Mr Morgan yn argymell y dylai ffermwyr ganfod beth yw statws iechyd y pridd a gosod targedau ar gyfer ei wella ar sail y canlyniadau hynny.
Dylid archwilio priddoedd yn rheolaidd, ynghyd â chasglu data i’w defnyddio fel meincnod ar gyfer effeithiau camau a gymerir ar y fferm.
Gall profi pridd gostio cyn lleied â £10 y cae, a byddai’n golygu bod yr wybodaeth hon ar gael i ffermwyr.
Pan fydd y manylion cemegol yn hysbys, gellir datblygu cynllun rheoli maetholion er mwyn defnyddio maetholion a gynhyrchir ar y fferm yn y ffordd gywir a chyfrifo faint yn union o wrtaith parod sydd ei angen i gydbwyso’r rhain, yn ôl Mr Morgan.
Cynghorodd Mr Morgan hefyd fod profi slyri a thail i ganfod faint o ddeunydd sych sydd ynddynt yr un mor bwysig â dadansoddi pridd.
Mae slyri da byw yn ffynhonnell bwysig o faetholion ar gyfer glaswelltir a chnydau âr, ond gall gorddefnydd ohono nid yn unig dorri rheoliadau ond hefyd niweidio’r boblogaeth o fwydod.
“Mae gormod o slyri yn atal systemau rhag gweithio,” rhybuddiodd Mr Morgan.
Mae’r modd y defnyddir slyri yn dylanwadu ar ei effeithiolrwydd a’i effaith ar yr amgylchedd.
Mae chwistrellu bas yn lleihau allyriadau amonia 73%, ond dim ond 26% yw’r ganran gyfatebol ar gyfer taenu band.
Mae pryd y’i defnyddir yr un mor bwysig o ran ei effeithiolrwydd. Bydd defnyddio 3,500 galwyn yr acer o slyri sy’n 6% deunydd sych ym mis Hydref yn cynnig 17kgN/ha – gwerth £12.24/ha – tra bydd ei ddefnyddio ar yr adeg orau, sef yn gynnar ym mis Mawrth, yn cynnig 40kgN/ha, sy’n werth £28.80/ha.
Bu’r gweithdy Meistr ar Briddoedd hefyd yn cwmpasu agweddau ar iechyd a diogelwch, yn enwedig o ran storio cemegion.
Yn ôl y ffermwraig ddefaid Jane Williams, sy’n ffermio ger Aberaeron ac a oedd yn un o 20 ar y cwrs, roedd yr wybodaeth hon yn werthfawr.
“Roedd yn ymarfer defnyddiol iawn er mwyn dysgu pa gemegion na ddylid eu storio’n agos at ei gilydd,” meddai.
Dywedodd un arall a fu’n cymryd rhan, sef y ffermwr llaeth ac âr o Sir Benfro, Mark Evans, y byddai’n gwneud defnydd ymarferol o’r cyngor a gafodd ar y cwrs.
“Rydym ni’n aredig yn helaeth ar ein fferm, ond mae’n amlwg fod hyn yn achosi cywasgu, gan nad yw’r boblogaeth o fwydod cyn uched ag y dylai fod, felly mae’r cwrs yma wedi canolbwyntio fy meddwl ar ddulliau amgen,” meddai Mr Evans, o Berryhill, Trefdraeth.
Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020.