08 Mawrth 2024
O gynhyrchu syniadau newydd ar gyfer ei busnes blodau a blodeuwriaeth ei hun i sefydlu rhwydwaith gwerthfawr o gysylltiadau, mae’r ffermwr ifanc Ellen Firth wedi rhoi adolygiad pum seren i Academi Iau Cyswllt Ffermio, fel profiad a oedd “wedi rhagori ar bob disgwyliad’’.
A hithau ond yn 20 oed, mae gan Ellen ei menter ffermio blodau a blodeuwriaeth ei hun, sy’n cael ei rheoli ganddi ochr yn ochr â rheoli diadell o ddefaid Mynydd Du Cymreig bedigri ei theulu.
Roedd hi’n un o’r 12 o bobl ifanc a gafodd un o’r lleoedd y mae galw mawr amdanynt yn Academi Iau 2023. Ymgeisiodd yn y gobaith o ddatblygu ei gwybodaeth am y diwydiant ffermio a dysgu mwy am roi technegau adfywiol a chynaliadwy ar waith yn ei busnes garddwriaeth a defaid ei hun.
Mae’r rhaglen honno o weithgareddau, a oedd yn cynnwys ymweliad astudio tramor â’r Iseldiroedd, wedi dod i ben erbyn hyn, ac roedd yn un y mae Ellen yn ei ddisgrifio fel “y profiad mwyaf anhygoel.”
“Mae wedi rhoi cyfoeth o brofiadau a gwybodaeth i mi o weld ystod mor eang o feysydd o fewn y diwydiant amaeth,’’ meddai.
“Waeth pwy yr ymwelon ni â nhw, rhoddwyd rhywbeth i mi gan bob un ohonyn nhw i’w weithredu yn fy musnes fy hun, o gyngor gwerthfawr i syniadau ar gyfer arallgyfeirio yn y dyfodol neu gysylltiadau a rhwydweithio pellach.”
“Dywedodd pawb y byddai’n wych, ond mae pob taith wedi rhagori ar bob disgwyliad.’’
Mae Ellen yn rheoli’r Ddiadell Firth, ac mae hi wedi sefydlu Firth Flock Flowers ar naw erw o dir ger Rhuthun, Sir Ddinbych.
Mae'r cyfuniad hwn yn creu menter lwyddiannus sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a defnyddio cynhyrchion gwastraff.
Mae busnes Ellen yn dangos bod modd creu menter broffidiol ar nifer fach o erwau.
Nid o gyswllt teuluol y daeth ei chyflwyniad i amaethyddiaeth, ond o symud tŷ i fyw drws nesaf i fferm laeth pan oedd yn saith mlwydd oed.
“O fewn ychydig ddyddiau, roeddwn i’n helpu i fwydo’r lloi ac roeddwn i wrth fy modd,’’ mae’n cofio.
Aeth y diddordeb hwnnw â hi i rolau cyflogedig ar sawl fferm, gan gynnwys gwartheg a defaid, gan danio ei huchelgais i sefydlu ei diadell ei hun.
Daeth y cyfle hwnnw yn 2019 pan symudodd Ellen i Gymru gyda’i theulu i’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “eiddo gyda thir a oedd angen llawer o gariad.”
Yno, sefydlodd eu diadell Mynydd Du Cymreig bedigri, y mae hi bellach yn bridio ohoni, gan werthu’r epil i fridwyr, yn cyflenwi’r cig oen dros ben i fwyty moethus, ac yn arddangos stoc o’r ansawdd gorau mewn sioeau amaethyddol.
“Rwy’n gwneud cymaint â phosib fy hun, fel cneifio a thocio ar gyfer sioeau, i leihau’r angen a’r gost o gael pobl eraill i mewn, sy’n rhoi mwy o annibyniaeth a hyblygrwydd i mi,’’ eglura.
Mae hi’n cyfuno hyn â thyfu blodau a chreu dyluniadau blodau ar gyfer priodasau, angladdau a digwyddiadau, ochr yn ochr â thuswau ar gyfer anrhegion a chyflenwi sypiau o flodau i siopau fferm a manwerthwyr mewn pentref.
Mae Ellen hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithdai casglu eich hun, gan ganolbwyntio ar addysg a darparu blodau lleol i bobl leol.
“Rwy’n tyfu 95% o’r blodau rwy’n eu defnyddio yn fy nyluniadau; mae’r rhain yn cael eu tyfu’n organig gyda thail y defaid yn darparu’r maetholion a chaiff eu gwlân ei ddefnyddio fel tomwellt a llwybrau,” meddai.
Rheolir plâu trwy gyfuniad o hwyaid, ieir gini, plannu cydymaith a phryfed llesol.
Er mwyn gwella ei gwybodaeth ymhellach, mae Ellen wedi bod yn cael ei mentora gan y garddwr o Sir y Fflint, Phil Handley, trwy gael mynediad at y cymorth hwnnw drwy raglen fentora Cyswllt Ffermio, ac mae hefyd wedi cael cyngor rhad ac am ddim gan Chris Creed, arbenigwr mewn cynhyrchu cnydau, a ddarperir drwy Cymorth Busnes Garddwriaeth Cyswllt Ffermio.
Mae Ellen wedi cyflawni hyn i gyd wrth ddelio â heriau awtistiaeth ac ADHD, sef diagnosis a gafodd pan oedd yn 13 oed.
Ni wnaeth yr heriau ychwanegol hyn ei hatal rhag cael mynediad i'r Academi Iau, meddai.
“Mae’r cymorth a’r ddealltwriaeth a gefais gan bawb o’r eiliad y gwnes i gyflwyno fy nghais wedi bod yn anhygoel; heb y cymorth ychwanegol hwnnw, ni fyddwn i byth wedi gallu cael mynediad at gynifer o brofiadau gwerthfawr a chael cymaint o wybodaeth i’w rhoi ar waith wrth ddatblygu fy musnes yn y dyfodol.’’
Mae cymryd rhan yn yr Academi hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd cymryd amser i ffwrdd o'r fferm o bryd i'w gilydd.
“Dyma’r tro cyntaf i mi fod i ffwrdd ers symud i’r fferm bum mlynedd yn ôl,’’ mae’n cyfaddef.
“Dydw i ddim yn dod o deulu ffermio, felly dydy hi ddim mor hawdd trosglwyddo pethau i rywun arall pan fydda i’n gadael y fferm, mae’n cymryd peth cynllunio a threfnu, ond ar ôl profiad yr Academi Iau, mae’n rhywbeth y byddaf yn bendant yn ei flaenoriaethu yn y dyfodol.''