17 Ionawr 2023

 

Mae gwybodaeth a phrofiad ffermwr defaid sefydledig ac uchelgais ac egni newydd-ddyfodiad wedi cyfuno mewn partneriaeth ffermio menter ar y cyd newydd a hwyluswyd gan wasanaeth Mentro Cyswllt Ffermio.

Mae’r ffermwr ail genhedlaeth, Ian Rickman, wedi dod â Sean Jeffreys i mewn fel partner i’w helpu i ffermio Gurnos, fferm ucheldir 84-hectar ger Bethlehem, Llandeilo.

Mae Ian wedi byw a gweithio yn Fferm Gurnos ar hyd ei oes, ond mae cyfuno hyn â’i rôl fel dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi cyflwyno heriau wrth redeg y fferm ar ei ben ei hun.

“Doeddwn i ddim yn rhoi’r sylw roedd ei angen ar y fferm ac roeddwn yn bryderus y byddwn yn dechrau dirwyn y busnes i ben, gan dorri’n ôl ar niferoedd stoc. Doeddwn i ddim eisiau i hynny ddigwydd.''

Yn awyddus i ddilyn ei ymrwymiadau oddi ar y fferm ond heb fod yn barod i ymddeol o ffermio eto, gofynnodd am gymorth gan fenter Mentro Cyswllt Ffermio.

Mae'r gwasanaeth paru hwn yn paru newydd-ddyfodiaid â thirfeddianwyr sy'n dymuno camu'n ôl o'r diwydiant ac yn cynnig cyllid ar gyfer cynllunio busnes a chyfarwyddyd cyfreithiol.

Caiff Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Roedd Ian eisiau rhoi cyfle i berson ifanc ffermio. “Roeddwn i’n ddigon ffodus i ffermio oherwydd roedd fy rhieni wedi prynu Gurnos yn y saithdegau, ond os nad ydych chi’n cael eich geni i mewn i fyd ffermio, mae’n ddiwydiant anodd i fynd i mewn iddo.

“Doeddwn i ddim eisiau rhentu'r fferm yn unig oherwydd roeddwn i'n dal eisiau cymryd rhan.''

Hysbysebwyd y cyfle gan Cyswllt Ffermio a denodd wyth ymgeisydd, gan gynnwys Sean Jeffreys, 25 oed. 

Roedd Sean, a oedd yn byw yn Ffairfach gerllaw, wedi cael ei fagu yn Abertawe, ond roedd gan ei dad-cu a’i fam-gu dyddyn lle’r oeddent yn cadw defaid ac mae wedi bod â diddordeb mewn amaethyddiaeth erioed.

Daeth yn bartner yn Fferm Gurnos ym mis Medi 2022 ar ôl i gyllid gan wasanaeth Mentro Cyswllt Ffermio helpu i ymdopi â’r rhwystrau cyfreithiol. Mae'r bartneriaeth yn rhoi cyfran gyfartal o'r elw i Ian a Sean.

Mae Ian yn cyfaddef yr oedd Mentro yn rhan bwysig o'r broses. “Byddwn i ddim wedi gwybod ble i ddechrau heb y cymorth hwnnw.''

Roedd yn darparu mynediad at gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr amaethyddol a chyfraith wledig arbenigol, Dr Nerys Llewelyn Jones, o Agri Advisor.

“Roedden ni’n gallu dweud wrthi beth oedden ni’n ei ragweld a beth roedd y ddau ohonom eisiau ei gael ohono, yn bendant roedd angen y cyngor proffesiynol hwnnw arnom,’’ meddai Ian.

Cawsant eu cefnogi hefyd gan ymgynghorydd busnes i'w helpu i gynllunio ffordd ymlaen.

Mae’r pâr eisoes wedi cynyddu nifer y mamogiaid gyda 100, gyda 500 o ddefaid Mynydd Cymreig Llanymddyfri i fod i wyna ym mis Mawrth, ac mae yna hefyd 200 o ŵyn benyw.

Yr uchelgais yw cael mwy fyth o ddefaid, “llawer ohonyn nhw!” meddai Sean. “Rydyn ni eisiau tyfu'r busnes,'' meddai.

Mae ei swydd oddi ar y fferm fel cynrychiolydd gwerthu ar gyfer cwmni cyflenwi amaethyddol wedi caniatáu iddo fuddsoddi yn y bartneriaeth ffermio newydd.

“Rydyn ni wedi gwario llawer o arian yn prynu mamogiaid, hyd yn oed os oes gennych chi'r tir, mae’n rhaid i chi stocio'r lle,'' meddai Sean.

Mae wrth ei fodd ei fod wedi cael y cyfle i ffermio, mae’n gam ar yr ysgol ffermio, “cyfle i ddatblygu’’, meddai.

“Pe bai'r fferm wedi dod ar gael i'w rhentu, fyddwn i byth wedi gallu ei rhentu, ei stocio a phrynu’r holl offer a pheiriannau angenrheidiol, ni fyddai byth wedi digwydd.''

Dywed Sean ei fod yn galonogol cael Ian yn parhau i ymwneud â'r busnes. “Mae fel cael mentor ac un sydd â meddwl agored ac yn ddigon parod i adael i mi roi fy stamp fy hun ar y busnes.''

Mae hefyd wedi defnyddio Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio i gael cyngor technegol ar dda byw.

Mae Ian yn falch ei fod wedi gallu dod â newydd-ddyfodiad i mewn i fyd amaethyddiaeth. 

“Os na chawn ni bobl ifanc yn ymwneud â ffermio, bydd y diwydiant yn sefyll yn yr unfan,'' meddai.

“Pan es i drwy broses Cyswllt Ffermio, sylweddolais fod yna lawer o bobl ifanc a oedd wir eisiau ffermio ond mae cyn lleied o gyfleoedd iddynt wneud hynny oni bai eu bod yn cael eu geni i mewn iddo.

“Pe bawn i wedi cynnig y lle hwn allan i'w rentu, mae'n debygol y byddai wedi mynd i fusnes sefydledig, nid i newydd-ddyfodiad, ond mae menter ar y cyd yn caniatáu i rywun heb lawer o gyfalaf gymryd rhan.''

Er bod sefyllfa pob ffermwr yn wahanol, mae Ian yn credu bod y rhaglen Mentro yn bendant yn un i'w hystyried.

“Roeddwn i'n teimlo nad oedd gen i ddim byd i'w golli, trwy drochi fy nhraed yn y dŵr i weld pwy oedd allan yna.''

Mae Ian a Sean eisoes wedi pasio un o’r profion mwyaf o’u perthynas broffesiynol - y penderfyniadau sy’n ymwneud â phrynu defaid. “Os gallwn gytuno ar hynny, gallwn gytuno ar unrhyw beth!” meddai Ian. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o