20 Rhagfyr 2023
Mae gwerthu cig eidion a chig oen trwy focsys cig gydag arweiniad gan fentor Cyswllt Ffermio yn helpu newydd-ddyfodiaid i ffermio da byw i gael pris premiwm am eu stoc.
Mae George Sturla a Holly Blockley yn rhedeg diadell o 100 o famogiaid Lleyn croes ar dir yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, gan ddefnyddio hyrddod Beltex a fagwyd gartref ar y ddiadell.
Mae ganddynt hefyd fuches o 12 o wartheg sugno Aberdeen Angus, ac maent yn cyflwyno geneteg Longhorn am y tro cyntaf eleni i gynhyrchu cig eidion o'r radd flaenaf.
Er mwyn cynyddu’r elw yn eu busnes, mae'r pâr wedi bod yn gwerthu cig oen yn uniongyrchol i ddefnyddwyr mewn bocsys cig sydd wedi'u brandio fel “Beeches Meats” ers mis Hydref 2022.
“Bu sawl tro pan fyddwn i'n mynd i'r farchnad ac yn meddwl y dylai'r ŵyn fod wedi gwneud pris gwell nag y gwnaethon nhw, felly, bu i ni benderfynu rhoi cynnig ar werthu'n uniongyrchol,” eglura George.
Profodd hyn yn llwyddiannus iawn ac roeddent yn awyddus i ehangu'r busnes.
Bu iddynt edrych ar wasanaeth mentora rhwng ffermwyr Cyswllt Ffermio a chawsant eu paru â Sam Pearson, ffermwr bîff a llaeth o Gymru, y mae ei arbenigeddau allweddol yn cynnwys gwerthu’n uniongyrchol a marchnata.
Ymwelodd Sam â'r cwpl yn The Beeches a rhoddodd yr hyn y mae George yn ei ddisgrifio fel “arweiniad a chymorth amhrisiadwy.”
“Mae Sam wedi rhoi rhai syniadau gwych i ni eu dilyn ac enghreifftiau o fusnesau eraill sydd wedi sefydlu i ni ymchwilio iddynt wrth i ni drafod gydag ef sut y gallwn ehangu ein hamrywiaeth trwy gynnwys cig eidion.''
Rhoddodd y sgyrsiau mentora hyn yr hyder i George a Hollie fwrw ymlaen â datblygu eu busnes gwerthu cig yn uniongyrchol.
Dywedant fod gwerthiant wedi bod yn gryf iawn.
“Mae pobl wedi bod yn archebu eu pryd Nadolig ymlaen llaw ac rydym yn dechrau cael cwsmeriaid o ymhellach i ffwrdd, gan anfon bocsys yn ddiweddar i Peterborough a Chernyw, gan ddefnyddio gwlân i insiwleiddio’r bocsys i gadw’r cig yn oer,’’ meddai George.
Er ei fod yn dweud y byddai wedi ehangu'r busnes heb y mentora, mae cael mewnbwn gan rywun ag arbenigedd yn y maes hwn wedi helpu i osgoi peryglon ac i fanteisio ar werthiannau.
“Credaf y byddem wedi rhoi cynnig arni ein hunain ond mae cael Sam fel mentor yn bendant wedi rhoi’r hyder i ni fwrw ymlaen â gwneud y newidiadau hyn,’’ meddai.
Trafododd Sam opsiynau ar gyfer gwefannau a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sut i gyfathrebu â chwsmeriaid.
Mae George hefyd wedi mynychu digwyddiadau Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio i wella ei sgiliau ymarferol ar y fferm, sy'n cynnwys cyrsiau Meistr ar Ddefaid a Meistr ar Borfa, ac mae'n aelod o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio.
Maent hefyd wedi manteisio ar y Gwasanaeth Cynghori i wella perfformiad eu diadell ymhellach trwy edrych ar statws elfennau hybrin y fferm a chael rhaglen atchwanegiad wedi’i ddatblygu gan ymgynghorydd arbenigol. Mae George hefyd wedi cael mynediad at gyngor wedi'i ariannu i brofi pridd ei gaeau a chael Cynllun Rheoli Maetholion llawn a roddodd argymhellion ar wella pridd PH, P a K wrth leihau'r defnydd o wrtaith.
“Rydym mor ffodus yng Nghymru i gael eu gwasanaeth,'' meddai.
Er na chafodd George ei fagu ar fferm, treuliodd yr haf yn ystod ei blentyndod yn helpu ei daid a'i ewythr ar eu fferm yng Ngogledd Cymru.
Yn ddiweddarach, graddiodd o Goleg Amaethyddol Brenhinol gyda gradd mewn Rheoli Tir Gwledig a bu’n gweithio yn Strutt & Parker.
Ond gadawodd ei yrfa ym maes rheoli tir i weithio'n llawn amser ym myd amaeth, ochr yn ochr â swydd lawn amser fel cynrychiolydd gwerthu ar gyfer cwmni porthiant da byw.
Sicrhaodd George le hefyd ar raglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023, sydd wedi cynyddu ei wybodaeth a’i hyder mewn busnes ymhellach ac wedi ffurfio rhwydwaith cymorth amhrisiadwy o bobl ifanc o’r un anian.
Yr uchafbwynt oedd ymweliad astudio tramor ag Ontario, lle cafodd y grŵp gipolwg ar wahanol ffermydd a systemau, syniadau y bydd George yn eu rhoi ar waith yn ei fusnes ei hun wrth symud ymlaen.
“Bu i ni hefyd ymweld â fferm yn Swydd Gaerlŷr oedd â 2,000 o famogiaid ac sy'n gwerthu ei holl ŵyn trwy ei siop gig ei hun, dysgais lawer iawn o'r ymweliad hwnnw.''
Dywedodd Einir Davies, Pennaeth Sgiliau Cyswllt Ffermio “mae’n wych gweld George a Holly yn manteisio ar gymaint o’r hyn sydd gan Cyswllt Ffermio i’w gynnig, fel y mae llawer o berchnogion busnes ifanc ac entrepreneuraidd eraill, sy’n awyddus i ddod o hyd i’w harbenigedd a chael effaith fawr.”
Mae Cyswllt Ffermio wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf yn amaethyddiaeth Cymru ac mae’n cynnig pecyn cymorth pwrpasol i roi’r sgiliau, y rhwydweithiau a’r hyder iddynt lwyddo yn eu nodau busnes a gyrfa.