10 January 2024

 

Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru a oedd angen llawdriniaeth bum awr i achub ei fawd wedi iddo gael ei daro gan forthwyl 200kg peiriant taro pyst ffensio yn erfyn ar ddefnyddwyr eraill i ddilyn canllawiau diogelwch pwysig i atal damweiniau gyda pheiriannau o’r fath.

Mae Alwyn Watkins yn ffermio gyda’i rieni, Nigel a Gwen, ar fferm ucheldir 210 hectar, sef Pantglas ym Mwlchysarnau, Rhaeadr, yn ogystal â gweithio oddi ar y fferm fel contractwr, gan gynnwys gosod ffensys.

Ym mis Mai 2023, roedd yn ailosod ffens ar ffin cae ar ochr bryn gan ddefnyddio peiriant taro pyst.

Mae’n cyfaddef ei fod yn brysio i wneud y gwaith ac nad oedd wedi ystyried y goblygiadau’n ofalus pan dorrodd y polyn, ac fe geisiodd ei ddal heb symud braich a phwysau’r peiriant o’r neilltu.

“Roeddwn i’n gwisgo bag ffensio, ac wrth i mi estyn am y polyn, taflwyd y bag gan y gwynt gan daro’r lifer sy’n gwasgu’r pwysau at i lawr.

“Roedd fy mawd ar y polyn a daeth y pwysau i gyd i lawr yn uniongyrchol ar ei ben.’’

Torrodd asgwrn ei fawd mewn pum lle a thorrodd y croen o amgylch y bawd gan ddatgelu’r asgwrn.

Bu llawfeddygon yn gweithio am bum awr dros ddwy lawdriniaeth i’w achub.

“Roedd yn rhaid iddynt dynnu’r asgwrn allan a’i lanhau gan eu bod yn pryderu y gallai baw defaid fod ar yr asgwrn gan achosi haint,” meddai Alwyn, a dreuliodd dri diwrnod yn yr ysbyty.

Roedd yn disgwyl y byddai’n methu â defnyddio ei fawd wedi’r ddamwain, ond yn ffodus iawn, mae wedi gwella bron yn gyfan gwbl erbyn hyn.

“Pan dynnais i’r gorchudd roeddwn i’n methu â chredu pa mor dda yr oedd fy mawd wedi gwella. 

“Ni fydd byth yn berffaith, ond mae’n agos at fod yn iawn.’’

Mae’r ddamwain wedi golygu bod cylchrediad y gwaed yn wael yn y rhan honno o’i law.

“Mae fy mawd yn teimlo’n oer iawn y peth cyntaf yn y bore,” eglurodd Alwyn. “Mae gen i ddau feic pedair olwyn ac mae lle i gynhesu bawd ar un ohonynt, felly byddaf yn ceisio defnyddio hwnnw – mae’n dipyn o help.’’

Er nad oedd y ddamwain yn ddifrifol, mae Alwyn yn ystyried ei fod wedi bod yn ffodus iawn nad oedd wedi niweidio ei law neu ei fraich.

Mae’r ddamwain wedi effeithio ar ei fusnes yn ogystal â’i lesiant corfforol. Mae’r teulu fel arfer yn magu 20,000 o ffesantod ar gyfer Clwb Chwaraeon Bettws Hall, ond roedd rhaid canslo’r gwaith hwnnw gan nad oedd Alwyn yn gallu gweithio.

“Roedd yr holl beth yn hunllef i fod yn onest,” meddai.

Mae Alwyn, sy’n 28 mlwydd oed, wedi bod yn edrych yn ôl ar yr hyn ddigwyddodd ac mae bellach yn dilyn rheolau pwysig iawn.

“Roeddwn i ar frys gan fod gen i gymaint o waith i’w wneud, ond o ganlyniad i’r profiad hwn, rydw i wedi dysgu pwyllo wrth wneud gwaith ffensio, gan na fyddai hyn wedi digwydd pe na fyddwn wedi bod yn rhuthro.’’

Mae ei neges i ffermwyr eraill yn debyg iawn. “Cymerwch amser wrth ddefnyddio peiriant taro pyst, ac os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, gwthiwch y pwysau o’r neilltu. Synnwyr cyffredin yw hyn am wn i – wnes i ddim gwneud hyn, a dyma’r canlyniad.’’

Mae Alwyn wedi bod yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio a Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer taro pyst ffensio, gan gynnwys bod yn rhan o fideo gyda’r ffermwr Brian Rees, sydd hefyd yn hyfforddwr ac yn fentor iechyd a diogelwch gyda Cyswllt Ffermio.

Dywed Brian fod y peiriannau hyn yn gallu bod yn “beryglus iawn”.

“Fel mae’r gweithgynhyrchwyr yn ei nodi, mae’r peiriannau’n gallu lladd – yn wir, bu i un unigolyn gael ei ladd eleni o ganlyniad i anaf i’r pen wrth ddefnyddio peiriant o’r fath – felly mae’n bwysig iawn bod pobl yn defnyddio peiriannau taro pyst yn ddiogel, eu bod yn cymryd gofal ac yn darllen y llawlyfr diogelwch.

Argymhellir y dylid cwblhau hyfforddiant priodol i ddefnyddio peiriant taro pyst, gyda rhai gweithgynhyrchwyr yn gallu darparu hyfforddiant ar gyfer modelau penodol.

Mae Mr Rees yn cynghori y dylid ystyried nifer o bwyntiau diogelwch:

  • Sicrhewch eich bod yn gwirio’r peiriant yn llawn cyn ei ddefnyddio. Dylai hyn gynnwys strwythur y peiriant, pob dyfais a sgrin diogelwch, pob piben hydrolig a rheolyddion. Gwiriwch fod pob pin a braced yn ddiogel.
  • Gwnewch asesiad risg. “Nid oes angen i hyn fod yn unrhyw beth cymhleth, dim ond meddwl am yr hyn yr ydych chi’n ei wneud,” meddai Brian. “Meddyliwch am unrhyw risgiau posibl yn ymwneud â’r offer yr ydych yn ei ddefnyddio, gan gynnwys y safle lle’r ydych yn gweithio a chymhwysedd pawb sy’n rhan o’r gwaith.’’
  • Fel gyda phob peiriant, sicrhewch eich bod yn deall yr holl reolyddion, beth mae popeth yn ei wneud yn union, a’r darnau symudol ar y peiriant, fel nad ydych yn gwthio’r lifer anghywir mewn camgymeriad.
  • Wrth addasu’r peiriant, byddwch yn ofalus iawn o barthau gwasgu. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo’r mast sy’n gwyro i’r blaen ac i’r ochr yn symud. Hefyd, gall y fraich achosi perygl gwasgu wrth i chi ei throi y tu ôl i’r tractor a’r brif ffrâm.
  • Pan mae’r peiriant ar waith, cadwch eich corff, eich breichiau a’ch coesau i ffwrdd oddi wrth y rhannau sy’n symud.
  • Peidiwch byth â dal y postyn yn ei le wrth iddo gael ei daro.
  • Gwiriwch gyflwr y rhaff ar y pwli gan ei fod yn gallu rhaflo.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm