16 Awst 2022
Mae cynhyrchydd gwartheg sugno bîff sydd wedi sefydlu busnes gwerthu uniongyrchol ar gyfer cig a gynhyrchir gan fuches o wartheg Coch Dyfnaint ei theulu yn dweud bod angen i ffermwyr sy’n mabwysiadu technegau pori i fagu gwartheg yn araf gael eu cymell gyda grantiau sy’n adlewyrchu buddion y dull hwn.
Dechreuodd Kathryn Tarr astudiaeth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i helpu i lywio ei huchelgais i sefydlu system gwerthu cig eidion mewn blychau ar gyfer marchnata cig eidion o’r fuches frid brodorol ar y fferm deuluol ger Llanfair-ym-Muallt.
Ymwelodd â dwy fferm sy’n cynhyrchu cig eidion gwartheg Coch Dyfnaint o wahanol systemau, sy’n gwerthu’r mwyafrif o’r cig yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy flychau.
“Fel fferm sy’n fwy cyfarwydd â gwerthu gwartheg masnachol fel rhai stôr, roedd yn bwysig i mi ddarganfod a allai gwerthu’r brid traddodiadol gwartheg Coch Dyfnaint fel blychau cig eidion gystadlu’n ariannol â’r fasnach stôr,” meddai Ms Tarr, sydd hefyd yn ffermio 750 o famogiaid ar 162 hectar o laswelltir a thir mynydd.
“Gallwn werthu Charolais croes stôr da sy’n 18 mis oed am tua £1,200. Byddai angen i mi gael ychwanegiad at y pris a fyddai’n adlewyrchu’r amser ychwanegol a’r costau petawn yn pesgi gwartheg Coch Dyfnaint sydd rhwng 24 a 30 mis oed.”
Cadarnhaodd yr astudiaeth mai er mwyn adlewyrchu costau ychwanegol adeg difa, cigyddio, pecynnu a marchnata, fod angen ychwanegiad o £500 o leiaf at werth marchnad yr anifail wedi’i besgi.
Ers ei hastudiaeth, mae Ms Tarr wedi sefydlu ei busnes ac wedi buddsoddi mewn gwefan i farchnata’r blychau – argymhellodd un o’r busnesau y bu’n ymweld ag ef ar gyfer ei hastudiaeth, Northmoor Meat Company, mai dyma’r ffordd orau o gyrraedd mwy o gwsmeriaid.
Llwyddodd yr ymweliad hefyd iddi ganolbwyntio ar sut y dylid magu ei gwartheg.
“Gwnaeth y gosodiad yn Northmoor Meat Company argraff fawr arna’, i a hoffwn feddwl am besgi fy ngwartheg bîff rywbryd yn y dyfodol ar laswellt,” meddai.
“Mae gen i ddiddordeb mewn pori cylchdro ac yn dechrau gwneud newidiadau i isadeiledd y fferm er mwyn rhoi’r system ar waith, fel gwella’r ffensys a meddwl am argaeledd dŵr.”
Roedd Ms Tarr hefyd wedi cofrestru ar gwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy am dechnegau pori cylchdro.
Dywedodd fod rhesymau da pam y dylid rhoi cymhelliant ariannol i ffermwyr bîff sy’n pesgi eu gwartheg yn llai dwys, i wneud yn iawn am y gost o’u gwerthu fel gwartheg stôr yn unig.
“Mae angen grantiau fel bod ffermwyr yn gallu defnyddio technegau fel pori cylchdro, ac mae angen cydnabod eu cynnyrch terfynol o gig eidion o safon fel gwerth ychwanegol,” meddai.
Rhaid i’r diwydiant hefyd amlygu’r gwahaniaethau rhwng cig eidion o Brydain a chig eidion wedi’i fewnforio i ddefnyddwyr.
“Roedd y ffermydd yr es i iddyn nhw yn dangos safonau lles anifeiliaid uchel a milltiroedd bwyd isel,” meddai.
“Maen nhw’n enghraifft wych o bolisïau amgylcheddol rhagorol a dulliau ffermio traddodiadol yn dod at ei gilydd i greu cynnyrch cig eidion o safon.”
“Mae angen i’r defnyddiwr ddeall yn well hefyd a ydynt yn prynu cig eidion o frid traddodiadol sy’n tyfu’n araf neu’n fridiau cyfandirol sy’n pesgi’n gyflymach.
“Dylai fod premiwm ynghlwm i’r cig eidion o frid traddodiadol sy’n tyfu’n araf a dylai’r cyhoedd ddeall y gwahaniaeth rhwng cig eidion sy’n cael eu pesgi ar laswellt a chig eidion sy’n cael ei fwydo ar borfa oherwydd bod y cyfan yn ddryslyd iawn,” meddai.
“Dylai cig eidion o wartheg sy’n cael eu bwydo ar borfa, lle mae’r anifail ond wedi cael ei fwydo â glaswellt ar hyd ei oes, fod yn fwy gwerthfawr na chig eidion organig.”
Credai Ms Tarr hefyd fod angen symudiad tuag at fwyta cig o safon yn hytrach na niferoedd.
“Mae yna lawer o wybodaeth anghywir am y ffordd mae cig eidion o Brydain yn cael ei gynhyrchu ac mae gwartheg Prydeinig yn cymryd y bai dro ar ôl tro am effaith cynhesu byd-eang, tra bod pobl yn anghofio’n ‘gyfleus’ yr holl ffactorau eraill sydd ar waith.”
“Mae angen i ffermydd bach werthu eu stori ffermio fel nad yw ffermio yn cael ei bardduo fel y prif gyfrannwr at effaith cynhesu byd-eang, a bod y cyhoedd yn gallu gweld yr holl dda y mae ffermwyr yn ei wneud i ofalu am y dirwedd a’r amgylchedd, a’r angerdd sydd ynghlwm â phob cynnyrch.”
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Wales, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.