28 Ebrill 2022
“Peidiwch byth â chymryd ymddygiad buwch sydd newydd loia yn ganiataol...gall hyd yn oed yr anifeiliaid mwyaf tawel ei cholli hi mewn eiliadau, fel y dysgais er gofid imi.”
Dyma eiriau Robert Lewis, ffermwr profiadol iawn yng Nghanolbarth Cymru a oedd yn gadeirydd ar NFU Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed, bellach yn cryfhau’n araf bron i 12 mis ar ôl i fuwch, yr oedd ef yn bwydo’i llo newydd-anedig, ymosod arno.
Roedd Rob, sy’n ffermio tua 260 erw ger Rhaeadr Gwy, wedi cael anafiadau difrifol gan gynnwys torri ei fertebrâu T12 mewn pum lle. Gwnaeth ei wraig, Audrey wylio’r digwyddiad brawychus yn digwydd mewn eiliadau, wrth i’r fuwch amddiffynnol hyrddio Rob o’r tu ôl, cyn stampio, cicio a rhoi ergyd iddo gyda’i phen wrth iddo orwedd ar y llawr.
Heb os, achubwyd bywyd Rob gan feddwl cyflym a chryfder pur un o’i feibion, Rhys, a ruthrodd draw ar ôl clywed ei fam yn sgrechian dros ruadau’r fuwch flin.
“Gwnaeth Rhys hyrddio’r fuwch i’r ochr, gan achosi’r fuwch i stopio ymosod arna i ac yn yr eiliadau a ddilynodd hynny, roedd Rhys wedi llwyddo i’m llusgo y tu allan yn ddiogel.”
Dechreuodd yr hunllef ar fore proffwydol ym mis Ebrill 2021, pan wnaeth Rob sylwi bod llo a anwyd ychydig oriau ynghynt yn sefyll ar ei draed ond yn gwrthod sugno. Ar ôl canfod bod gan y fuwch, a oedd fel arfer yn anifail dibynadwy o dawel, waed yn ei cholostrwm, penderfynodd flaenoriaethu lles y llo. Gyda jwg o golostrwm ac offer tiwb, aeth Rob ac Audrey yn ôl i’r gorlan loia i gynorthwyo.
“Roedd y fuwch yn dal i fod yn hollol dawel, felly canolbwyntiais i ar roi’r tiwb i lawr gwddf y llo, gan ei ddal yn gadarn rhwng fy nghoesau gyda fy nghefn at y fuwch, tra’r oedd Audrey yn dal y jwg o golostrwm.
Yn anffodus, gwnaeth y llo rhyw fath o sŵn tagu ac roedd y sŵn poerllyd hwnnw wedi dychryn y fuwch amddiffynnol a hyrddiodd i mewn i fy nghefn ar unwaith, gan fy nharo ar fy nghefn.
Rholiodd Rob i mewn i siâp pêl ar y llawr concrit er mwyn ceisio amddiffyn ei hun, ond er gwaethaf ei ymdrechion, parhaodd y fuwch flin i’w ddal ar lawr. Sylweddolodd Audrey nad oedd ganddi ddewis ond dringo dros borthydd defaid i gyrraedd rhyw fath o ddiogelwch cyn galw’r gwasanaethau brys.
Cyrhaeddodd un o barafeddygon Ambiwlans St. John, sy’n byw yn lleol, yn gyflym iawn cyn rhoi cymorth cyntaf ar unwaith i Rob, a oedd nawr yn gorwedd y tu allan i’r gorlan loia. Mae’n cofio bod mewn poen dirdynnol ac roedd yn amlwg mewn sioc, ond bryd hynny, er yr oedd yn ei gwrcwd mewn poen, llwyddodd Rob i sefyll ar ei draed.
Dywedodd Rob y bydd yr hyn a ddigwyddodd nesaf wedi’i serio yn ei gof am byth. Cyrhaeddodd hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru bron â bod ar unwaith, cafodd ei strapio ar stretsier a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Datgelodd sgan MRI ei fod wedi torri’r fertebrâu mewn pum lle gwahanol, wedi cael anafiadau cywasgu gyda briwiau a chleisiau llai difrifol ar ei gorff, ei freichiau a’i goesau.
Deuddydd wedi hynny, roedd gan Rob yr hawl i ddychwelyd adref. Ond 48 awr yn ddiweddarach, nid oedd yn gallu symud gan ei fod wedi cael ail bwl. Y tro hwn, roedd rhaid i bymtheg o ddynion tân rhan-amser, rhai ohonynt yn ffrindiau gyda Rob, ei godi oddi ar y gwely, ei strapio yn ôl ar stretsier a’i gario i lawr grisiau cyfyng y tŷ fferm a’i gludo mewn ambiwlans i lawr i’r adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd.
Roedd rhaid iddo gael rhagor o sganiau a chynghorwyd Rob, a oedd newydd droi yn 60, bod traul wedi effeithio ar ei gefn, fel sy’n digwydd i lawer o ffermwyr. Roedd arno angen gwisgo ei frês cefn cadarn am sawl mis, gyda llawer o orffwys, ffisiotherapi cyson, cyffuriau i ladd poen - popeth y gall ei ymgynghorwyr meddygol ei awgrymu i’w helpu i wella.
“Rwy’n ceisio lleihau fy nibyniaeth ar y cyffuriau lladd poen, ond does dim byd i oresgyn y blinder parhaus, y boen a’r sbasmau sy’n fy stopio rhag cael mwy na thair neu bedair awr o gwsg bob nos.”
Dywedodd Rob heb gymorth ei deulu a’i ffrindiau, yr ymateb ardderchog gan y gwasanaethau brys a’r tîm meddygol yng Nghaerdydd sy’n parhau i fonitro ei gynnydd yn gyson, ni fyddai ef yn y sefyllfa y mae ynddi nawr, yn ceisio dychwelyd i normalrwydd. Felly, beth ddylai Rob fod wedi ei wneud yn wahanol y diwrnod hwnnw?
“Fel pob ffermwr, rwy’n gwybod y peryglon o weithio gydag anifeiliaid mawr, ond y diwrnod hwnnw, cymerais ymddygiad y fuwch a oedd newydd loia yn ganiataol - neidiais i mewn i’r gorlan i ddelio â sefyllfa heb ystyried pa gamau y dylwn i fod wedi eu cymryd i amddiffyn fy hun ac Audrey.
“Achosodd yr eiliad honno o gamfarn, gan ruthro i mewn i’r gorlan heb ddefnyddio rhwystr i wahanu’r fuwch a’r llo, lawer o drafferth i mi. Ni fydd hynny’n digwydd eto!
“Peidiwch byth â gweithio gyda gwartheg heb eu ffrwyno heb ddefnyddio cyfleusterau neu offer trin addas.
“Peidiwch byth â diystyru’r risg sy’n gysylltiedig â gwartheg, hyd yn oed os oes gennych ragofalon da ar waith a’ch bod chi bob amser yn ystyried offer trin a llwybrau ffoi.”