27 Chwefror 2024

 

Mae cyfleoedd hyfforddiant a datblygu Cyswllt Ffermio wedi helpu Ernie Richards i ddysgu am arferion gorau ym maes amaethyddiaeth a’r syniadau diweddaraf yn ymwneud â rheolaeth dechnegol a busnes, gan roi’r hyder a’r wybodaeth i’r ffermwr ifanc i ymgymryd â rôl ehangach ar fferm ddefaid yr ucheldir ei gyflogwr.

Mae Ernie yn rheoli diadell o famogiaid Llŷn pedigri ar ran Stuart a Helen Morris ar fferm 350 erw Wernoog, ger Cleirwy, Powys.

Mae ei ddealltwriaeth o iechyd a pherfformiad y ddiadell a goblygiadau amgylcheddol y fferm wedi gwella o ganlyniad i gwblhau nifer o gyrsiau dysgu achrededig Cyswllt Ffermio a gweithgareddau ehangach, gan gynnwys aelodaeth o grŵp trafod.

Dywed Ernie bod datblygiad cydol oes a dysgu sut i wneud popeth yn dda wedi bod o fudd iddo ef ac i’r teulu Morris.

Wrth i’w wybodaeth a’i hyder gynyddu, mae’r cwpwl wedi gallu camu’n ôl, gan symud oddi ar y fferm a galluogi Ernie a’i deulu i symud i mewn i’r ffermdy i sicrhau ei fod yn ganolog i’r gwaith o reoli’r fenter o ddydd i ddydd.

Wrth iddo gamu i’r rôl honno, bydd yn defnyddio’r hyn a ddysgodd yn ystod cwrs hyfforddiant Arwain a Rheoli Cyswllt Ffermio a gwblhaodd yn 2023.

“Bydd dau fyfyriwr yn ymuno â ni am hyd at chwe wythnos yn ystod y cyfnod ŵyna, ac am y tro cyntaf, bydda i’n gyfrifol am eu rheoli,” eglurodd.

“Fe wnes i ddysgu cymaint ar gwrs hyfforddiant Arwain a Rheoli Cyswllt Ffermio a fydd yn helpu gyda’r gwaith hwnnw.’’

Mae’r ddiadell a fydd yn ŵyna yn ddiadell gaeedig o 1,000 o famogiaid Llŷn pedigri.

Mae’r ddibyniaeth ar driniaethau llyngyr yn y ddiadell gyda statws iechyd uchel wedi lleihau o ganlyniad i gyfrif wyau ysgarthol (FEC). Er mwyn datblygu ei ddealltwriaeth yn y maes hwn, mae Ernie wedi cwblhau cwrs Cyflwyniad i Reoli Llyngyr a Chyfrif Wyau Ysgarthol ar gyfer Cynhyrchwyr Defaid a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio.

“Gwyddwn fod ymwrthedd i rai o’r dosys, ac mae defnyddio cyfrif wyau ysgarthol yn golygu ein bod yn gallu rhoi triniaeth pan fo’i hangen ar yr ŵyn yn unig,” eglurodd.

Mae gennym ni bolisi difa caeth ar gyfer mamogiaid sy’n cael anawsterau wrth ŵyna, y rhai gyda phwrs diffygiol neu sy’n dioddef cloffni yn aml.

Mae sicrhau’r gwerth gorau posibl o’r mamogiaid hyn yn ffrwd incwm bwysig ar gyfer y busnes, ac mae defnydd Ernie o wasanaethau Cyswllt Ffermio wedi helpu gyda hynny hefyd. Roedd y pwnc yn un o themâu cyfarfodydd grŵp trafod Cyswllt Ffermio y mae’n rhan ohono, a fu’n trafod pynciau megis gwerthu ar yr adeg iawn.

Mae aelodaeth o’r grŵp trafod yn galluogi Ernie i rannu syniadau, problemau a datrysiadau gyda ffermwyr eraill o’r un anian, ac i elwa o arbenigedd technegol siaradwyr megis Phillipa Page, o gwmni Flock Health Ltd.

“Rydym ni i gyd yn canolbwyntio ar yr un math o bethau, rydym yn agored iawn gyda’n gilydd ac yn cadw mewn cysylltiad rhwng cyfarfodydd drwy grŵp Whatsapp,” eglurodd.

“Rydym ni bellach wedi derbyn cyllid i edrych ar glefydau rhewfryn er mwyn samplu gwaed ein diadelloedd i chwilio am glefydau o’r fath.”

Yn yr un modd, bu Erine yn ffodus i gael ei ddewis ar gyfer yr Academi Amaeth yn 2021 a bydd yn elwa ar fanteision y rhwydwaith cymorth amhrisiadwy a’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd drwy’r Academi am flynyddoedd i ddod.

Wrth i Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) gael eu cyflwyno ledled Cymru, mae Ernie hefyd wedi bod yn defnyddio gwasanaethau Cyswllt Ffermio i ddeall beth mae hynny’n ei olygu ar fferm Wernoog.

Y llynedd, cwblhaodd gwrs hyfforddiant ar ymwybyddiaeth amgylcheddol, archwilio a rheoli busnesau fferm.

“Roedd y cwrs yn canolbwyntio ar y rheolau newydd, ac roedd o fudd mawr o ran helpu i ddeall yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gydymffurfio,” meddai Ernie.

“Mae cofnod o’r holl dystysgrifau a’r cyrsiau a gwblhawyd yn cael eu storio yn adnodd storio data ar-lein Cyswllt Ffermio, sef Storfa Sgiliau.

“Er bod gen i gopïau papur o’r tystysgrifau hefyd, mae’n ddefnyddiol iawn i gael popeth wedi’i storio ar-lein mewn un lle cyfleus, drwy fy nghyfrif BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein),” meddai Ernie. Gallwch hefyd lawr lwytho adroddiad lcyflawn o’ch holl gofnodion ar un ddogfen.

Mae’n dweud ei fod yn ffodus bod Stuart a Helen yn cydnabod gwerth hyfforddiant a datblygiad parhaus.

“Maen nhw wedi fy ngalluogi i gael amser oddi ar y fferm i wneud y pethau hyn, ac rydw i’n ddiolchgar am hynny.

“Rydw i’n ceisio symud ymlaen bob amser, gan geisio deall cymaint â phosibl am ffermio, ac maen nhw’n cydnabod y bydd hynny o fudd iddyn nhw hefyd.’’

Gan edrych at y dyfodol, mae Ernie, sy’n aelod o Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru, yn gweld cyfleoedd da ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffermwyr.

“Newydd ddyfodiaid sy’n rhoi bywyd i unrhyw ddiwydiant bywiog, ac mae’r un peth yn wir am ffermio,” meddai.

“Mae’n gallu bod yn sector anodd i bobl ifanc heb unrhyw gefndir ym myd amaeth gael troed ar yr ysgol, ond wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n credu y byddwn ni’n gweld llawer o wahanol ffyrdd i wneud i hynny ddigwydd.’’

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran yr hyn sydd gan Cyswllt Ffermio i’w gynnig i chi a’ch busnes drwy ymweld â’n gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol neu drwy siarad â’ch Swyddog Datblygu lleol. Mae ffenestr ymgeisio’r Academi Amaeth ar agor YN AWR a bydd yn cau ar 15 Ebrill 2024.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o