28 Gorffennaf 2021

 

Mae uwchraddio cyfleusterau storio slyri yn hwyluso’r gwaith o gynyddu’r fuches ar fferm laeth yng Nghymru.

Mae Russell Morgan am gynyddu maint ei fuches o 50 o fuchod ynghyd â heffrod cyfnewid.

Er mwyn gwneud hyn, mae'n cynyddu cyfaint y storfa slyri yn fferm Graig Olway, Brynbuga, drwy greu lagŵn â chloddiau pridd 6,500m³ wedi’i leinio.

Bydd yr isadeiledd, a fydd yn cael ei gwblhau ddiwedd yr haf hwn, yn gallu dal gwerth o leiaf bum mis o'r slyri a gynhyrchir yn fferm Graig Olway gan y fuches hon.

Gyda digon o gapasiti, gall Mr Morgan dargedu chwalu tail i gyfateb ag anghenion maeth y cnwd, i'r fath raddau fel ei fod yn hyderus y gall leihau costau prynu gwrtaith mewn bagiau.

"Mae cynyddu’r fuches odro’n rhywbeth yr wyf wedi bod yn ei ystyried ers amser maith ac roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhaid i mi uwchraddio’r storfa slyri i allu gwneud hynny,'' meddai.

"O'r blaen, roedd yn rhaid i ni bwmpio'r lagŵn pan oedd angen lle storio ac roedd hyn yn golygu gwastraffu maetholion gwerthfawr yn y gaeaf. Fydd hynny ddim yn digwydd nawr.''

Drwy ei waith prosiect fel ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, mae Mr Morgan wedi cael cymorth wrth wneud ei benderfyniadau gan Gynghorydd Amgylchedd ADAS, Eoin Murphy.

Ymhlith y ffactorau a ystyriwyd ganddynt oedd y mesurau oedd eu hangen i leihau faint o ddŵr glân fyddai’n rhedeg i'r lagŵn, dewis safle addas ar gyfer y lagŵn a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth cynllunio a chaniatâd cyfreithiol i adeiladu.

Dim ond 15% o slyri a gynhyrchwyd yn y cyfnod storio o bum mis sy'n ofynnol  gan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar gyfer 300 o wartheg godro a 200 o stoc ifanc oedd y system flaenorol yn gallu ei ddal.

Wrth gyfrifo capasiti'r lagŵn newydd roedd yn rhaid ystyried sawl ffactor – nid yn unig y slyri o’r holl dda byw ond hefyd y dŵr budr e.e. y dŵr a redai o’r clamp silwair, dŵr o’r parlwr godro a slyri o fuarthau agored lle caiff da byw eu porthi.

Hefyd roedd yn rhaid ystyried y glawiad blynyddol a'r gofyniad o ran bwrdd rhydd – ar gyfer lagwnau â chloddiau pridd wedi’u leinio mae angen bwrdd rhydd o 750mm a’r gallu i gynnwys glawiad wyneb.  

Yn gyffredinol, roedd hyn yn golygu bod angen cloddio lagŵn oedd yn 45m o led, 60m o hyd a 7m o ddyfnder yn fferm Graig Olway.

Yn y safle lle mae'r lagŵn wedi'i leoli, mae’r pridd yn fas gyda llawer o gerrig ynddo – ar ôl samplu’r pridd gwelwyd bod angen i'r lagŵn gael ei leinio'n llawn a gosod system synhwyro gollyngiadau’n rhan ohono.

Bydd y system yn helpu i leihau'r effaith o ollyngiadau drwy allu eu canfod yn gynharach a delio â nhw'n brydlon. 

Er bod opsiwn i adeiladu'r lagŵn mewn cae arall, bydd dewis y safle sydd agosaf at yr uned laeth yn hwyluso'r gwaith rheoli ac yn darparu mynediad hwylus ar gyfer pwmpio slyri.

"Mae'n bwysig dylunio eich storfa ar gyfer system reoli'r fferm,'' meddai Mr Murphy.

Bydd yr hen system storio yn cael ei defnyddio fel pwll i dderbyn y slyri, i atal tywod rhag mynd i mewn i'r lagŵn newydd a thrwy hynny, gadw leinin y lagŵn newydd.

Bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiad ar fferm Graig Olway ar 22 Medi i drafod y prosiect a'r gwaith cyfrifo a chynllunio oedd yn rhan o’r prosiect.

Bydd ffermwyr yn cael cyfle i weld y lagŵn newydd a'r isadeiledd cysylltiedig.

Bydd Mr Murphy hefyd yn rhoi trosolwg o'r rheoliadau ansawdd dŵr newydd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o