19 Mai 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae arallgyfeirio amaethyddol yn sefyllfa gymhleth i’w hasesu gydag effeithiau gwahanol yn rhanbarthol ac yn fyd-eang
  • Gall arallgyfeirio chwarae rhan arwyddocaol o ran sefydlogrwydd ariannol busnes fferm gyda ffermydd mwy yn gallu cael manteision sydd yn aml yn llai posibl i fentrau llai fanteisio arnynt
  • Gallai annog hyfforddiant a chynyddu sgiliau ffermwyr yn ogystal â phwyslais ar y math cywir o strategaethau cymell gynorthwyo rhagor o ffermwyr i arallgyfeirio

 

Arallgyfeirio a diffiniadau

Mae arallgyfeirio yn y sector amaethyddol yn cael ei drafod yn gynyddol fel dull i fusnesau fferm greu incwm a gwneud elw yn fwy cyson. Mae strategaethau ffermio traddodiadol, yn neilltuol mewn ffermydd bach a chanolig, sy’n ganolog i’r rhan fwyaf o’r tirlun amaethyddol, yn cael trafferth i gael elw net  heb ychwanegu cynlluniau cymhorthdal y llywodraeth fel y cynllun taliad sylfaenol. Amlygir arallgyfeirio yn gyson fel dull o gael enillion ariannol buddiol. Yn 2012 nodwyd bod 50% o ffermydd y Deyrnas Unedig yn cael rhyw fath o incwm o arallgyfeirio nad yw’n amaethyddol  ac mewn tua 30% o’r systemau hyn roedd yr incwm trwy arallgyfeirio yn fwy nag incwm y fferm. Trwy asesu arallgyfeirio o safbwynt ymchwil gallwn gael data a dealltwriaeth a allai helpu gweithgareddau arallgyfeirio i lwyddo. Gall hyn hefyd ein helpu i ddeall unigolion sy’n gwrthwynebu arallgyfeirio ar hyn o bryd, gan helpu systemau cynghori a chynlluniau cymell y llywodraeth i weithredu mewn ffordd sy’n cynyddu’r nifer o ffermwyr sy’n arallgyfeirio ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion a’u dyheadau.

Mae papur a ddyfynnir yn aml ym maes ymchwil yn diffinio arallgyfeirio ar ffermydd fel “a strategically systemic planned movement away from core activities of the business, as a consequence of external pressures, in an effort to remain in and grow the business”. Nododd ymchwil dilynol bod ystyron termau heblaw “arallgyfeirio”, yn gorgyffwrdd termau eraill gan gynnwys aml-weithgaredd, aml-swyddogaeth ac entrepreneuriaeth. Mae aml-weithgaredd yn cyfeirio at waith sy’n rhoi incwm neu arferion tu allan i’r fferm i gynnal sefydlogrwydd yr aelwyd, gydag arolygon ar draws Cymru yn dangos bod 41% o aelwydydd fferm yn rhai aml-weithgaredd yn 2010. Mae’r ffeithiau hyn yn gwneud llawer i awgrymu nad yw ffermio ar ei ben ei hun yn ddigon fel y brif ffynhonnell refeniw, felly nid yw’n syndod bod arallgyfeirio yn cael ei ystyried yn gynyddol. Felly, beth yw’r pwysau a’r cymhellion eraill dros arallgyfeirio portffolios ffermydd? Mae gwerthusiad o nifer o bapurau’n amlygu’r meysydd canlynol;

Pwysedd

Cymhelliant

 

  • Cystadleuaeth y farchnad gan fusnesau mawr
  • Lleihau/lledaenu risg ariannol

 

  • Gwasgfa costau-prisiau
  • Defnyddio adnoddau segur

 

  • Polisi/deddfwriaeth
  • Cymorthdaliadau llywodraeth neu allanol
  • Pwysedd cymdeithasol (safbwyntiau defnyddwyr)
  • Cyngor a hyfforddiant sydd ar gael

 

  • Olyniaeth deuluol – rhoi gwaith i’r teulu
  • Agenda bersonol/cynnydd

 

  • Pwysedd economaidd
  • Mynediad at gwsmeriaid newydd

 

  • Pwysedd perfformiad amgylcheddol
  • Serendipedd (wedi ei sbarduno gan ddarganfyddiadau ar hap)

 

         

Mae nifer o’r rhain yn effeithio ar fusnesau fferm i raddau gwahanol mewn lleoliadau gwahanol neu oherwydd sefyllfaoedd gwahanol. Ond awgrymir, bod pwysedd (neu wthiadau) lle mae arallgyfeirio yn hanfodol i’r fferm oroesi yn llai effeithiol o ran arwain at arallgyfeirio entrepreneuraidd mewn cymhariaeth â chymhelliant (tyniadau). Awgryma hyn y dylai byrddau cynghori amaethyddol ac asiantaethau’r llywodraeth ganolbwyntio ar roi cymhelliant i arallgyfeirio cymaint â phosibl.  

 

Dealltwriaeth trwy ymchwilio

Mewn ymchwil mae arallgyfeirio yn aml yn cael ei gysylltu â thrafodaethau yn ymwneud â gallu entrepreneuraidd cyffredinol/sgiliau a natur ffermwyr a theuluoedd fferm mewn mentrau llai. Ond, mae arallgyfeirio yn dal yn faes syn cael ei esgeuluso yn gymharol  mewn llenyddiaeth yn gyffredinol. Mae llawer o’r hyfforddiant mewnol, cynllunio strategol a’r ffurfio ar ffermydd teuluol yn troi o gwmpas y naratif a chyfnewid gwybodaeth mewnol yn y teulu. O ran y teulu, mae clystyru mentrau bach a chanolig, gan gynnwys nifer o ffermydd, neu ffermydd gyda busnesau bach eraill, yn gwasgaru’r risg ac yn ei hanfod yn cynyddu maint cyffredinol y busnes. Trafodir hyn yn neilltuol pan fydd busnesau fferm llai gwahanol berthnasau yn yr un teulu yn trefnu gydai gilydd  fel strategaeth gyffredin. Yn allweddol, mae busnesau bach a chanolig amaethyddol yn fwy tebygol o fod â meddylfryd statig mewn cymhariaeth â mentrau amaethyddol mwy, gan feddwl amdanynt eu hunain fel cynhyrchwyr/cyflenwyr traddodiadol yn hytrach nag arloeswyr ac arweinwyr yn eu meysydd. Dangoswyd bod strategaethau fel annog a mentora yn helpu’r rhai mewn mentrau bach a chanolig i weld eu hunain yn arweinwyr a dod o hyd i’r atebion cywir sy’n addas iddyn nhw, trwy gyfarwyddyd yn hytrach na bod rhywun yn dweud wrthynt yn union beth ddylent fod yn ei wneud. 

Wrth ymateb i’r pwyslais hwn ar arallgyfeirio, arweiniad ac arloesedd mewn systemau amaethyddol gwelwyd newid clir dros y blynyddoedd diwethaf tuag at ymgorffori hyfforddiant arallgyfeirio/entrepreneuraidd i ffermwyr a myfyrwyr amaethyddol mewn addysg uwch. Sy’n awgrymu ei fod wedi ei dderbyn fel maes craidd er llwyddiant y sector. Mae’n debygol mai canlyniad yw hun i’r maes eang o ymchwil sy’n pwysleisio bod hyfforddi ac uwch-sgilio’r genhedlaeth newydd o ffermwyr yn allweddol ar gyfer olyniaeth gynaliadwy yn y tymor hir. 

Nodwyd hefyd bod rhwydweithiau arloesedd trwy ystyried syniadau ac adnoddau sydd ar gael gan brifysgolion, canolfannau ymchwil, ymgynghorwyr, cyflenwyr a chwsmeriaid. Credir bod rhwydweithiau arloesedd yn helpu busnesau fferm bach yn benodol i oresgyn rhwystrau o ran eu diffyg maint ac adnoddau trwy eu cysylltu â rhwydwaith sy’n llawn o wybodaeth ac adnoddau. Mae’r rhain wedi helpu wrth wella perfformiad amgylcheddol ffermydd a pherfformiad ariannol ffermydd mewn astudiaethau Ewropeaidd. Mae’r egwyddorion hyn yn sylfaen i’r cynllun Partneriaeth Arloesi Ewrop y mae ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru wedi cael budd ohono trwy gydweithio ar brosiectau blaengar sydd wedi helpu i ddeall effeithiau gwahanol gyfleoedd arallgyfeirio.

 

Dewisiadau ar gyfer arallgyfeirio

Gall yr arallgyfeirio fod o fewn y sector a thu allan i’r sector amaethyddol. Gall agor llwybrau marchnata newydd ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau sy’n cael eu cynhyrchu ar y fferm arwain at ffrydiau refeniw newydd. Mae’r enghreifftiau o arallgyfeirio o fewn y sector yn cynnwys;

  • Cnydau gwahanol (yn cynnwys porthiant neu fwyd a meddyginiaethol)
  • Da byw gwahanol neu reolaeth anifeiliaid wahanol (defaid godro, geifr godro yn y Deyrnas Unedig)
  • Strategaethau cynhyrchu gwahanol (adnewyddadwy, amgylchedd wedi ei rheoli, organig)
  • Byrhau’r gadwyn fwyd (lladd-dai ar y safle, unedau prosesu a siopau fferm, gwerthu’n uniongyrchol ar-lein)
  • Cynnyrch gwahanol (menyn, caws, hufen iâ, seidr, gwin, gwlân, crwyn)
  • Contractio i ffermwyr eraill
  • Prydlesu tir

Tra mae gan lwybrau arallgyfeirio allanol gyfoeth o ddewisiadau ar gael gan gynnwys;

  • Amaeth-dwristiaeth (Llety, gwyliau gweithgareddau ac ati)
  • Rhentu
  • Adwerthu (siopau fferm a mentrau adwerthu eraill)
  • Hyfforddiant (Hyfforddiant hwsmonaeth anifeiliaid, hyfforddiant tyfu cnydau, hyfforddiant sgiliau traddodiadol)
  • Contractio (ar gyfer sefydliadau/busnesau nad ydynt ar ffermydd)
  • Defnyddio tanwydd gwahanol a gwastraff (biodanwydd, offer treulio anaerobig, lleoliadau creu compost)
  • Ynni adnewyddadwy

Dau o’r llwybrau mwyaf cyffredin o arallgyfeirio allanol a drafodwyd trwy’r llenyddiaeth i gyd yw amaeth-dwristiaeth (sy’n cwmpasu nifer o wahanol fathau o fentrau) ac adwerthu trwy siopau fferm fel llwybr gwerthiant uniongyrchol at gwsmeriaid. Er bod llawer o botensial iddynt nid ydynt yn dod heb eu cymhlethdodau a’u rhwystrau. Mae’r ddau’n dibynnu ar leoliad y fferm o ran denu cwsmeriaid gyda llawer o ardaloedd gwledig heb y cwsmeriaid angenrheidiol i’w gwneud yn hyfyw yn ariannol. O ran amaeth-dwristiaeth, mae presenoldeb gweithgareddau eraill yn yr ardal i annog cwsmeriaid i ymweld hefyd yn ystyriaeth. Ac eto, cofnodwyd bod amaeth-dwristiaeth yn rhoi pwysau ar ffermydd i roi golwg benodol ar ffermio i gwsmeriaid sy’n wahanol i’r arferion traddodiadol a ddefnyddir fel arfer. Yn ei hanfod gall hyn arwain at ‘fferm dwristiaid’ a ‘fferm waith’ tu ôl i’r llenni a all ychwanegu at y gwaith a nodwyd ei fod yn cael effaith ar y mwynhad y mae ffermwyr yn ei gael o’u gwaith.

 

Rhwystrau i’w goresgyn

Mae arallgyfeirio ac arloesedd entrepreneuraidd yn feysydd o welliant economaidd posibl mewn amaethyddiaeth, yn arbennig ar gyfer busnesau bach a chanolig i gystadlu gyda busnesau amaethyddol mwy. Felly pam nad yw pawb yn ei wneud? Mae rhwystrau i atal arallgyfeirio yn bodoli, yn fewnol o fferm i fferm ac yn allanol yn y persbectif cenedlaethol neu fyd-eang. Trwy ddadansoddi llenyddiaeth dyma rai o’r rhwystrau cyffredin sy’n ymddangos dro ar ôl tro.

 

Rhwystrau mewnol

  • Diffyg adnoddau (gan gynnwys amser, llafur a ffocws)
  • Diffyg offer
  • Sgiliau annigonol, neu ddiffyg sgiliau
  • Cyllid annigonol
  • Ymddygiad a meddylfryd anhyblyg (cadw at draddodiad)
  • Lleoliad anaddas

Rhwystrau allanol

  • Cystadleuaeth fyd-eang
  • Rheoliadau a deddfwriaeth/llywodraeth nad yw’n gefnogol
  • Newidiadau yn y farchnad
  • Rhwydweithio ac ecosystemau heb ddatblygu
  • Seilwaith anaddas
  • Diffyg, neu gyfnewid gwybodaeth/hyfforddiant annigonol

Mae cyngor a hyfforddiant mewn sgiliau i hwyluso arallgyfeirio yn rhwystrau mawr ac fel y cyfryw mae darparu’r rhain yn allweddol. Dangoswyd bod amrywiaeth o ddulliau hyfforddi  gan gynnwys cymheiriad i gymheiriad; arbenigwr i gymheiriad; arbenigwr i ymarferwr ac ymarferwr i ymarferwr i gyd â manteision. Felly dylai llywodraethau, rhwydweithiau arloesi a chyrff cynghori amaethyddol i gyd barhau i gefnogi cynlluniau sy’n cynnig cyngor ar sail gwybodaeth, mentora a chyfleoedd hyfforddi i ffermwyr, fel y rhai sydd ar gael yng Nghymru trwy Cyswllt Ffermio.

Mae’r rhwystrau eraill yng Nghymru (a’r Deyrnas Unedig wledig yn gyffredinol) yn cynnwys seilwaith rhwydwaith er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein. Rydym wedi trafod o’r blaen pam ei fod yn cael ei alw yn aml yn “y rhaniad digidol” gwledig ac mae hyn yn debygol o fod yn rhwystr i atal arallgyfeirio busnes oddi ar y fferm yn llwyddiannus. Dengys ymchwil bod ffermydd sy’n mabwysiadu llawer o dechnoleg (sydd yn aml yn gofyn am fand-eang neu fynediad i rwydwaith) yn dueddol hefyd o ddangos lefelau uwch o arallgyfeirio busnes, mewn arolygon o ffermwyr Cymru.

Er bod llawer o’r rhwystrau yn ymwneud mewn rhyw ffordd ag effeithiau economaidd ar fusnes y fferm, mae ymchwil yn dangos yn gyson nad cymhelliant ariannol yn aml yw’r prif ysgogydd i arallgyfeirio  ac, mewn sawl enghraifft, bod ffermwyr yn rhoi gwerth ar y mwynhad a’r balchder y maent yn ei deimlo am ddulliau ffermio traddodiadol  yn fwy na’r gwerth ariannol uwch y gallant fod wedi ei gyflawni o arferion arallgyfeirio. Dangoswyd hyn gan grŵp penodol o ffermwyr  a ddangosodd y byddent yn rhoi blaenoriaeth i weithgareddau niferus ac yn lleihau cynhyrchiant ar y fferm yn weithredol er mwyn gallu cadw strategaethau ffermio traddodiadol a’r hunaniaeth bersonol sy’n gysylltiedig â’r rhain. Fel y cyfryw, mae hon yn ystyriaeth o ran ymddygiad y mae angen mwy o bwyslais arni mewn gwaith ymchwil. Gallai dysgu rhagor helpu i ddeall sut i gynyddu’r gwerth a bodlonrwydd a roddir i ffermwyr trwy strategaethau arallgyfeirio, gan roi hwb i’r nifer sy’n eu dilyn ac o bosibl lwyddiant y sector yn ei gyfanrwydd.

 

Crynodeb

Mae arallgyfeirio yn strategaeth sy’n cael ei thrafod yn gynyddol ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol yn y sector amaethyddol yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Gall arallgyfeirio fod yn ffactor wrth ddewis strategaethau gwahanol yn y maes amaethyddol, neu’r tu allan iddo, a all fod â gwell manteision i’r sector, boed y rheiny yn rhai ariannol neu amgylcheddol. Mae’r strategaethau sy’n edrych ar gynyddu’r arallgyfeirio mewn amaethyddiaeth yn cynnwys gwella gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau’r rhai yn y sector yn ogystal â rhoi cefnogaeth a chymhelliant. Er na all ymchwil, yn benodol, roi atebion uniongyrchol a therfynol o ran pa strategaethau arallgyfeirio sy’n gweithio orau mae yn helpu i roi gwybodaeth i gynghorwyr a llywodraethau ar sut i deilwra eu cyngor a’u cefnogaeth yn y dyfodol, ar sail dadansoddi ymateb y ffermwyr a dadansoddi effaith cynlluniau. Yn benodol, dylai ymchwil gael effaith ar y gallu i dargedu grwpiau o ffermwyr a all fod yn wrthwynebus i raddau mwy neu lai i arallgyfeirio oherwydd dealltwriaeth o’u gofynion a’u meddylfryd.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol