14 Rhagfyr 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae ffermio organig yn ymdrechu i ddefnyddio technegau sy’n gweithio gydag ecosystemau lleol
  • Gall strategaethau ffermio organig fel amrywio cnydau a’u cylchdroi wella lefelau amrywiaeth planhigion mewn cae
  • Mae strategaethau buddiol eraill y gallwn eu cymryd o ffermio organig ond nid oes raid i’r rhain fod yn unigryw i systemau organig a gellid eu defnyddio mewn ffermio confensiynol hefyd  
  • Mae parthau a phocedi llawn rhywogaethau fel blodau gwyllt a chymysgedd o laswelltau, llwyni a rhywogaethau coed (yn groes i drin uncnwd) ac adfer rhannau o gynefinoedd rhannol naturiol yn fuddiol iawn i unrhyw system ffermio

 

Mae bioamrywiaeth yn ystyriaeth hanfodol i ecosystemau weithio yn fyd-eang ac wrth gynnig amrywiaeth o wasanaethau ecosystem i’r boblogaeth o bobl (fel amgylcheddau hardd, awyr lân a dŵr glân). Rydym wedi trafod strategaethau eang y gellid eu defnyddio mewn amaeth i gael effaith ar fioamrywiaeth ar ffurf rhannu tir ac arbed tir, ond o fewn y strategaethau yma, gall systemau ffermio penodol gael effeithiau pellach ar fioamrywiaeth. Un o’r systemau sy’n ymddangos ei bod yn cael effeithiau sylweddol ar fioamrywiaeth ar draws y ffyrdd y mae’n cael ei weithredu yw trosi i ffermio organig. Mae papurau’n awgrymu, ar gyfartaledd, bod ffermio organig yn arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o rywogaethau yn lleol a’u niferoedd o 34% a 50% mewn cymhariaeth â systemau confensiynol, ond yn un o’n herthyglau blaenorol, fe wnaethom edrych ar effeithiau ffermio organig ar newid hinsawdd a nodi rhai o gymhlethdodau’r sefyllfa. Er bod llawer yn credu bod ffermio organig yn ei hanfod yn well i’r amgylchedd oherwydd bod llai o gemegolion synthetig yn cael eu defnyddio mae ein herthygl yn amlygu sut y mae’r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth na hyn. Fel y cyfryw mae’r erthygl yn ceisio gwerthuso a yw dadl debyg yn wir ar gyfer ffermio organig a bioamrywiaeth a sut y mae manteision y strategaeth hon i amrywiaeth eang o rywogaethau yn gweithredu mewn gwirionedd.

 

Pam bod ffermio organig o fudd i fioamrywiaeth

Yn gyffredinol, ystyrir bod ffermio organig yn llawer mwy o system holistaidd, yn fwy dibynnol ar y manteision sy’n gysylltiedig ag ecosystemau naturiol, fel y cyfryw dylai anelu at ganolbwyntio ar gynnal a hybu’r ecosystemau hyn. Pan weithredir hyn yn ymarferol gall systemau organig gael amrywiaeth o fanteision i fioamrywiaeth a gan fioamrywiaeth.

Rheoli ffermio organig Wedi ei addasu o Reganold a Wachter (2016)

 

Manteision system organig

Cemegolion

Mae’r gallu i werthu cynnyrch fel rhai wedi eu hardystio yn organig yn dibynnu ar gadw at gyfyngiadau ardystio. Un o’r prif gyfyngiadau mewn ffermio organig yw’r amrywiaeth o gemegolion amaethyddol sydd ar gael i’w defnyddio a’r crynhoad y gellir eu defnyddio ar ffermydd. Awgrymodd astudiaethau dadansoddi meta yn y gorffennol bod y dewis mwy cyfyng yma o gemegolion yn golygu bod ffermwyr holistaidd yn meddwl mwy ymlaen llaw ac yn cynllunio mwy ar eu strategaethau, gan arwain at lai o chwalu cemegolion yn gyffredinol sy’n achosi niwed i ecosystemau ac yn hytrach mwy o strategaethau sy’n defnyddio gwybodaeth am ecosystem, fel dulliau rheoli biolegol.

Cylchdroi cnydau amrywiol

Mae elfen bwysig o ardystiad cymdeithas y pridd o ffermio cnydau  i fod yn organig yn y Deyrnas Unedig yn ymwneud â rheoli’r pridd. Un o’r prif strategaethau a gynghorir ac a drafodir dro ar ôl tro, yn y llenyddiaeth ardystio ac mewn astudiaethau sy’n hyrwyddo arferion ffermio organig ar gyfer bioamrywiaeth, yw’r anogaeth i gylchdroi cnydau amrywiol. Cysylltwyd cylchdroi cnydau wedi ei dargedu mewn priddoedd â chynyddu’r gweithgaredd biolegol a gweithrediad microbiom ac amrywiaeth rhai priddoedd a hefyd awgrymwyd bod iddo swyddogaeth o ran amharu ar effaith chwyn.

Eraill

Mae strategaethau eraill hefyd yn bodoli sy’n cael eu hannog ac yn fwy amlwg ar ffermydd wedi eu hardystio yn organig ond nid ydynt yn rhan o’r rheoliadau ardystio. Er ein bod yn ystyried y rhain yma o ran manteision systemau organig, gallant fod yr un mor berthnasol mewn systemau confensiynol blaengar.

  • Aseswyd cadw systemau pori cymysg lle mae rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid yn cael eu cymysgu o’r blaen a nodwyd bod i’r systemau hynny gyfraniad at fioamrywiaeth.
  • Derbyniodd defnyddio systemau ffermio cymysg lle mae cnydau ac anifeiliaid yn cael eu cymysgu bwyslais cynyddol fel strategaeth gylchol sy’n hunangynhaliol ac yn hybu bioamrywiaeth
  • Mae rheolaeth sympathetig o gynefinoedd heb gnydau a chanolbwyntio ar elfennau o’r dirwedd naturiol yn fuddiol iawn i gynyddu bioamrywiaeth. Mewn rhai enghreifftiau, gall y rhain fynd cyn belled â gweithgareddau adfer fel y trafodwyd yn yr erthygl rhannu tir ac arbed tir. 
  • Mae strategaethau amrywio cnydau yn anochel yn cael effeithiau ar y fioamrywiaeth o’u hamgylch. Bydd symud o gnydau ungnwd, fel gwenith a grawn, at ddewisiadau cnydau mwy cynhenid ac amrywiol yn cynnig cynefinoedd gwahanol ac adnoddau bwyd i amrywiaeth ehangach o organebau i fanteisio arnynt yn y mosaig o dirwedd. Rydym hefyd wedi trafod o’r blaen effeithiau arallgyfeirio er lles cynaliadwyedd ac economeg.  
  • Awgrymir caeau llai (sy’n fwy cyffredin mewn systemau organig) ar draws y llenyddiaeth i gynyddu lefelau bioamrywiaeth i bob uned (oherwydd bod ffactorau fel caeau llai yn arwain at gynefinoedd nad ydynt yn gnydau fel gwrychoedd a choed ac ardaloedd ymylol i wahanu caeau yn y dirwedd gan arwain at lai o “ynysoedd” o fioamrywiaeth.)
  • Cysylltwyd strategaethau tail gwyrdd mewn nifer o astudiaethau â chynnydd yn yr amrywiaeth a’r cyfoeth microbaidd yn y pridd a gall atal pridd moel sy’n cael ei ystyried fel elfen sy’n lleihau iechyd y pridd a’i ffrwythlondeb yn gyffredinol.
  • Bydd llai o fewnbwn gwrtaith yn lleihau’r risg y bydd yn colli i gyrsiau dŵr a all gael effaith ar amrywiaeth y rhywogaethau yn y dŵr. Mae lefelau uwch o faethynnau yn newid y boblogaeth o ficrobiom yn y pridd gan gael effaith ar yr amrywiaeth o flodau ac anifeiliaid.
  • Cysylltir defnyddio tail organig â newidiadau buddiol a newidiadau i’r micro-organebau yn y pridd mewn sawl arbrawf mewn cymhariaeth â gwrtaith synthetig. Ond yn bwysig, gall dadansoddi lefelau maetholion tail fod yn allweddol wrth sicrhau nad oes gormod o wrtaith yn cael ei roi gan arwain at y niwed a drafodir uchod.

 

Trafodaeth yn ymwneud â ffermio organig a bioamrywiaeth

Un maes trafod wrth ddefnyddio strategaethau ffermio organig er mwyn gwella bioamrywiaeth yw’r gofyn uwch am weithrediadau ar sail trin y tir i baratoi tiroedd tyfu a chwynnu heb ddefnyddio llawer o’r dulliau rheoli chwyn trwy gemegolion. Nid yn unig mae wedi cael ei ddangos bod trin y tir yn cael effeithiau ar iechyd y pridd, trwy ymyrryd â ffwng mycorhisol arbuscwlaidd  ac elfennau microbiom eraill y pridd, ond mae ganddo hefyd gysylltiadau negyddol gydag allyriadau nwyon tŷ gwydr fel y trafodwyd yn yr erthygl flaenorol ar ffermio organig. Er gwaethaf hyn, dangosodd rhai astudiaethau y gall ffermio organig tymor hir fod yn gymharol lwyddiannus hyd yn oed gyda strategaethau trin llai ar y tir. Un dull syml o leihau unrhyw effeithiau sy’n gwrthdaro yw i gynlluniau ardystio organig yn fyd-eang bwysleisio’r gofyn am strategaethau lle mae llai o drin neu ddim trin pan fydd yn bosibl.  

Mae ffermio organig yn cael gwared ar gemegolion synthetig ac felly credir ei fod yn well ar gyfer bioamrywiaeth oherwydd y diffyg marwolaethau nad ydynt yn cael eu targedu ymhlith tacson cysylltiedig neu heb gysylltiad. Ond mae’r rheoliadau yn caniatáu chwalu cyfyngedig ar gemegolion yr ystyrir eu bod yn “deillio o sylwedd naturiol”. Er gwaethaf yr agweddau cadarnhaol a drafodir uchod, dangoswyd mewn astudiaethau bod y cemegolion yma yn cael effeithiau negyddol ar yr ecosystem oherwydd eu bod yn crynhoi mewn priddoedd a chyrsiau dŵr. Mae hyn yn awgrymu y gall strategaethau fel chwalu cemegolion yn fanwl gywir, y gellir ei gyflawni mewn systemau organig neu gonfensiynol (trwy offer mapio ac offer chwalu manwl gywir) fod yn bwysicach na chemegolion sy’n cyd-fynd â’r amodau organig fel offer holistaidd.

Felly pam ein bod yn dal i weld dirywiad mor ddramatig mewn bioamrywiaeth yn fyd-eang ac mewn sefyllfaoedd amaethyddol dros amser, er gwaethaf y nifer gynyddol o systemau organig sydd wedi eu dilyn? Er enghraifft, roedd gan Ewrop 10 miliwn hectar o dir wedi ei ardystio’n organig yn 2010 mewn cymhariaeth â 16.5 miliwn yn 2019 ac rydym wedi gweld cynnydd 555% yn yr ardal o dir syn cael ei reoli’n organig trwy’r byd ers 1999. Mewn cymhariaeth dim ond am 1.5% o’r holl dir amaethyddol y mae ffermio organig yn cyfrif, felly gall unrhyw newidiadau sy’n cael eu gweld fod yn rhy leol ac yn rhy fach pan gânt eu hehangu i safbwynt byd-eang. Yn yr un modd gall effeithiau ar fioamrywiaeth nad ydynt yn amaethyddol fel allyriadau nwyon tŷ gwydr, datblygu, datgoedwigo, llygredd a llawer o agweddau eraill sy’n cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth fod yn gwrthbwyso unrhyw fanteision organig sy’n cael eu creu. Yn yr un modd, fel y mae llawer o bapurau’n awgrymu, gall newid i ffermio organig (yn neilltuol mewn lleoliadau nad ydynt yn ddelfrydol gyda strategaethau llai na delfrydol) arwain at ostyngiadau eithaf sylweddol mewn cynnyrch (hyd at 25% o ostyngiad ar draws pob cnwd a hyd at 50% o ostyngiad mewn rhai cnydau fel gwenith), felly bydd angen mwy o dir yn fyd-eang i dyfu bwyd a chael effaith negyddol ar fioamrywiaeth yn yr ardaloedd hyn  (gweler y dadleuon a drafodir yn yr erthygl hon). 

Aeth astudiaeth ddiddorol yn 2010 ati i samplo ffermydd organig a chonfensiynol wedi eu paru yn y Deyrnas Unedig ac edrych ar yr amgylcheddau ar sail cae, fferm a thirwedd i weld ble’r oedd yr effeithiau ar newid bioamrywiaeth. Er bod yr astudiaeth i raddau helaeth yn cytuno â chanfyddiadau ymchwil arall ar fanteision ffermio organig o ran bioamrywiaeth datgelodd rai patrymau diddorol o ran pwysigrwydd yr amrywiaeth ac ansawdd y tirweddau o’u hamgylch o ran cael yr effaith mwyaf. Yn ei hanfod yr hyn a ddatgelwyd oedd bod ffermydd organig yn gweithredu ar eu pen eu hunain yn cael llai o effaith na phan fyddant wedi eu hamgylchynu gan systemau ffermio organig eraill gan arwain at newidiadau ehangach i’r dirwedd. Yr hyn a ganfuwyd yn yr astudiaeth hon hefyd ac astudiaethau eraill, wrth edrych ar effeithiau ffermio organig ar fioamrywiaeth, oedd bod buddion bioamrywiaeth yn cael eu gweld yn fwy rhwydd mewn rhai grwpiau strwythurol o blanhigion ac anifeiliaid gyda phlanhigion, gwenyn ac arthropodau yn fwy tebygol o weld manteision na bywyd gwyllt arall fel adar. Gall hyn arwain at effeithiau tymor hir ar strwythurau ecosystemau mewn ffyrdd na ellir eu gwybod. 

 

Canfu dadansoddiadau o astudiaethau niferus, bod strategaethau yn y caeau a ddefnyddir ar ffermydd yn cael llawer llai o effaith ar fioamrywiaeth leol na rheolaeth oddi ar y cae. Yr hyn mae hyn yn ei olygu yw bod ystyriaeth ofalus o ymylon caeau, gwrychoedd a thir ymylol, er enghraifft, yn gallu cael llawer mwy o effaith ar enillion o ran bioamrywiaeth na defnyddio strategaethau organig i chwynnu gan chwalu llai o blaleiddiad yn benodol. Cadarnhawyd hyn gan astudiaeth samplo natur  mewn dros 1470 o gaeau (confensiynol ac organig) ar draws Ewrop ac Affrica. Er eu bod wedi dod o hyd i gyfartaledd o 10.5% yn fwy o amrywiaeth o rywogaethau mewn systemau organig ar lefel caeau ar lefel fferm roedd y rhain yn gostwng i gynnydd o 4.6% ac ar lefel ranbarthol roedd y rhain yn gostwng i 3.1% mewn cymhariaeth â systemau confensiynol. Gall y wybodaeth yma gael ei defnyddio ar draws systemau confensiynol trwy ddeall y gall dewisiadau fel darnau o neilltir bywyd gwyllt (ar hyd ymylon caeau a dan bolion trydan ac ati), plannu coed a llwyni ar ymylon caeau a braenar glaswellt y cyfan wedi cael eu profi i fod â budd o ran amrywiaeth rhywogaethau.

Er bod tail organig yn gonglfaen i fewnbwn maetholion i bridd, cnydau neu laswelltir systemau organig a rhai confensiynol, nid yw heb ei ystyriaethau bioamrywiaeth. Gall swyddogaeth cyfuniadau o gyffuriau sy’n bresennol mewn tail ar ôl rhoi triniaeth wrthficrobaidd ac anthelmintig i anifeiliaid gael effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth pridd fel y trafodwyd mewn erthyglau blaenorol ac yn benodol ar grwpiau allweddol sy’n hanfodol ar gyfer iechyd y pridd fel chwilod y dom. Yn yr un modd gall microbiom tail fod yn faes lle gall ymwrthedd gwrthficrobaidd ddatblygu a all fod yn niweidiol i reoli micro-organebau ar raddfa eang yn ein hamgylcheddau a salwch anifeiliaid a phobl. 

 

Porthi’r byd

Un o fanteision pwysig bioamrywiaeth a nodir mewn erthyglau eraill yr ydym wedi eu cynhyrchu yw’r cysylltiad rhwng mwy o fioamrywiaeth a mwy o allu i addasu i ddigwyddiadau hinsawdd. Wrth i gynnyrch ffermio confensiynol fynd yn llai rhagweladwy, oherwydd newidiadau tymhorol ac eithafion tywydd na ellir eu rhagweld, mae’r gallu i addasu yn bwysicach nag erioed i roi ffynhonnell fwyd sefydlog. Mae papurau’n edrych ar effeithiau amrywioldeb ffermio organig yn awgrymu bod y systemau hyn yn dueddol o fod â chynnyrch hyd yn oed yn fwy amrywiol na systemau confensiynol (ochr yn ochr â’u cynnyrch is yn barod yn gyffredinol). Tra gellir cael iawn am yr amrywiadau yn y cynnyrch mewn rhai enghreifftiau trwy brisiau uwch cnydau organig, sydd yn ei hanfod yn lleihau’r effaith niweidiol ar ffermwyr, nid yw systemau felly ar eu pen eu hunain, ar eu ffurf bresennol, yn rhoi budd i’r cynhyrchiant ar gyfartaledd. Felly mae’n debygol y bydd angen datblygiadau wrth wella strategaethau ffermio organig, neu gynnwys strategaethau a thechnolegau eraill ochr yn ochr â ffermio organig i borthi poblogaeth gynyddol y byd.

 

Crynodeb

Er ei bod yn glir y bydd systemau ffermio organig yn cael eu rheoli’n dda o fudd i fioamrywiaeth gall llawer o’r strategaethau sy’n effeithiol wrth gynyddu bioamrywiaeth yn y systemau hyn hefyd gael eu gweithredu mewn systemau confensiynol neu systemau eraill unigryw sy’n rhoi pwyslais ar fod yn gynaliadwy/adfywiol. Felly, efallai na ddylai’r drafodaeth hon fod am ran ffermio organig yn benodol ond yn hytrach ganolbwyntio ar a ddylai cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu tuag at fioamrywiaeth ganolbwyntio ar weithredoedd unigol yn hytrach na systemau cyffredinol. Mae’n amlwg, yn y gorffennol, mai apêl fwyaf ffermio organig i lawer o ffermwyr oedd y premiymau uwch oedd i’w cael am eu cynnyrch. Heb newid y systemau gwobrwyo tuag at gyflawni premiymau am gynnyrch sy’n hybu cynaliadwyedd/bioamrywiaeth (neu gymorthdaliadau penodol), mae’n annhebygol y bydd newidiadau mawr o ran defnyddio strategaethau sydd o fudd i fioamrywiaeth yn digwydd. Felly, os yw llywodraethau a sefydliadau byd eang mewn gwirionedd yn dymuno dylanwadu ar fioamrywiaeth, mae’r rhain yn agweddau y mae angen eu hystyried mewn cymorthdaliadau yn y dyfodol, ac, o bosibl yn bwysicach, wrth gynllunio marchnata i gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr a’u dymuniad i brynu cynnyrch o’r fath. Mae’r strategaethau ffermio organig dewisol yn cynnwys mwy o elfennau cadarnhaol i fioamrywiaeth na’r system gonfensiynol arferol. Er gwaethaf hyn, gall bron y cyfan o’r strategaethau hyn gael eu defnyddio ar systemau organig neu gonfensiynol i hwyluso eu cael i weithredu ar eu gorau ar gyfer gwell bioamrywiaeth wrth symud ymlaen.  

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr