24 Ionawr 2022

 

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

Negeseuon i’w cofio:

  • Mae’r cyfraddau presennol o newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn creu nifer o heriau i systemau cynhyrchu bwyd.
  • Bydd ecosystemau sy’n dirywio yn fwy agored i ddioddef oherwydd newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.
  • Mae cynyddu gwytnwch ecosystemau yr ydym yn dibynnu arnynt i gynhyrchu bwyd yn hanfodol i sicrhau bod y potensial i gynhyrchu bwyd yn parhau.
  • Dangoswyd bod cynyddu bioamrywiaeth yn darparu gwasanaethau ecosystem yn gysylltiedig â bioamrywiaeth, fel ffrwythlondeb y pridd, peillio, a rheoli plâu yn naturiol, a all wella’r potensial ar gyfer cynhyrchu.

 

O ganlyniad i’r ymdrech i gynyddu cynhyrchu bwyd, trwy ddulliau amaethyddol mwy dwys, mae amaethyddiaeth fodern wedi cael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth tir amaethyddol. Digwyddodd hyn o ganlyniad i nifer o ffactorau sy’n cynnwys colli cynefin a chysylltedd cynefinoedd, a thrwy’r broses o symleiddio’r dirwedd, lle mae systemau caeau sy’n cael eu tra-arglwyddiaethu gan un rhywogaeth wedi cael eu hyrwyddo’n weithredol.

Yn gynyddol mae manteision bywyd gwyllt a bioamrywiaeth cysylltiedig wedi cael eu cydnabod, ac yn y blynyddoedd mwyaf diweddar gweithredwyd strategaethau i wella lefelau bioamrywiaeth tir amaethyddol. Er gwaethaf hynny, mae’r ecosystem amaethyddol, sydd yn hanesyddol yn amrywiol yn fiolegol oherwydd y llu o wahanol fathau o amgylcheddau a chynefinoedd a welir ar fferm draddodiadol, yn dal i fod wedi dirywio.

Mae’r ffaith hwn yn codi problem sy’n gynyddol bwysig o ran bywiogrwydd amgylcheddau tir amaethyddol yn y dyfodol, gan y bydd gan ecosystemau y mae eu bioamrywiaeth yn isel wytnwch posibl lawer is, gan eu gwneud yn fwy agored i effeithiau newid amgylcheddol. O ran ecoleg, bydd amgylcheddau sy’n iach ac yn weithredol yn fwy gwydn, ac felly yn gallu ymdopi â dylanwad newid amgylcheddol yn well.

Mae’r ecosystem amaethyddol yn amrywiol ac mae’n cynnal nifer o wahanol gynefinoedd ac amgylcheddau. Fel cymdeithas rydym yn dibynnu ar yr ecosystem amaethyddol ar gyfer cynhyrchu’r bwyd angenrheidiol. Ond, gall yr arferion cynhyrchu bwyd presennol gael effeithiau niweidiol ar yr ecosystem amaethyddol, gan gyfyngu’r potensial iddi weithredu a thrwy hynny leihau gwytnwch yr ecosystem. Yn y cyd-destun hwn, pan fydd newid amgylcheddol yn y dyfodol yn effeithio ar y swyddogaeth hon sydd gan yr ecosystem, yna gall hyn gael effaith uniongyrchol ar ein potensial i gynhyrchu bwyd, gydag oblygiadau sylweddol o ran amddiffyn cynhyrchu bwyd yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y cyfraddau presennol o newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn creu nifer o heriau i ecosystemau’r Deyrnas Unedig. Ar gyfer y swyddogaethau ecosystem y mae pobl yn ddibynnol arnynt, fel y potensial i gynhyrchu bwyd, mae gweithredu dulliau rheoli sy’n anelu at gynyddu gwytnwch ecosystemau yn debygol o ddod yn amcan hanfodol i sicrhau bod bwyd yn dal i gael ei ddiogelu yn y Deyrnas Unedig.

 

Gweithrediad a gwytnwch ecosystem

Mae gan newid amgylcheddol heddiw ac yn y dyfodol, sy’n cael ei yrru gan weithgareddau anthropogenig, y potensial i gael effaith niweidiol ar iechyd a gweithrediad nifer o ecosystemau daearol a dyfrol. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer systemau amaethyddol, lle mae colli bioamrywiaeth eisoes yn cael ei gydnabod yn broblem. Mae’r effeithiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd yn amrywiol ond maent yn cynnwys ffactorau fel newid ym mhatrymau gwres a glawiad, cynnydd yn amlder digwyddiadau tywydd eithafol, a newid neu gynnydd yn y plâu a phathogenau sy’n digwydd. Disgwylir i’r ffactorau hyn gael dylanwad niweidiol ar y potensial ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol.

Yn gynyddol mae’n cael ei gydnabod ei bod yn bosibl lleihau rhywfaint o’r effaith hwn trwy reoli’r tirweddau a’r ecosystemau, yn yr ecosystem amaethyddol ehangach, mewn ffordd sy’n gadael i’r systemau addasu neu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd. Mae rheolaeth o’r fath yn canolbwyntio ar adfer gweithrediad yr ecosystem naturiol, a hyrwyddo arferion amaethyddol sy’n gweithio gyda nodweddion y system naturiol, yn hytrach na brwydro yn erbyn prosesau naturiol.

Yn bennaf ymhlith y dulliau hyn mae adfer bioamrywiaeth yr ecosystem amaethyddol. Mae sefydlogrwydd neu wytnwch yr ecosystem yn fwy mewn systemau gyda lefelau uwch o fioamrywiaeth, gan fod hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â mwy o amrywiaeth gweithredol, sy’n gadael i gymunedau ymdopi ag effaith amharu ar swyddogaeth yr ecosystem. Mewn cymunedau amrywiol o blanhigion, mae nodweddion unigol a gwahanol yn chwarae rhan fawr wrth reoli gwytnwch y system honno o ran newid amgylcheddol. Mae amrywiaeth gweithredol yn amddiffyn system rhag dirywiad rhywogaeth unigol, gan y gall presenoldeb mwy nag un rhywogaeth gyda nodweddion gweithredol tebyg, wneud iawn am golli rhywogaeth unigol, ac felly osgoi’r golled weithredol gyffredinol.

Gall llawer o amrywiaeth o ran rhywogaethau roi cyfle i rywogaethau sy’n cystadlu ddatblygu dulliau gwahanol a chyfatebol wrth ddefnyddio adnoddau. Er enghraifft, mewn systemau glaswelltir, gall gwahaniaethau yn strwythur y planhigion dan y ddaear a dosbarthiad y gwraidd gael effaith gadarnhaol o ran cynhyrchiant, gan y gall gwahanol strategaethau gwreiddio adael i blanhigion dargedu adnoddau fel dŵr a maetholion o wahanol haenau o’r pridd, ac yn hanfodol, o haenau dyfnach, gan y bydd cynyddu cyfoeth y rhywogaethau glaswelltir yn arwain at gyfran fwy o rywogaethau sydd â thuedd i wreiddio’n ddyfnach.

 Yn ychwanegol, gall mwy o fioamrywiaeth a chyfoeth rhywogaethau mewn un grŵp wella’r cyfoeth o rywogaethau mewn grwpiau cysylltiedig, gyda manteision yn eu tro i’r gymuned o blanhigion. Gwelwyd bod yr amrywiaeth o organebau yn y pridd yn llawer uwch wrth ddilyn graddfa o gynnydd yn y cyfoeth o rywogaethau o blanhigion, sy’n cael ei yrru gan gynnydd yn yr amrywiaeth o fwyd sydd ar gael i gymunedau tanddaearol. Mae perthynas uniongyrchol rhwng cynnydd yn amrywiaeth yr organebau pridd â chynnydd yn iechyd a gweithrediad y pridd, gyda gwell potensial ar gyfer ffactorau fel ffrwythlondeb y pridd. Felly, bydd gwella’r fioamrywiaeth mewn systemau tanddaearol yn gwella’r potensial cyffredinol ar gyfer cynhyrchu a darparu adnoddau.

 

Gwasanaethau ecosystem mewn amaethyddiaeth

Bydd sicrhau iechyd a gweithrediad yr ecosystem trwy hyrwyddo systemau sydd yn wydn iawn hefyd yn cynnal parhad y ddarpariaeth o ystod eang o wasanaethau ecosystem y mae pobl yn ddibynnol arnynt. Gall adfer neu hyrwyddo bioamrywiaeth mewn systemau amaethyddol hefyd leihau’r angen am fewnbwn allanol trwy wella’r modd y darperir gwasanaethau ecosystem, sy’n gallu cael effeithiau buddiol ar y potensial cyffredinol ar gyfer cynhyrchu a thrwy hynny effeithlonrwydd busnes.

Profwyd hyn ar gyfer systemau glaswelltir, lle gwelwyd bod cynyddu bioamrywiaeth yn darparu gwasanaethau ecosystem yn gysylltiedig â bioamrywiaeth, fel ffrwythlondeb y pridd, peillio, a rheoli plâu yn naturiol. Yn unol â hynny, fe wnaeth gwella’r gwasanaethau ecosystem yma wella potensial allbwn y system gyfan. Er enghraifft, dangoswyd bod amrywiaeth y ffwng mycorhisol yn gwella wrth i’r cyfoeth o rywogaethau o blanhigion gynyddu mewn glaswelltir, a dangoswyd bod cynnydd yn amrywiaeth y rhywogaethau o ffwng mycorhisol yn cynyddu cynhyrchiant biomas ar wyneb y ddaear o fwy na 50%. Felly pan fydd yr amrywiaeth o ffwng mycorhisol yn uwch, bydd y potensial cynhyrchu hefyd yn gwella. Mae’r ffenomena hwn yn digwydd am amrywiaeth o resymau, ond un ffactor allweddol yw’r cynnydd yn effeithlonrwydd y defnydd o ffosfforws (P), lle mae cynnydd yn y fioamrywiaeth yn meithrin gwell defnydd o adnoddau P. Mae gan hyn hefyd y fantais ychwanegol o warchod systemau amaethyddol yn y dyfodol rhag y gostyngiad tebygol fydd yn y gwrtaith P fydd ar gael.

Efallai mai’r ffactor pwysicaf i’w gydnabod yw na fydd mabwysiadu dulliau o’r fath yn dod ar draul y potensial i gynhyrchu bwyd, fel sydd wedi cael ei awgrymu yn hanesyddol. Mewn gwirionedd, dangoswyd bod gwella bioamrywiaeth trwy ddulliau fel cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau glaswelltir, yn cynyddu’r cynnyrch biomas cyffredinol. Canlyniad yw’r deilliant yma o weld nifer o ffactorau yn rhyngweithio’n gadarnhaol, gan gynnwys y rhai a grybwyllwyd uchod, ond yn arwyddocaol, mae’n effaith sydd o ddigon o faint i arwain at gynnyrch biomas tebyg rhwng glaswelltir ag amrywiaeth o rywogaethau gydag ychydig o wrtaith, a gwndwn o un rhywogaeth gyda mewnbwn uchel. Awgryma hyn ddull rheoli posibl lle gallai defnyddio nodweddion amrywiol glaswelltir bioamrywiol leihau’r angen am wrtaith, a allai gynnig dull o leihau llygredd amgylcheddol a chostau cynhyrchu bwyd ar yr un pryd, y cyfan yn digwydd wrth gynyddu gwytnwch yr ecosystem a sefydlogrwydd posibl cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

  

Crynodeb

Mae systemau ffermydd a chynhyrchu bwyd yn y dyfodol yn wynebu amrywiaeth o heriau trwy newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, a thrwy’r lleihad angenrheidiol yn effaith amgylcheddol gweithgareddau amaethyddol sy’n cyfrannu at newid yr hinsawdd a’r amgylchedd. Er mwyn cynnal cynhyrchu bwyd mewn amgylchiadau hinsoddol sy’n gynyddol amrywiol, bydd cynyddu gwytnwch yr ecosystem yn hanfodol i sicrhau y gall systemau â digon o amrywiaeth gweithredol ymdopi ag effeithiau ffactorau fel tywydd eithafol, neu blâu a phathogenau.

Un dull allweddol o sicrhau bod ecosystemau’n wydn ac yn gallu parhau’n weithredol yw cynyddu bioamrywiaeth systemau sydd wedi eu symleiddio, neu lle mae strategaethau cnydau unffurf wedi eu hyrwyddo. I Gymru, rhaid i’r prif ddull ganolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau mewn glaswelltir, gan mai dyma’r math mwyaf o amgylchedd amaethyddol. Mae gan hyn y potensial i gynyddu bioamrywiaeth trwy’r genedl yn llawer cyflymach, gan barhau i gynnal cynhyrchiant bwyd.

Bydd y cam hwn yn gwella bioamrywiaeth systemau glaswelltir, a bioamrywiaeth y systemau cysylltiedig, fel y pridd, o ganlyniad. Yn ychwanegol, bydd ymyrraeth reoli hefyd yn gwella’r potensial ar gyfer cynhyrchiant yn fwy cyffredinol, trwy leihau’r angen am fewnbwn fel gwrtaith neu asiantau rheoli plâu, a thrwy wella ffrwythlondeb y pridd a’r potensial i blanhigion dyfu. Felly mae gwella bioamrywiaeth a’r potensial ar gyfer gwytnwch yr ecosystem a darparu gwasanaethau gan yr ecosystem yn strategaeth hanfodol, a fydd hefyd o fudd i ffermwyr trwy wella potensial cynhyrchu ffermydd.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth