16 Awst 2021
Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Gall isadeiledd ac amgylcheddau dan do gael effaith arwyddocaol ar les anifeiliaid ac mae nifer o reoliadau a chanllawiau arfer gorau yn effeithio ar hyn
- Yn aml, prif bryder tybiedig ar gyfer lles dan do yw cyfanswm y lle a ganiateir, ac er bod hyn yn gallu bod yn hanfodol, gall nifer o ffactorau eraill fod yr un mor bwysig
- Mae'n amhosibl darparu paramedrau cyffredinol megis dwysedd stocio sy'n optimaidd ar draws pob fferm, a dylai ffermwyr weithio gydag arbenigwyr er mwyn cynnal asesiadau lles manwl er mwyn manteisio i'r eithaf ar y isadeiledd fesul achos
Lles anifeiliaid
Yn y DU, llywodraethir lles anifeiliaid fferm gan set o reolau a elwir rheoliadau ‘Lles Anifeiliaid a Ffermir’. Mae'r rhain yn nodi gofynion sylfaenol ynghylch lle, sarn, golau, awyru, hylendid, mynediad i fwyd, mynediad i ddŵr ac amgylcheddau dan do. Mae'r agweddau hyn ar isadeiledd fferm yn hanfodol oherwydd ei bod yn hysbys trwy brofiad ffermwyr, yn ogystal â gwaith ymchwil, bod amgylcheddau anifeiliaid fferm yn gallu cael effaith arwyddocaol ar eu lles, gan effeithio ar gynhyrchiant a chynaladwyedd yn eu tro. Gall ffactorau fel tymheredd effeithio ar anifeiliaid trwy gyfrwng straen gwres, straen oerfel neu drwy gynnig amgylcheddau buddiol i fectorau clefyd ffynnu a heintiau ledu. Gall awyru effeithio ar oeri, lleithder a chroniad nwy, ond hefyd, mae'n cyflawni rôl wrth leihau lledaeniad clefydau heintus a drosglwyddir drwy'r awyr a lleihau gronynnau llwch, sy'n gallu effeithio ar iechyd resbiradol anifeiliaid a phobl. Gall cyfforddusrwydd a glendid sarn, ynghyd â'i allu i ddal lleithder effeithio ar byliau gorwedd anifeiliaid a hyd y cyfnod y byddant yn gorwedd. Mae sarn yn effeithio ar dyfiant fectorau clefydau a goroesiad ac achosion clefydau anifeiliaid hefyd megis cloffni. Gall lleoliadau bwydo a dŵr fod yn allweddol o fewn systemau dan do gan fod y rhain yn mynd yn ardaloedd traffig uchel sy'n effeithio ar faeth, hydradu a hylendid, yn ogystal ag ymddygiad cymdeithasol ar gyfer uchafiaeth o fewn strwythurau buches. Ceir ystyriaethau o ran y math o lawr, o safbwynt cyfaddawdu rhwng lles anifeiliaid (cyfforddusrwydd i anifeiliaid a glendid) yn erbyn gwydnwch a'r gallu i bara, sef yr hyn y mae ffermwyr yn ei ddymuno. Awgrymir lle cyffredinol i symud megis lled tramwyfeydd a lle cadw fel elfennau sy'n effeithio ar straen ac ymddygiad anifeiliaid, yn enwedig mewn perthynas â bwydo a chymeriant deunydd sych (DMI). Ceir cyswllt hefyd rhwng amgylcheddau dan do lle y gwelir cyfraddau stocio uchel ac iechyd gwaeth a mwy o risgiau gan glefydau, gydag awgrymiadau bod dwysedd stocio yn bwysicach nag awyru ar gyfer clefydau resbiradol er enghraifft. A dangoswyd bod newidiadau i gylch goleuo yn effeithio ar lefelau'r hormonau sy'n cylchdroi mewn anifeiliaid, sy'n effeithio ar ymatebion imiwnedd. Ceir nifer o ystyriaethau wrth ddylunio neu ôl-osod lle i gadw anifeiliaid dros y tymor byr neu'r tymor hir. Fodd bynnag, mae'n werth nodi hefyd y gall pob elfen effeithio ar les a bod lles ynddo'i hun yn ddibynnol ar nifer o wahanol ffactorau (oedran, brîd, amgylchedd lleol a hierarchaeth cymdeithasol anifail, er enghraifft).
Cynlluniau adeiladu ac ystyriaethau
Gyda phobl, gall fod gwahaniaeth rhwng dyluniadau adeilad effeithiol sy'n darparu “anghenion goroesi” yn hytrach na'r rhai sy'n cynnig anghenion “lles”, y gall y ddau ohonynt effeithio ar iechyd cyffredinol. Yn yr un modd, gall anghenion goroesi sylfaenol i anifeiliaid sicrhau lefel iechyd sylfaenol, ond gall mynd y tu hwnt i hyn a chanolbwyntio ar les gynnig manteision arwyddocaol. At hynny, mae gan ddyluniad isadeiledd rolau arwyddocaol yn gyffredinol ym myd amaeth o ran newid hinsawdd (inswleiddio adeilad, awyru, ffynonellau ynni adnewyddadwy, arbed ynni, rheoli gwastraff), iechyd a diogelwch gweithwyr fferm ac economeg. Gall datblygu adeiladau ac amgylcheddau er mwyn gwella lles arwain at lefelau cynhyrchiant uwch ac ansawdd gwell yn aml. Mae asesiadau lles yn offerynnau allweddol y dylai ffermwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddylunio unrhyw isadeiledd i fod yn addas i'r diben. Mae'r offerynnau gwerthuso hyn yn ystyried pedair prif egwyddor, fel y gellir gweld wrth ystyried dofednod isod.
Addaswyd o Brotocol asesu ar gyfer dofednod Ansawdd Lles gyda maen prawf lles 8 heb ei gynnwys
Lle
Awgrymodd dadansoddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar o 76 o ffermydd llaeth gan ddefnyddio offerynnau asesu ansawdd lles addasiadau i ddyluniadau ciwbiclau ar gyfer gwartheg llaeth yn unol â meintiau gwartheg unigol (gweler y diagram ciwbicl isod) tuag at wella lles sy'n gysylltiedig gyda phroblemau croen, cloffni a hylendid cyffredinol.
Mewn systemau parlwr traddodiadol a systemau godro awtomatig (AMS) sy'n gysylltiedig gyda stalau rhydd dan do, aseswyd dwysedd stocio. Yn aml, canfuwyd bod gorstocio yn lleihau'r lle sydd ar gael i orwedd, gan leihau cnoi cil, cynyddu natur ymosodol a lleihau perfformiad unigol, gan gynyddu afiechyd a risgiau iechyd. Felly, dylai ffermwyr geisio sicrhau bod 100% o anifeiliaid yn gallu manteisio ar fwyd a mannau gorwedd ar unrhyw adeg o fewn system. Mae arwyddion eraill ar gyfer gwartheg llaeth yn cysylltu uchder rheilen gwddf optimaidd wrth wella hylendid ac felly, lleihau nifer yr achosion o glefydau a welir. Yn ogystal, er mai cynnig mynediad i dir pori ar gyfer gwartheg yw'r dyluniad delfrydol, pan na fydd modd hwyluso hyn, mae'n bwysig cynnig mynediad i safleoedd awyr agored eraill oherwydd gall y rhain fod yn gadarnhaol ar gyfer ymddygiad gwartheg. Mewn moch, mae'r lle a ddarparir er mwyn perchylla a magu wedi dangos effeithiau gwahanol. Mae astudiaethau'n awgrymu lles uwch gan berchyll sy'n cael eu geni trwy gadw hychod mewn grwpiau gyda thorraid o'i gymharu gyda defnyddio cratiau perchylla a llociau perchylla rhydd unigol. Fodd bynnag, ar ôl perchylla, nid oedd systemau magu confensiynol (yr oeddent yn darparu bron i hanner y lle a ddarparir mewn llociau diddyfnu-i-besgi) yn darparu fawr ddim neu unrhyw fanteision, gan awgrymu bod ystyriaethau ynghylch lle yn amrywio mewn cylchoedd bywyd magu anifeiliaid. Yn yr un modd, gyda mamogiaid, mae lwfans is o ran lle wedi bod yn gysylltiedig gyda chynnyrch llaeth is, cymeriant bwyd is ac felly, cynhyrchiant is. Er y canfuwyd bod gostyngiadau mewn ymddygiad ymosodol ac felly cynnydd mewn amseroedd gorwedd wedi cael eu canfod gyda lwfansau lle o 1.5 m2 ar gyfer mamogiaid beichiog, ni welwyd fawr iawn o fanteision o gynyddu'r lle yn fwy na hyn. Mae dylunio ardaloedd lle y gall defaid a gedwir dan do gael mynediad rhydd i lociau y tu allan wedi dangos manteision lluosog o ran iechyd a lles. Er bod lle wedi cael ei drafod yn sylweddol yn y diwydiant dofednod, bu'n anodd sicrhau cytundeb ynghylch effeithiau. Gall ffactorau anifeiliaid unigol effeithio ar y lle y mae ei angen ac mae adolygiad cynhwysfawr a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi awgrymu na ddylai'r ffocws fod ar isafswm y lle fesul anifail a ddynodir gan godau ymarfer neu le fesul pwysau'r anifail, ond yn hytrach, y dylai ganolbwyntio ar anghenion lle er mwyn i'r anifail gyflawni pob gweithgarwch neu ymddygiad.
Sarn
Roedd sarn gwellt gwartheg llaeth yn fwy budr mewn systemau lwfans lle is ac roedd lefelau lactos llaeth yn uwch, gan ddynodi mwy o botensial o ddioddef mastitis. Pan ddefnyddir gwellt fel sarn, mae ardaloedd mwy fesul buwch a glanhau gwellt yn rheolaidd a isadeiledd er mwyn ei gadw'n sych yn ystyriaethau hanfodol. Mae dadansoddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar o ddangosyddion lles mewn systemau buarth gwellt ar gyfer gwartheg wedi awgrymu bod rheolaeth gywir ac arferion gorau yn llawer pwysicach er mwyn gwella lles o'i gymharu gyda'r sarn penodol a ddefnyddir. At hynny, awgrymodd arbrofion rhyddid i ddewis bod gwartheg wedi dewis mwy o le yn hytrach na sarn ffafraethol. O'r herwydd, prif bryder ffermwr ddylai fod y lle a ddarparir yn hytrach na'r deunydd y gorweddir arno. Mae hyn yn awgrymu y dylai ffermwyr ganolbwyntio ar economeg a chynaladwyedd dewis sarn gan optimeiddio eu systemau cyfredol trwy ddefnyddio asesiadau ansawdd lles er mwyn amlygu pwyntiau gwan. Mae sarn, o'i gymharu gyda dim sarn, mewn rhywogaethau lluosog gan gynnwys moch ac ŵyn wedi cael ei gysylltu gyda gwella ymddygiad cadarnhaol ac mae'n gallu synergeiddio gyda ffactorau eraill megis mwy o le fesul anifail. Er y cyflawnwyd cymariaethau sarn ar gyfer defaid, nid yw'n ymddangos bod fawr ddim o wahaniaethau cynhyrchiant neu ansawdd yn digwydd os caiff hyn ei reoli mewn ffordd gywir, er bod astudiaeth wedi dangos tystiolaeth bod sarn gwellt a seliwlos (sgil-gynnyrch y diwydiant papur) wedi lleihau'r ymatebion straen o'i gymharu gyda blawd llif a phlisg reis. Wrth ystyried dofednod (a ffowls tir yn gyffredinol), canfu meta-adolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar mai'r sarn a ffefrir yw tywod a mwsogl mawn, a oedd yn darparu amgylchedd wedi'i gyfoethogi. At hynny, nodwyd bod dyfnder sarn ac ansawdd amsugnedd rhwng deunyddiau yn y sector dofednod yn cyflawni rolau wrth reoli lleithder a lefelau dermatitis pad troed. O'r herwydd, dylid cynnal dyfnder sarn arwyddocaol (>7.6cm mewn astudiaeth mwsogl mawn yn erbyn naddion pren) yn ogystal ag ystyried math y sarn er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng effeithiau lleithder ar iechyd anifeiliaid law yn llaw ag effeithiau economaidd ac amgylcheddol.
Golau
Ar gyfer gwartheg, gall gwahanol gylchoedd goleuo, a ddefnyddir ar wahanol adegau yn ystod y cylch atgenhedlu, gynyddu cyfanswm cyffredinol y llaeth a gynhyrchir a'r diwrnodau mewn llaeth, ond hefyd, gall y cylchoedd hyn gael rhai effeithiau cadarnhaol ar iechyd a lles. Ymhlith gwartheg yn ystod y cyfnod cyn lloia, yn ogystal â lloi, gallai ffotogyfnodau diwrnod byr (6 – 8 awr o lwcs 120-200) wella swyddogaeth imiwnedd a hyd yn oed lleihau hyd cyfnodau sych (lle y gall mwy o fastitis ddigwydd), gan gynnig budd i iechyd. Dylai ffermwyr ystyried bleinds tywyllu ynghyd â systemau rheoli goleuadau sydd ar gael yn fasnachol er mwyn rheoli ffotogyfnodau gwartheg dan do a newid amseroedd pori yn yr awyr agored trwy gydol y flwyddyn, gan ddibynnu ar lefelau golau yn ogystal â'r tir pori sydd ar gael. Yn gyffredinol, mae'n hysbys bod yn well gan wartheg symud o ardaloedd lle y mae'r golau yn isel i ardaloedd lle y ceir llawer o olau. O'r herwydd, dylai isadeiledd gynnwys golau digonol er mwyn sicrhau bod pob ardal yn cael ei goleuo'n dda oherwydd efallai y bydd gwartheg yn osgoi corneli tywyll, gan leihau'r lle sydd ar gael i chi i bob pwrpas. At hynny, efallai y bydd ffermwyr yn dymuno ystyried lliw golau oherwydd yr awgrymwyd bod golau melyn yn hytrach na golau gwyn a glas yn gwella cymeriant bwyd, amser cnoi cil, cymeriant dŵr a chyfraddau magu pwysau, yn enwedig ymhlith lloi. Ymhlith ieir bwyta, mae astudiaethau'n dangos cyswllt rhwng goleuadau dwysedd uchel iawn a niwed i'r llygaid a newidiadau o ran bwydo, cynhyrchiant ac ymddygiad ymosodol. Yn gyffredinol, dylid ystyried goleuadau lwcs is gan fod ieir bwyta yn ffafrio llociau sy'n cynnwys teclynnau bwydo neu ddŵr 20 lwcs o'i gymharu â 5 lwcs, gan arwain at lefelau bwyta uwch. Mae hyn yn awgrymu y gallai darparu mwy o olau mewn ardaloedd o gwmpas teclynnau bwydo annog cymeriant bwyd a byddai darparu golau is mewn ardaloedd eraill yn caniatáu ymddygiad gorffwyso naturiol, gan leihau rhyngweithiadau ymosodol er mwyn sicrhau lles cyffredinol gwell. Ymhlith defaid, mae'n hysbys bod ffotogyfnod yn cyflawni rolau o ran cymeriant bwyd (gyda golau isel <10 lwcs yn lleihau cymeriant) ac atgynhyrchu. Ymhlith defaid, ni chynhaliwyd fawr iawn o astudiaethau ynghylch golau a lles, ac mae'n debygol bod hyn o ganlyniad i'r ffaith y cedwir defaid mewn systemau allan yn yr awyr agored trwy gydol y flwyddyn ar y cyfan, lle y mae'n amhosibl rheoli'r golau. Er hyn, mae papurau wedi dynodi lefelau golau rhwng 10 a 500 lwcs fel yr amrediad lle y mae'r optimwm ar gyfer defaid yn bodoli a bod golau gwyrdd yn gallu gwella bwydo a lleihau amseroedd gorffwys ymhlith ŵyn.
Awyru a thymheredd
Gwelwyd bod tymheredd, lleithder a'r math o lawr yn rhyngweithio mewn astudiaethau moch a ganfu bod anifeiliaid yn fwy tebygol o ysgarthu ar a baeddu lloriau solet wrth i'r tymheredd godi a hyd yn oed ar dymheredd is lle'r oedd y lleithder yn cynyddu. Yn ogystal, mae moch yn newid eu hymddygiad gorwedd ar loriau slatiog gan fod yr ardaloedd hyn yn gallu bod tua 3 - 4 °C yn oerach nac ardaloedd lle y gwelir llawr solet. Dangoswyd bod lle a thymheredd yn cael effeithiau allweddol ar ddatblygiad ŵyn lle'r oedd amgylcheddau dros nos (crymdoeau/siediau dros nos wedi'u hinswleiddio) yn darparu amgylcheddau lle y mae'r tymheredd yn uwch, gan ganiatáu iddynt fagu mwy o bwysau ac yfed mwy o laeth, a allai ostwng nifer gyffredinol y marwolaethau ymhlith ŵyn. Er bod isafsymiau o ran awyru a gofod awyr fesul dafad mewn astudiaethau wedi cael eu hasesu'n dda er mwyn gwella iechyd a lleihau risgiau microbaidd, mewn astudiaeth gan 'Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop' a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Yr Eidal, dangosodd cynhyrchiant llaeth, gwlân a chig defaid ar draws amrediad o systemau bod straen gwres yn bryder craidd yn gyson. Mae hyn yn awgrymu y dylai ffermwyr fonitro eu hamgylcheddau dan do yn ofalus a'u hoptimeiddio tuag at y tymheredd optimaidd ar gyfer defaid, gan roi blaenoriaeth i hyn dros ffactorau lles eraill. Mewn systemau gwartheg, gall systemau ffaniau a “chwistrelli” gynnig budd er mwyn oeri anifeiliaid ac oeri dargludol yw'r dewis mwy economaidd a chynaliadwy mwy newydd. Ar hyn o bryd, nid yw gwres yn gymaint o broblem yn y DU, fodd bynnag, mae ymchwil yn dynodi y gallai cymaint ag 20 diwrnod y flwyddyn lle y mae'r tymheredd yn ddigon uchel i achosi straen gwres cymedrol, ddod yn arferol yn y dyfodol, gan olygu bod hon yn ystyriaeth sy'n cynyddu o ran ei phwysigrwydd. Pryder mwy yn y DU yw effeithiau awyru gwael ar amodau ffafriol ar gyfer pathogenau, gan beryglu imiwnedd anifeiliaid, a chan arwain at nwyon gwenwynig yn cronni a chan achosi drafftiau sy'n effeithio ar dymheredd mewn adeiladau. Mae'r rhan fwyaf o systemau awyru yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf ac maent yn ychwanegu costau rhedeg. O'r herwydd, gall fod yn hanfodol i ffermwyr ystyried eu strwythurau cyffredinol, eu llif aer a'u hinswleiddio yn ofalus cyn gwneud buddsoddiad pellach. Gellir cyflawni rhywfaint o awyru mecanyddol syml ar ffurf llif trwy fewndyllau a gollyngfeydd yn dilyn asesiad gyda thechnegau clirio mwg yn hawdd. Mewn systemau dofednod, pryder mawr ar gyfer effaith GHG a lles yw gwresogi adeiladau dofednod. Mewn systemau dofednod a'r holl anifeiliaid eraill lle y mae gofyn cael gwres, rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng lles anifeiliaid ac arbed ynni ar gyfer y sector, felly cynghorir ffermwyr i ystyried dulliau cynhyrchu gwres ac ynni amgen (gweler yr erthygl flaenorol) yn ogystal â rhinweddau inswleiddio adeiladau a sarn, gan wella'r rhain yn ôl yr angen.
Hylendid
Mae astudiaethau gwartheg llaeth yn cysylltu hylendid gydag ymddygiad buddiol gorwedd, lle y mae gwartheg yn gorwedd am gyfnodau hwy mewn amgylcheddau cyffyrddus a glanach a gwelwyd llai o achosion cloffni lle'r oedd glendid da a hylendid sarn yn cael ei gynnal. Gall gweithgarwch sgorio hylendid coesau rheolaidd a gweithgarwch sgorio hylendid gwartheg a gyflawnir gan ffermwyr fod yn offeryn allweddol er mwyn lleihau cloffni a hefyd, er mwyn gwella iechyd tethi. Mae lloia yn gyfnod lle y gwelir risg allweddol i iechyd, felly mae cael isadeiledd sy'n cynnwys safleoedd lloia lluosog er mwyn caniatáu glanhau rhwng lloi, gan leihau risg haint, yn gallu bod yn fuddiol. Wrth fagu defaid, mae'r cyfnod wyna yn gyfnod lle y gwelir risg a niferoedd uchel o farwolaethau ac achosion salwch sy'n achosi colledion cynhyrchu a phryderon ynghylch lles ar draws y diwydiant. Mae hylendid llociau magu yn ffactor, yn ogystal â hylendid offer bwydo colostrwm os defnyddir colostrwm artiffisial neu gyfunol. Mae hwn yn bryder ymhlith gwartheg hefyd oherwydd y canfu gweithgarwch samplu 56 o ffermydd llaeth yn y DU bod bwcedi casglu colostrwm ac offer bwydo yn bwyntiau risg bacterol a nodwyd yr angen i ffermwyr ddilyn camau glanhau mwy trylwyr mewn protocolau casglu colostrwm. Mae sicrhau strwythurau pwrpasol i anifeiliaid er mwyn darparu parthau cwarantin ar gyfer unrhyw anifeiliaid y gallent fod yn heintus neu anifeiliaid newydd a brynwyd oddi ar y fferm, neu le digonol yn eich prif strwythur i gadw anifeiliaid ar wahân, yn ystyriaeth hanfodol wrth ddylunio isadeiledd, o ran hylendid a bioddiogelwch.
Mynediad i Fwyd a Dŵr
Gall darparu lle optimaidd mewn cafnau bwyd gwartheg leihau ymddygiad bwydo negyddol a gwella cymeriant bwyd a gweithgarwch cnoi cil oherwydd ei bod yn hysbys bod lefelau lle isel yn niweidiol, yn enwedig ar gyfer gwartheg sydd ar lefel gymdeithasol is. Gall cystadleuaeth yn ystod amser bwydo gael ei ddylanwadu gan y rhwystrau bwydo a ddefnyddir oherwydd y gallai'r rhai sy'n helpu i wahanu gwartheg cyfagos leihau ymddygiad negyddol. Pan fo hynny'n berthnasol, mae darparu rhwystrau clo pen i anifeiliaid pan fyddant yn bwydo yn cynnig ymdeimlad o ddiogelwch, ond mae'n bwysig ystyried pennu eu maint mewn ffordd addas ar gyfer y lle yn y cafn, gan ddibynnu ar y brîd a ddefnyddir a chan ystyried ffactorau ynghylch uchder rheiliau bwydo megis y rhai a nodwyd yn gynharach yn yr erthygl. Mae'n hysbys bod yn well gan wartheg yfed o gafnau mwy o faint ac mae hylendid yn ffactor allweddol lle y caiff y rhain eu baeddu gan ddom gan achosi perygl heintio. Dylai ffermwyr ystyried amserlenni glanhau rheolaidd a mynediad digonol i gafnau a lle er mwyn osgoi cystadleuaeth ac osgoi baeddu. Ymhlith geifr, roedd y gwerthusiad o uchder y bwyd a gyflenwir mewn cafnau (lefel y llawr yn erbyn lefel y pen) yn dynodi, er bod uchder bwydo uwch yn gwella cymeriant, efallai ei fod yn cael goblygiadau negyddol ar ymddygiad trwy gynyddu digwyddiadau dadleoli. Mae'n ymddangos na chynhaliwyd astudiaethau digonol o ystyriaethau bwyd a dŵr ymhlith defaid, gan fod adolygiad cynhwysfawr o les adeiladau defaid wedi methu sôn am ystyriaethau bwyd neu ddŵr yn llwyr. Er, mae un astudiaeth wedi awgrymu y dylai ffermwyr ddefnyddio cafnau dŵr glas a melyn yn hytrach na rhai du, gan lanhau'r rhain yn rheolaidd (bob 1 – 4 diwrnod) er mwyn gwella cymeriant dŵr ymhlith defaid. Ymhlith moch, mae sefyllfaoedd bwydo yn cael goblygiadau ar gyfer lles mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae astudiaethau wedi canfod, pan leolir mannau bwydo mewn man ar wahân i brif fannau byw, bydd anifeiliaid yn treulio mwy o amser wrth orsafoedd bwydo, yn enwedig os gwelir dwysedd stocio uwch yn eu prif safle. Fodd bynnag, mae hyn yn gwneud y rhain yn safle lle y gwelir cystadleuaeth er mwyn cael mynediad, ac fe allai hyn arwain at ymddygiad ymosodol (cnoi fylfâu ac ati). Gall darparu lleoedd cadw a bwydo unigol leddfu hyn, gan wella cymeriant bwyd. Ymhlith dofednod, mae rhai wedi nodi bod dŵr mewn adeiladau masnachol a gyflenwir trwy dethi dŵr yn sefyllfa hynod o annaturiol, fodd bynnag, gall ffynonellau dŵr agored ychwanegu lleithder a gwlybaniaeth i sarn, yn ogystal â pheri risg haint. Mae rheoli sarn gwlyb mewn sguboriau dofednod yn ystyriaeth allweddol gyda chymeriant dŵr uwch yn cael ei nodi ymhlith adar sy'n teimlo dan straen, felly dylai ffermwyr geisio lleihau straen gymaint ag y bo modd ym mhob ardal arall er mwyn rheoli cymeriant dŵr ac optimeiddio amodau tyfu.
Adeilad a deunyddiau
Ar draws yr holl isadeiledd amaethyddol, rhaid defnyddio deunyddiau y gellir eu glanhau a'u diheintio yn hawdd er mwyn gwella hylendid a lleihau risgiau clefydau. Mae astudiaethau lluosog o wartheg wedi dangos bod lloriau slatiog gyda matiau rwber o'u cymharu gyda lloriau concrid yn gwella cyfforddusrwydd, ymsymudiad ac iechyd coesau a chrafangau. Er, mae'n ymddangos bod darparu gwrthrychau cyfoethogi megis brwshys, cadwyni plastig a thethi rwber yn lleihau ymddygiad negyddol ymhlith lloi a gwartheg ac yn gallu cynyddu amser cnoi cil pan fydd gofyn i anifeiliaid gael eu cadw ar eu pen eu hunain. Yn ogystal, mae matiau rwber wedi dangos manteision o ran cyfforddusrwydd a lles atgenhedlu wrth fagu hychod. Gallai darparu eitemau cyfoethogi leihau ymddygiad cymdeithasol negyddol ymhlith hychod, yn enwedig pan fydd dwysedd stocio mawr heb elfennau cyfoethogi sarn. Mae geifr mewn systemau dan do dwys yn ffafrio lloriau solet yn hytrach na rhai slatiog, gan ffafrio ardaloedd o wellt a rwber er mwyn gorwedd. Mae gwaith dadansoddi a gynhaliwyd yn ddiweddar ymhlith dofednod wedi ystyried lloriau rhydyllog neu rhannol rydyllog fel arwyneb magu yn hytrach na sarn traddodiadol fel naddion pren, a cheir arwyddion y gallai'r rhain gynnig budd i gyfraddau cynhyrchu, lleihau risg anafiadau a chynnig budd i ansawdd yr aer o bosibl trwy leihau carbon deuocsid ac amonia. Yn yr un modd, dangosodd llawr slatiog fanteision ar gyfer ansawdd yr aer, halogi microbaidd ac imiwnedd ymhlith ieir bwyta, o'u cymharu gyda systemau gwellt dwfn traddodiadol. Mae hyn, law yn llaw gyda phroblemau gwlybaniaeth a ddisgrifiwyd uchod, yn awgrymu y dylai systemau dofednod geisio symud i ffwrdd o systemau lloriau sy'n seiliedig ar sarn am resymau iechyd anifeiliaid ac iechyd amgylcheddol.
Yn olaf, mae gan weithredu arloesol gyda deunyddiau adeiladu traddodiadol y potensial nid yn unig i leihau costau dylunio adeiladau amaethyddol ond hefyd, i gael eu cyfuno gyda manteision ychwanegol. Mae enghreifftiau yn cynnwys defnyddio blociau concrid diatomit ysgafn sy'n lleihau costau wrth wella perfformiad cadw gwres i mewn o'u cymharu gyda dewisiadau traddodiadol cyfatebol. Gall hyn leihau anghenion gwresogi a chynnig tymheredd cyffyrddus ar gyfer anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau. Gallai casglwyr nawsio di-wydr (UTCs), sy'n troi pelydrau'r haul yn aer cynnes, godi'r tymheredd mewn systemau dan do gan ddefnyddio mewnbynnau ynni minimol gan ffaniau er mwyn cylchredeg yr ynni a gesglir. Am ragor o wybodaeth am agweddau ar isadeiledd amaethyddol sy'n arbed ynni ac sy'n ystyriol o'r amgylchedd, megis adlewyrchiad solar a defnyddio gweithgarwch cyfnewid gwres, trowch at yr erthygl flaenorol hon.
Crynodeb
Mae lles anifeiliaid yn agwedd hanfodol ar gynhyrchu anifeiliaid. Cynhaliwyd astudiaethau ac adolygiadau lluosog dros y blynyddoedd, gan gymharu systemau adeiladau rhywogaethau penodol gyda'i gilydd mewn ffordd uniongyrchol yn aml. Gyda gwybodaeth gynyddol am arferion gorau ar gael, mae'n bwysig bod cynhyrchwyr ar draws y byd yn cael eu hysbysu o'r rhain, fel y gallant addasu a gwella systemau rheoli. Mewn astudiaeth o 27,000+ o ddinasyddion Ewropeaidd o 28 gwlad a gynhaliwyd yn 2016, roedd 94% o'r ymatebwyr yn barnu bod diogelu lles anifeiliaid fferm yn “weddol bwysig” neu'n “bwysig iawn”. Mae hyn yn awgrymu bod defnyddwyr yn gwerthfawrogi lefelau lles uchel ac fe allai awgrymu hyd yn oed y gallai labeli bwyd sy'n gysylltiedig â lles gyfiawnhau prisiau gwerthu cysylltiedig uwch, yn debyg i rai organig. Gallai strategaethau ac offerynnau o'r fath wella lles ar ffermydd, gan helpu i hwyluso strategaeth “llai ond gwell”, a allai fod yn un dewis cynaliadwy ar gyfer dyfodol ffermio.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk