12 Awst 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae heintiau parasitiaid llyngyr yr iau yn achosi baich economaidd sylweddol ar amaethyddiaeth yn fyd-eang a chânt hefyd effaith negyddol ar iechyd a lles anifeiliaid.
  • Byddai cael dealltwriaeth o ble a phryd y mae llyngyr yr iau a’r malwod sy’n organebau lletyol cyfryngol iddynt yn bresennol ar ffermydd ac mewn caeau unigol yn gallu helpu i dargedu’r dull o’u rheoli 
  • Fe allai nifer o strategaethau rheoli gael eu helpu drwy fapio’n gywir, gwella’r effeithlonrwydd a lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r rhain ar ffermydd

 

Llyngyr yr iau

Mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil, gall nifer o bryderon iechyd gael effaith sylweddol ar les da byw ac effeithlonrwydd cynhyrchu. Mae un maes penodol sy’n peri pryder yn cynnwys yr effeithiau ar iechyd a lles anifeiliaid sy’n gysylltiedig â heintiau parasitig. Tra bod un erthygl wedi trafod yn ddiweddar effeithiau nematodau gastroberfeddol (GINs), grŵp arall o barasitiaid sy’n gyfarwydd i ffermwyr fydd llyngyr yr iau (sy’n rhan o’r dosbarthiad trematodau). Y ddwy rywogaeth a drafodir fwyaf, lle bo amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig yn y cwestiwn, yw llyngyr yr iau (Fasciola hepatica) a llyngyr y rwmen (Calicophoron daubneyi), sydd, fel yr eglura’r enwau, yn targedu’r iau a’r rwmen, yn y drefn honno. Mae’r ddwy rywogaeth yn dilyn cylch bywyd tebyg sy’n golygu eu bod yn trosglwyddo drwy anifail ‘cyfryngol’ cyn heintio’r da byw ei hun. Awgrymwyd y gallai effeithiau llyngyr yr iau yn niwydiant gwartheg y Deyrnas Unedig fod mor uchel â £23 miliwn bob blwyddyn, tra nodir bod colledion gyda defaid yn oddeutu £3 - £5 am bob dafad sy'n cael ei heintio ac fe allai’r colledion da byw yn fyd-eang fod yn €2.5 biliwn. At hynny, ceir tystiolaeth gynyddol bod ymwrtheddau yn datblygu i driniaethau anthelmintig ac fe allai hynny arwain at fwy o golledion, a chostau trin a rheoli uwch. Mae’r parasitiaid hyn yn amlwg yn faich economaidd, ond maent hefyd yn niweidiol i les anifeiliaid ac oherwydd colledion cynhyrchiant, maent yn cael effaith anuniongyrchol ar gynaliadwyedd amgylcheddol systemau cynhyrchu cig coch a llaeth yn fyd-eang. Mae hwn yn fater pwysig wrth i’r sector geisio symud at dargedau cynaliadwyedd ac allyriadau sero net.  

 

Yn y Deyrnas Unedig yr anifail cyfryngol y mae llyngyr yr iau yn dibynnu arno yw malwen sy’n byw mewn llaid o’r enw Galba truncatula. Mae’r rhain yn rhywogaethau malwod bychan iawn sy’n anodd eu gweld â’r llygad yn eu cynefinoedd ffafriol o gyrff bychan o ddŵr (≥1m2) fel ffosydd (naturiol neu hyd yn oed ôl teiars tractor) a mannau llaith eraill lle ceir dŵr agored a llystyfiant dyfrol.  Byddai gwybod bod gan ardal o fferm bresenoldeb actif o falwod Galba yn gallu bod yn offeryn gwych i ddeall y llwybrau trosglwyddo parasitiaid posibl. O’r herwydd, mae strategaethau i ganfod cynefinoedd tebygol, presenoldeb malwod a dwysedd y malwod yn un llwybr ymchwil. Mae maint y malwod a maint caeau da byw yn gwneud y gwaith o ganfod y malwod â’r llygad yn llafurddwys iawn a bron yn amhosibl, yn enwedig wrth ystyried bod rhywogaethau malwod llaid eraill tebyg yn bodoli ac fe allai’r rheini ddrysu’r canlyniadau. Mae ymchwil blaenorol wedi ceisio defnyddio systemau gwybodaeth ddearyddol (GIS) ac offer synhwyro o bell i ganfod cynefinoedd malwod tebygol drwy ddelweddau lloeren ac fe allai hynny helpu i leihau’r gwaith chwilio. Maes ymchwil addawol arall yw ymchwilio i’r rhywogaethau sy’n bresennol mewn amgylchedd drwy ganfod eu DNA. Mae’r dull DNA amgylcheddol (eDNA) wedi bod yn gwneud gwaith datblygu lle bo malwod Galba, a’r parasitiaid eu hunain, yn y cwestiwn yn IBERS Prifysgol Aberystwyth ac mae wedi arwain at gydweithrediadau blaenorol a chyfredol gyda Cyswllt Ffermio a Phartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru.  

Malwen Galba truncatula llun chwith drwy garedigrwydd PreciseAg

DNA amgylcheddol (eDNA) 

Mae’r term eDNA yn cyfeirio at ddeunydd genetig (asidau niwclëig) sy’n bresennol mewn cronfeydd dŵr yn yr amgylchedd gan gynnwys dŵr, aer, gwaddod, celloedd cyfan, DNA allgellog ac organebau cyflawn. Mae gallu DNA i bara yn y cronfeydd dŵr hyn yn caniatáu inni werthuso pa organebau a allai fod wedi bod yn bresennol a chaiff ei ddefnyddio fwyfwy yn lle arsylwi gweledol a dadansoddiadau trapio a rhyddhau wrth wneud arolygon biolegol. Gan na all DNA prin byth oroesi yn yr amgylchedd am yn hir iawn (oni fodlonir amodau penodol o safbwynt tymheredd a chyswllt UV) mae DNA a gesglir yn gweithredu fel arwydd da o’r rhywogaethau sy’n bresennol mewn ffrâm amser cymharol ddiweddar (gan fod y rhan fwayf o eDNA yn cael ei ddiraddio mewn 10 diwrnod). Drwy gyfuno technegau casglu eDNA o amgylcheddau gyda thechnegau adwaith cadwynol polymeras (PCR) modern, gellir profi presenoldeb organeb benodol (neu grŵp o organebau drwy brofion amlbleth) yn gyflym ac yn feintiol i asesu nifer yr organebau sy’n bresennol. Gwnaed gwaith ymchwil cyfochrog sy’n cadarnhau defnyddio’r offeryn hwn ar gyfer malwod lletyol a’r parasitiaid eu hunain yng Nghymru ac Awstralia, gan ddangos ei bod yn bryder byd-eang. O’r herwydd, gallai hyn fod yn offeryn addawol ar gyfer samplo ardaloedd lle gellid bod malwod/llyngyr yr iau ar ffermydd yn ystod adegau allweddol o’r flwyddyn er mwyn llunio mapiau risg cynefinoedd at y pwrpas ar gyfer ffermydd unigol. Drwy ymchwil pellach i bennu cyfraddau bwrw eDNA malwod a pharasitiaid (yn enwedig mewn gwahanol gyfnodau o gylch oes y parasitiaid) a drwy gysylltu lefelau eDNA gyda lefelau’r organeb i’r dyfodol fe ellid gwella’r broses o fapio risg ymhellach eto.  

 

Mapio risg cynefinoedd

Gallai mapio risg cynefinoedd amlygu ardaloedd sy’n peri pryder fesul cae, fesul fferm hefyd fod yn dasg fuddiol i’w chyflawni. Fel y dywedwyd, ceisiwyd defnyddio delweddau lloeren i wneud hyn mewn ffordd awtomataidd o bell ond mae ffermwyr yn tueddu i feddu ar wybodaeth fanwl am eu caeau y gellir ei defnyddio (mae hynny’n ddefnyddiol iawn i ardaloedd dan orchudd coed lle na fyddai lloerenni yn gallu eu hasesu). Mae systemau sy’n seiliedig ar ymchwil blaenorol o effaith amodau tywydd a hinsawdd ar gyfraddau heintiau parasitiaid wedi caniatáu i systemau risg eang megis rhagolygon parasitiaid NADIS neu GLOWORM-FL (a fwriedir yn benodol ar gyfer nematodau) gael eu cynhyrchu. Gall systemau o’r fath roi adroddiadau i ardaloedd rhanbarthol (a awgrymir bob 40km2) ond mae’n gwbl hysbys y gellir cael ffermydd heintiedig a heb eu heintio wrth ymyl ei gilydd mewn ardal ac mae hynny’n awgrymu bod angen cydraniadau mwy na 40km2. Ni chaiff cydraniad y gwaith mapio sy’n bosibl drwy fethodoleg eDNA i bob pwrpas ond ei gyfyngu gan nifer a lefel y samplau a gymerir ar draws cae neu fferm ond fe allai i bob pwrpas roi cywirdebau i lefel o m2.

Addasiad o Jones et al., (2017) sy’n dangos presenoldeb C. daubneyi ar lefel caeau unigol

Gyda’r methodolegau PCR cyfredol a ddilysir ac a drafodir uchod, mae dal angen casglu samplau a’u hanfon i gael eu prosesu mewn labordai, ac yn realistig, mae’n cymryd oddeutu hanner diwrnod i ddiwrnod i’r canlyniadau fod ar gael. Fodd bynnag, mae lle i ddefnyddio technegau mwyhau DNA sy’n datblygu megis dull Mwyhau isothermol dolen-gyfryngol (LAMP) a fyddai’n golygu y gellid gwneud y profion ar y fferm mewn cyn lleied â 30 munud. Cafodd LAMP ei ddilysu i’w ddefnyddio mewn llaeth ar gyfer canfod pathogenau mastitis a hefyd i ganfod pathogenau dofednod sy’n awgrymu y gallai fod yn egin offeryn diagnosteg i’r dyfodol ar gyfer ffermydd. Heblaw am gyflymder y canlyniadau gyda LAMP un o’i fanteision allweddol fel offeryn diagnostig yw ei allu i gael ei gyplysu’n hawdd â dangosyddion ionau metel neu lifynnau rhwymol DNA i ddarparu newid sy'n weladwy â'r llygad (neu â ffôn clyfar) ac nid oes gofyn cael dim offer drud arbenigol. Gyda mwy o optimeiddio, mae’n bosibl cywreinio’r offeryn hwn i fod yn offeryn diagnostig yn y maes y gallai ffermwyr ei ddefnyddio eu hunain.

 

Strategaethau rheoli

Mae Fasciolosis yn glefyd sy'n cael ei achosi gan lyngyr yr iau ac mae’n cael amryw o effeithiau clinigol ac is-glinigol. Wrth i lyngyr ifanc yr iau symud drwy wal y perfedd, y prif symptomau yw dyspepsia (bola chwyddedig/diffyg traul) ac asgites (hylif yn cronni yn yr abdomen). Wrth i lyngyr yr iau aeddfedu a chyrraedd yr iau mae’r symptomau fel arfer yn ymatebion imiwnedd-lidiol megis gwres, hepatomegaledd, sblenomegali ac anemia.  I ffermwyr defaid, fe welir hyn fel symptomau cronig/is-aciwt fel colli pwysau, colli graen, ansawdd gwlân gwael, edema fentrol (chwydd o dan yr ên), syrthni, neu symptomau acíwt fel pori llai neu farwolaethau sydyn. Mae ar wartheg, ar y llaw arall, angen lefelau haint cronig llawer uwch i wneud iddynt gynhyrchu llai o laeth, bod yn llai ffrwythlon, colli llawer o bwysau, rhoi geni i loi gwantan a chael dolur rhydd cronig. Mae haint C. daubneyi mewn anifeiliaid cnoi cil yn achosi paramffistomosis yr awgrymir ei fod yn achosi morbidrwydd mewn da byw, a symptomau sy’n cynnwys; ysgôth, syrthni, edema isfandiblaidd a dadhydriad yn ystod cyfnodau anaeddfed y parasitiaid.    Er bod effeithiau niweidiol wedi cael eu cofnodi ar gyfer cyfnod anaeddfed aciwt yr haint, nid yw’n glir hyd yma a oes effeithiau negyddol sylweddol i haint cronig is-glinigol, er bod astudiaethau diweddar o enynnau cysylltiedig â’r rwmen, fesiglau allgellog a phroteinau yn awgrymu achosion cynyddol o asidosis o bosibl wrth i faich llyngyr y rwmen gynyddu. Ar sail yr effeithiau hyn mae gwir angen datblygu ac optimeiddio strategaethau rheoli. Dylid hefyd gofyn i filfeddyg ymchwilio i arwyddion o’r clefyd, yn enwedig os yw’n fynych, i sicrhau’r diagnosis a’r driniaeth gywir. Gall trafodaethau â milfeddygol ac arbenigwyr amaethyddol eraill hefyd fod yn allweddol i ddatblygu strategaethau rheoli a sicrhau bod y strategaethau a roddir ar waith yn cael yr effaith orau ochr yn ochr â thriniaethau ar bresgripsiwn.

Yn y Deyrnas Unedig mae COWS (Rheoli Llyngyr yn Gynaliadwy) a SCOPS (Rheoli Parasitiaid yn Gynaliadwy mewn Defaid) yn cynnig cyfoeth o wybodaeth i ffermwyr er mwyn rheoli parasitiaid a delio â datblygiadau ymwrthedd i gyffuriau. Heblaw am gyffuriau, gall strategaethau rheoli poblogaethau llochesi a TST, gynnwys: neilltuo da byw sâl neu a brynir i mewn yn gywir, osgoi pori ar gaeau uchel eu risg (caeau mwdlyd, gwlyb neu gaeau lle bu anifeiliaid y gwyddys eu bod wedi’u heintio yn ddiweddar), system bori gylchdro i dorri cylchoedd bywyd parasitiaid mewn caeau a phori rhywogaethau cymysg.   Dull arall, yn hytrach na thargedu’r parasitiaid eu hunain yw targedu’r malwod cynhaliol cyfryngol fel peirianwaith rheoli. Er bod cemegion molysgladdwyr i’w cael mae’n rhain yn debygol o gael effeithiau niweidiol ar rywogaethau malwod brodorol eraill ochr yn ochr â phryderon cyffredinol am ecosystemau a’r amgylchedd. Fe allai cyfansoddion planhigion naturiol fod yn ddull arall o reoli malwod, ac mae ymchwil i hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Yn symlach, fodd bynnag, gallai lleihau gorgyffyrddiad ffisegol malwod ac anifeiliaid da byw fod yn ddull o leihau’r lefelau trosglwyddo parasitiaid rhwng organebau cynhaliol.  Fe all defnyddio’r offer mapio uchod, ffensio strategol a draenio ardaloedd y gwyddys bod ynddynt boblogaethau actif o naill ai falwod cynhaliol cyfryngol neu’r parasitiaid eu hunain helpu i dargedu cymwysiadau seilwaith a lleihau costau. Er enghraifft, os gwelir bod malwod i’w cael mewn cornel o gae gwlyb, gellir ffensio hwn i ffwrdd yn benodol (neu roi ffens drydan dros dro yno) yn hytrach na pheidio â phori’r cae cyfan. Byddai mapio risg caeau hefyd yn gallu cyd-fynd yn dda â phenderfynu pryd dylid cyfrif wyau ysgarthol anifeiliaid neu eu trin, er enghraifft ar ôl eu pori drwy system gylchdro mewn caeau risg ganolig neu gaeau risg uchel hysbys.

 

Crynodeb

Mae llyngyr yr iau a’r rwmen yn peri risg aruthrol i ffermwyr yn fyd-eang ac ar draws y Deyrnas Unedig o safbwynt colledion economaidd a lles anifeiliaid. Gyda thystiolaeth o batrymau risg heintiau cynyddol a nifer fwy o achosion sydd o bosibl wedi’i gysylltu â newid hinsawdd, mae’n bwysicach fyth fod strategaethau rheoli a diagnosio newydd yn mynd i’r afael â’r rhain. Un datblygiad cymharol newydd yw’r gallu i sgrinio’r amgylchedd gan ddefnyddio eDNA, fe allai hwn fod yn gyfle unigryw i fapio’r risg o heintiau i lawr i lefelau caeau penodol ar ffermydd. Mae’r gwaith cychwynnol yn awgrymu bod llynygyr yr iau, ac yn fwy penodol eu horganebau lletyol cyfryngol, yn darged da o bosibl i’w canfod drwy ddefnyddio eDNA. Fe allai profion sy’n defnyddio eDNA ddarparu dull positif negyddol o adnabod ardaloedd lle ceir risg o falwod/parasitiaid ac fe ellid hyd yn oed i’r dyfodol ei ddefnyddio i ddarparu mesur o lefelau risg o heintiau. Gyda LAMP, sy’n dechnoleg mwyhau DNA, gallai dadansoddiadau cyflym, gweledol a chymharol syml gael eu gwneud ar ffermydd yn hytrach na gorfod prosesu samplau mewn labordai. Drwy fapio risgiau gallai ffermwyr weithredu’n gywir strategaethau gwybodus i leihau’r cysylltiad rhwng da byw a malwod/parasitiaid er mwyn lleihau’r cyfraddau trosglwyddo.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth