17 Mehefin 2021

 

Dr David Cutress & Dr Gwen Rees: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae nematodau gastroberfeddol (GINs) yn gyffredin iawn yn niwydiant gwartheg y Deyrnas Unedig
  • Gall GINs gael effaith ar iechyd a lles gwartheg, cynhyrchiant, ac economeg, yn enwedig ymysg stoc ifanc oherwydd diffyg imiwnedd a’u maint
  • Mae arferion gorau i’w cael i wella/rheoli’r parasitiaid hyn ac maent yn holl bwysig wrth i newid amgylcheddol arwain at achosion parasitiaid mwy mynych a pharhaus yn y Deyrnas Unedig

 

Cyflwyniad

Mae nematodau/llyngyr gastroberfeddol (GINs) yn grŵp o barasitiaid nematoda ffylwm sy’n syrthio i grŵp o organebau y cyfeirir atynt yn gyffredin fel llyngyr, sydd hefyd yn cynnwys llyngyr yr afu/iau. Mae gan y parasitiaid hyn ran i’w chwarae mewn clefydau a heintiau ymysg pobl ac anifeiliaid ac maent i’w cael ar draws pob rhywogaeth dda byw hysbys. Er bod GINs yn gyffredinol yn cael eu hystyried fel mwy o risg mewn systemau ffermio defaid yn y Deyrnas Unedig, oherwydd clefydau mwyfwy difrifol a’r tebygolrwydd cynyddol o farwolaeth, maent hefyd yn bryder mewn gwartheg. Un ffactor sy’n achosi marwolaethau a difrifoldeb cynyddol mewn defaid sydd wedi’u heintio â GIN o’u cymharu â gwartheg yw maint cymharol yr anifeiliaid, sy’n golygu bod gwartheg angen niferoedd mwy o barasitiaid i gael yr un effaith. O’r herwydd, ceir mwy o risg i stoc ifanc sy’n tyfu na gwartheg llawn dwf.  

Dau o’r prif fathau o GIN sydd i’w gweld amlaf mewn gwartheg yw Cooperia ac Ostertagia, ac Ostertagia ostertagi, y llyngyr stumog brown, a Cooperia oncophora, sy’n llyngyr perfeddol, yw’r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn y DU. Mae’r rhain yn rhannu’r un cylch bywyd lle bo da byw yn bwyta’r larfa L3 o’r borfa ac maent yn datblygu yn llyngyr llawn dwf yn y llwybr gastroberfeddol. Y tu mewn, maent yn cystadlu’n uniongyrchol â’r anifail am faethynnau, a/neu fe allant fwydo ar neu ddifrodi’r anifail ei hun drwy ryngweithiau gwaed a meinweoedd. Gall rhai rhywogaethau atal eu datblygiad i aeafu yn wal y stumog neu ar borfa ac mae hyn yn cael effaith ar y risg o ailheintio’r borfa ac adeiladau. Ar hyn o bryd, yn y Deyrnas Unedig awgrymir bod achosion o O. ostertagi yn unig ar draws ffermydd llaeth yn 95% ar sail profion gwrthgyrff o swmp-samplau llaeth, sy’n dangos pa mor sylweddol yw’r rhywogaeth hon yn y sector gwartheg.  

Cylch bywyd llyngyr gastroberfeddol cyffredinol mewn da byw cnoi cil wedi’i addasu o COWS a SCOPS.org

 

 

Pam ddylen ni boeni?

Iechyd, lles a chynhyrchiant

Mae gastroenteritis, y cyflwr sy’n gysylltiedig â haint GINs, yn cael ei gysylltu â symptomau megis sgwrio, colli pwysau a cholli chwant bwyd. Mae symptomau’n ymwneud ag ailgyfeirio maethynnau mewn anifeiliaid, gydag astudiaethau o loi oedd wedi'u heintio â Cooperia yn canfod bod rheolyddion heb eu heintio yn ennill pwysau 7.5% yn gyflymach a bod chwant bwyd lloi heintiedig 0.68 kg yn llai bob dydd. Dywedir bod lloi ifanc yn benodol yn agored iawn i heintiau perfeddol enterig a’u bod yn cymryd amser i ddatblygu ymateb imiwnedd naturiol i GINs. Gall hyn fod yn broblem yn yr ail dymor pori oherwydd bod diffyg her gan barasitiaid ar ôl triniaeth a dim cysylltiad dros y gaeaf yn gallu gwneud stoc ifanc yn fwy agored i gael eu hail-heintio. Ymysg effeithiau eraill baich parasitiaid yn y diwydiant gwartheg y mae cynhyrchiant is o ran llaeth, cig, crwyn ac effaith ar lwyddiant atgynhyrchiol.

Effeithiau economaidd

Gall parasitiaid gael effaith aruthrol ar les ac yn economaidd ar nifer o rywogaethau anifeiliaid sy’n bwysig i amaethyddiaeth. Fe wnaeth dadansoddiad economaidd cyfunol o effaith rhywogaethau parasitiaid amryfal (gan gynnwys nematodau ond hefyd cestodau, protozoa a thrematodau) awgrymu mai’r effaith arferol ar wartheg oedd gostyngiad yn y cynhyrchiant llaeth o 1.16 litr y dydd, 12.95% o organau’n cael eu condemnio yn y lladd-dy a cholledion cynhyrchiant a oedd yn cyfateb i oddeutu 17.94% o gyfanswm colledion y fferm neu oddeutu £36.44 yr anifail y flwyddyn. Ac ystyried bod ffigurau niferoedd gwartheg y DU yn 2020 yn 9.36 miliwn ym mis Rhagfyr (gyda gwartheg dan flwydd yn cyfrif am dros 25% o’r ffigur hwn) mae’n cyfateb i golled flynyddol bosibl o oddeutu £341 miliwn pe byddai parasitiaid yn effeithio ar yr holl wartheg a risg bosibl o £85.25 miliwn i stoc ifanc.

Datblygu ymwrthedd

Er bod yna raniad economaidd/daearyddol ynglŷn ag effaith parasitiaid, mae’r dystiolaeth ddatblygol o ymwrthedd i gyffuriau gwrth-barasitig – yn enwedig ymysg rhywogaethau llyngyr dros y degawd diwethaf – yn awgrymu y bydd gan y byd datblygedig a llai datblygedig broblemau parasitig tebyg o ran diogelu'r cyflenwad bwyd yn fuan. Er hyn, mewn adolygiad diweddar o’r llenyddiaeth, dim ond 18 o’r 40 o bapurau a roddwyd ar restr fer oedd wedi edrych ar ddefnyddio dosys rheoli llyngyr neu ymwrthedd mewn da byw ac o’r rhain, dim ond 3 oedd yn canolbwyntio’n benodol ar wartheg, gyda ffocws llawer mwy ar ddefaid. Nodwyd ymwrthedd i ddim ond lactonau microgylchol yn y DU ar draws amryfal ffermydd, fodd bynnag, mae llenyddiaeth lwyd (sydd heb gael ei hadolygu gan gymheiriaid) yn dangos bod y potensial o ymwrthedd i grwpiau anthelmintig eraill yn y Deyrnas Unedig yn debygol.

Newid Hinsawdd

Gallai newid hinsawdd yn hawdd fod yn ffactor arall sy’n ysgogi effeithiau economaidd ac iechyd negyddol clefydau parasitig. Mae gwaith modelu ar yr hinsawdd yn dangos lledaeniad clefydau parasitig a newidiadau ym mhatrymau clefydau parasitig y Deyrnas Unedig. Mae effeithiau patrymau clefydau yn cael eu cysylltu â newidiadau daearyddol mewn patrymau tywydd gan addasu amgylchedd y parasitiaid a’r lletywyr. Os na chaiff hyn ei fonitro’n ofalus, gallai effeithio ar ba mor effeithiol yw strategaethau trin cyfredol, gan fod gweithgaredd parasitiaid yn amrywio gydol y flwyddyn (ee. GINs yn dod yn fwy actif ddiwedd y gaeaf). Gellir gweld esiampl o hyn mewn adadroddiadau o Ogledd Iwerddon lle gwelwyd, er bod ymchwil blaenorol wedi canfod bod wyau nematodau angen cael eu hoeri (gan efelychu amodau gaeaf) i ddeor, fod 43% yn awr yn gallu deor heb hyn, sy’n ddangos eu bod yn addau i dymhereddau uwch byd-eang. Ceir hefyd dystiolaeth o rywogaethau llyngyr mwy trofannol yn ymledaenu ymhellach i’r gogledd ac i’r de i fanteisio ar fannau yr arferent fod yn annrhigiadwy, ac fe allai hyn olygu bod ffermwyr yn wynebu bygythiadau newydd os bydd y tueddiadau hyn yn parhau.

 

Strategaethau canfod a thrin

Er gwaethaf y pryderon uchod, mae llai o systemau ffermio gwartheg o’u cymharu â ffermydd defaid yn defnyddio cyngor gan ddarparwyr anthelmintigau a’r arfer rheoli paratisiaid gorau. Er bod gwartheg llawn dwf yn gallu ymddangos fel nad yw’r baich parasitiaid yn effeithio arnynt, mae’n hysbys bod effeithiau is-glinigol yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd a chynhyrchiant. O’r herwydd, cynghorir ffermwyr gwartheg i ystyried strategaethau canfod a thrin GIN yn fwy difrifol.

Y prif offeryn diagnostig ar draws GINs yw cyfri’r wyau mewn carthion (FEC), sy’n gymharol rhad a hawdd ei wneud. Mae FECs yn fwy defnyddiol yn gyson mewn defaid a cheffylau, fodd bynnag, mae datblygiadau technolegol yn mynd rhagddynt i ddileu rhai elfennau o oddrychedd er mwyn cael mwy o gywirdeb mewn gwartheg. Er bod FEC yn cynnig offeryn i ganfod haint yn gyffredinol yn ogystal â chanfod y rhywogaethau dan sylw er mwyn rhoi triniaeth fwy penodol, gall fod yn llafurddwys casglu carthion o anifeiliaid unigol felly defnyddir profion cyffredinol ar lefel y fuches. At hynny, nid yw niferoedd wyau bob amser yn adlewyrchu’n gywir lefel yr haint, gellid bod oedi yn yr amser rhwng bwrw wyau actif ac arwyddion clinigol ac fe all maint tail gwartheg o’u gymharu â defaid leihau cywirdeb FEC. Dewis arall ar gyfer canfod heintiau yw offerynnau molecylaidd megis ELISAs (Profion Imiwnoamsugno cysylltiedig ag Ensymau) drwy samplau carthion, gwaed, poer neu laeth ond mae’r rhain yn tueddu i fod yn ddrutach ac yn fwy sensitif i wallau llygru wrth gasglu samplau. Prif fanteision ELISAs, fodd bynnag, yw y gallant ganfod parasitiaid nad ydynt ar y pryd yn cynhyrchu wyau gyda’r potensial i ganfod yn gynharach neu yn ystod cyfnodau gaeafu, ac maent hefyd yn gallu canfod lefelau heintiau yn yr anifail.

Oherwydd y gost economaidd a’r potensial i ddatblygu ymwrthedd sy’n cael ei gysylltu â swmp-driniaethau ar gyfer nematodau gastroberfeddol yn ogystal â pharasitiaid yr iau, gwelwyd diddordeb cynyddol mewn cynnal strategaethau rheoli sy’n defnyddio triniaethau wedi'u targedu yn seiliedig ar ganlyniadau diagnosteg yr anifeiliaid unigol. Un posibilrwydd gor-syml ar gyfer monitro anifeiliaid unigol yw drwy fonitro pwysau anifeiliaid yn fanwl. Gan ei bod hi’n awr yn haws nag erioed pwyso’n ddigidol a storio pwysau anifeiliaid drwy dagiau EID , gallai’r dull hwn fod â’r potensial o wella dulliau monitro a thrin ar ffermydd. Mae astudiaethau a edrychent yn benodol ar bwysau anifeiliaid o’u cymharu â heintiau paratisitiad wedi awgrymu cywirdeb o hyd at 76% wrth drin anifeiliaid heintus drwy gyfrwng eu ffigurau pesgi dyddiol cyfartalog ar ddiwedd y tymor. At hynny, gellir canfod diffygion maeth a chlefydau drwy bwyso anifeiliaid yn fwy rheolaidd, gan ei wneud yn opsiwn cyfannol da i ffermwyr ar gyfer monitro iechyd.

Ymysg yr offer eraill sydd â’r potensial i wella diagnosis o GIN y mae synwyryddion monitro ymddygiad sy’n monitro symudiad anifeiliaid ar goleri a thagiau sydd bellach ddim mor ddrud ac yn fwy ymarferol ar ffermydd. Mae’r gwaith yn parhau, ac mae hynny’n awgrymu bod newidiadau mewn lefelau gweithgaredd dydd a nos ymysg gwartheg ifanc i'w weld yn cyd-fynd yn dda â lefel eu haint, ac fe allai hynny ddarparu nodweddion ychwanegol i system sydd eisoes yn gallu monitro iechyd, lefelau gofyn tarw, cloffni a lloia er enghraifft.

Offer sy’n cael eu datblygu

Un offeryn molecylaidd sydd fwyfwy o ddiddordeb ar gyfer gwneud diagnosis a chanfod risgiau amgylcheddol posibl yw DNA amgylcheddol. Mae DNA amgylcheddol (eDNA) i’w gael mewn cronfeydd yn yr amgylchedd gan gynnwys dŵr, aer a gwaddodion a drwy gipio’r DNA hwn, fe ellir ei ddefnyddio i ganfod presenoldeb rhywogaethau o barasitiaid er mwyn defnyddio triniaeth fwy targededig. Mae hon yn un elfen sy’n cael ei harchwilio ar hyn o bryd ym mhrosiect EIP Cyswllt Ffermio ar fapio parasitiad llyngyr yr iau a gaiff ei drafod mewn erthygl i’r dyfodol. Er bod hwn yn ddull i lunio diagnosis/canfod mwy cymhleth na FECs, mae ymchwil i’w gael ar ei gyfuno â thechnoleg a elwir yn fwyhau isothermol dolen-gyfryngol (LAMP) a allai ganiatáu inni wneud y profion yn y maes gan fod y canlyniadau’n gydnaws ag allbwn newid lliw syml mewn 30 – 60 munud. Er bod technegau mwyhau isothermol DNA yn gallu cael eu defnyddio ac yn cael eu defnyddio eisoes i ganfod heintiau (gyda rhai yn gallu diagnosio rhwng rhywogaethau parasitiaid amryfal mewn un prawf) mae llawer iawn o offer a gwaith paratoi mewn labordai yn ofynnol gyda’r rhain ar hyn o bryd ac maent yn fwy ymarferol i systemau dwys iawn neu broblemau hirhoedlog sy’n anodd eu canfod.

 

Mae’n glir nad oes yr un offeryn diagnostig ar ei ben ei hun yn cynnig popeth sy’n ofynnol ar gyfer triniaethau targededig cwbl gywir, mae cyfaddawd i’w gael rhwng costau, argaeledd, cywirdeb a’r wybodaeth a ddarperir. Un sefyllfa well fyddai defnyddio offer diagnostig syml, ehangach megis FECs ochr yn ochr â data mwy penodol ar anifeiliaid unigol megis pwyso’n rheolaidd neu synwyryddion ymddygiad a defnyddio’r data cyfunol hwn i wneud penderfyniadau gwybodus.

Triniaethau

Dylai defnyddio anthelmintigau i drin GINs mewn gwartheg bob amser fod yn rhan o gynllun rheoli. Gan fod y sefyllfa ym mhob fferm yn unigryw, dylid wastad gwneud cynlluniau rheoli parasitiaid ar y cyd â milfeddyg y fferm oherwydd fe all roi cyngor ar yr opsiynau gorau. Pan fo triniaeth anthelmintig yn ofynnol fel rhan o gynllun rheoli parasitiaid, mae tri phrif ddosbarth o anthelmintigau i’w cael i drin parasitiaid mewnol mewn gwartheg yn y Deyrnas Unedig. Sef bensimidasolau (BZ - Gwyn), lactonau macrogylchol (ML - Clir) a Lefamisolau (LV - Melyn). Mae gan bob dosbarth benodolrwydd grŵp parasitiaid gwahanol, a lefelau gwahanol o ymwrthedd yn fyd-eang.  Mae triniaethau’n amrywio o bigiadau, triniaethau tywallt, bolysau a dosys, gyda threfniadau trin tymorol, amserol yn gyffredin i gyd-fynd â mynychder amrywiol y rhywogaethau parasitiaid.  Mae canllawiau ar yr arferion gorau wrth drin yr anifeiliaid, gan gynnwys pwyso’r anifail yn gywir er mwyn rhoi’r dogn cywir a chalibradu’r gynau dosio’n rheolaidd i sicrhau dogn cyson, i’w gweld ar wefannau’r AHDB, SCOPS a COWS. Er hyn, mae’n gyffredin gweld triniaethau'n cael eu defnyddio'n amhriodol. Mae’n hysbys bod defnyddio anthelmintigau yn amhriodol yn annog datblygiad ymwrthedd. Ymysg y problemau y mae defnyddio’r driniaeth anghywir (ee. Ivermectin ar gyfer llyngyr yr iau), rhoi gormod neu ddim digon i beidio â phwyso’r anifeiliaid yn gywir yn ogystal â dibynnu’n ormodol ar ddefnyddio anthelmintigau ‘rhag ofn’ yn hytrach na chreu cynlluniau rheoli tymorol, wedi’u targedu. Ymysg datblygiadau diweddar sydd â’r nod o wella dulliau dosio y mae systemau sy’n gallu ysgafnu ychydig ar y llafur wrth ddosio ar sail pwysau drwy gyplysu cloriannau digidol â gynau dosio digidol sydd â’r potensial o fod yn offeryn allweddol ar gyfer dulliau cyfrifol ac effeithiol o reoli parasitiaid ar ffermydd.

Clorian ddigidol a gwn addasu dognau digidol – Cymerwyd y ddelwedd oddi ar tepari.com

Potensial dulliau rheoli cynaliadwy

Mae ymwrthedd i anthelmintigau yn bryder cynyddol ymysg yr holl rywogaethau da byw ac o’r herwydd mae’n rhan allweddol o Gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a hefyd yn ystyriaeth fyd-eang allweddol. Ymysg y methodolegau a ddefnyddir i asesu ymwrthedd mewn parasitiaid y mae profion lleihau nifer y wyau mewn carthion (FECRT), profion datblygiad larfau (LDT), profion deor wyau ac adroddiadau gan ffermwyr. Mae gwella ymwybyddiaeth o her ymwrthedd i driniaethau rheoli llyngyr, a meithrin gwybodaeth am yr opsiynau monitro ymysg ffermwyr yn allweddol i hybu dull mwy cynaliadwy o reoli parasitiaid.

Mae defnyddio anthelmintigau yn un rhan o amrywiol fesurau y gellir eu cymryd i reoli beichiau parasitiaid mewn da byw. Heblaw am driniaethau cyffuriau cemegol, mae rheoli parasitiaid yn gynaliadwy mewn da byw yn gofyn am strategaethau rheoli a thrin eraill. Gallai hyn leihau’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â llygredd posibl drwy fod cemegion yn cael eu rhyddhau, yn ogystal â lleihau’r colledion mewn cynhyrchiant sy’n gysylltiedig â pharasitiaid sy’n arwain at lai o nwyon tŷ gwydr am bob kg or cynnyrch. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ystyriaethau rheoli pori, yn enwedig o amgylch strategaethau pori cylchdro lle gellir pori caeau ffres i osgoi risgiau heintiau yn ystod tymhorau datblygu GIN allweddol a gall caeau segur atal larfau rhag cael lletywyr.
  • Sicrhau’r dwysedd stocio gorau, gan fod astudiaethau o stoc ifanc wedi canfod perthynas lle bo dwyseddau stocio uwch yn cael eu cysylltu â llygredd cynyddol mewn porfeydd.
  • Gwelwyd bod cyd-bori rhywogaethau cymysg yn chwarae rôl i leihau’r beichiau cyffredinol ar y borfa ac i ddadlygru caeau.
  • Rhoi stoc newydd mewn cwarantin digonol ar ôl dosio neu ddadansoddi’r FEC.
  • Gellid bod potensial i ddulliau mecanyddol o godi tail ar borfeydd a reolir gyda llai o lafur pe byddai technolegau awtomataidd yn cael eu datblygu i hwyluso hyn.
  • Gwelwyd bod rhywfaint o botensial i fwydo tannin cyddwysedig a chynnwys planhigion meddyginiaethol eraill a borir ac mae ymchwil pellach yn mynd rhagddo.
  • Dulliau rheoli parasitiaid integredig (IPM) drwy reolaethau biolegol megis chwilod y dom neu annog ffwng sy'n dal nematodau drwy ychwanegu sborau i borthiant, gan leihau gallu’r cyfnod larfau i fyw mewn tail.
  • Mae geneteg yn faes arall lle dylid ystyried rheoli parasitiaid yn fwy cynaliadwy (er bod gan yr ymchwil ei hun ôl-troed carbon cysylltiedig). Drwy dargedu genynnau allweddol ac ardaloedd allweddol mewn genynnau, wedi’u haddasu drwy dechnegau golygu genynnau neu fridio detholus, gellid gwella ymwrthedd anifeiliaid i barasitiaid. Dywedwyd bod rhai genynnau’n chwarae rôl a allai wella cynhyrchiant ac atgenhedliad anifeiliaid ar yr un pryd.
  • Mae parasitiaid mewn noddfa yn gysyniad rheoli allweddol sy’n golygu cyflwyno organebau nad oes ganddynt ymwrthedd neu gynnal rhai poblogaethau nad oes ganddynt ymwrthedd er mwyn osgoi creu dim ond boblogaethau o barasitiaid sydd ag ymwrthedd.
  •  
  • Mae gronynnau weiars copr ocsid, a ddefnyddiwyd i ddechrau fel atchwanegiad oherwydd diffyg copr, hefyd yn cael effaith ar barasitiaid, yn enwedig Haemonchus contortus, y llyngyr polyn barbwr.
  • Dulliau gwell o reoli a monitro iechyd yn gyffredinol gan fod imiwnedd anifeiliaid iachach yn ymateb yn well ac mae llai o GINs yn goroesi.

 

 

Crynodeb

Mae GINs yn broblem aruthrol yn y sector amaethyddiaeth ac maent yn cael effaith aruthrol ar gynhyrchiant ac arian. Er bod ffermwyr gwartheg yn tueddu i deimlo llai o effeithiau, dylid ystyried effeithiau is-glinigol, yn ogystal â stoc ifanc bregus, yn ofalus.  Mae ymwybyddiaeth a gwneud diagnosis o barasitiaid mewn buches yn allweddol i ddechrau mynd i’r afael â’r problemau y gall y rhain eu hachosi i iechyd a chynhyrchiant. O’r herwydd, fe ddylai defnyddio technegau symlach fel FECs fel mater o drefn, fel sy’n cael ei wneud a’i ddilysu’n benodol mewn gwartheg ifanc gan brosiect EIP Cyswllt Ffermio ochr yn ochr â Techion, helpu i wneud triniaethau’n fwy effeithlon. Mae’n bosibl hefyd gyfuno technegau diagnostig i gael darlun cliriach fyth o’r baich parasitiaid ar draws ffermydd ac mewn anifeiliaid unigol. Er bo cyffuriau anthelmintig o fudd pan gânt eu defnyddio’n gywir a phan gânt eu targedu, mae nifer o ddulliau rheoli llyngyr eraill mwy cynaliadwy hefyd ar gael a gallent yn hawdd fod yn fanteisiol iawn i ffermwyr mewn sawl ffordd os cânt eu hintegreiddio i systemau rheoli.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth