Gwella diagnosis a thriniaeth llyngyr main gastroberfeddol mewn gwartheg

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys tri ffermwr llaeth yng Ngheredigion a sylwodd fod baich llyngyr main yn eu stoc ifanc yn effeithio ar gyfraddau twf a pherfformiad. Codwyd pryderon ynghylch effeithiolrwydd y triniaethau llyngyr oedd yn cael eu defnyddio ac a oedd rhai rhywogaethau o barasitiaid yn datblygu ymwrthedd i driniaethau. Drwy'r prosiect EIP Cymru hwn, roedd y tri ffermwr yn gallu gweithio'n agos gydag arbenigwyr i fabwysiadu agwedd wedi’i thargedu’n fwy penodol tuag at eu rhaglenni rheoli llyngyr main.

Mae defnyddio samplau cyfrif wyau ysgarthol yn llawer llai cyffredin mewn systemau gwartheg o’i gymharu â defaid, ac mae’n hanfodol er mwyn rheoli’r broblem yn effeithiol.  Nod y prosiect hwn oedd asesu sut y gall defnyddio cyfuniad o brofion cyfrif wyau ysgarthol, drwy ddefnyddio technoleg FECPAKG2, profion ymwrthedd, profion rhywogaethau, a modelau rhagfynegol wella rheoli llyngyr main mewn stoc ifanc ar ffermydd llaeth.

 

Canlyniadau'r Prosiect:

  • Roedd monitro rheolaidd o gyfrif wyau ysgarthol a chyfraddau twf yn galluogi targedu triniaethau llyngyr yn well ar bob fferm sy'n golygu bod triniaethau llyngyr yn cael eu rhoi pan oedd eu hangen yn hytrach na thrin ar drefn reolaidd.
  • Cafodd nifer y triniaethau llyngyr ar gyfer Gwartheg R2 (porwyr 2il dymor / blwyddi) eu lleihau'n sylweddol ar bob fferm.
  • Fe wnaeth un o'r tri ffermwr hefyd leihau triniaethau o wartheg R1 (porwyr tymor 1af/ lloi), a gwelwyd newidiadau i amseru triniaethau ar y ddwy fferm arall.
  • Canfuwyd methiannau triniaeth ar sawl achlysur pan ddefnyddiwyd y driniaeth llyngyr Grŵp 3ML (clir). Roedd y ddau Grŵp 1BZ (benzimidazole / Gwyn) a 2LV (levamisole / Melyn) yn gwbl effeithiol. 
  • Roedd canlyniadau profion effeithiolrwydd yn golygu bod pob ffermwr wedi newid o ddibynnu'n llwyr ar driniaethau llyngyr 3ML i newid rhwng y tri dosbarth llyngyr.  
  • Ni wnaeth y newidiadau i'r strategaeth driniaeth arwain at effaith negyddol ar berfformiad (twf a chyflwr)
  • Mae newid ymddygiad ffermwr yn heriol - ond mae'r prosiect hwn wedi dangos, gyda'r gefnogaeth gywir, fod modd sicrhau newidiadau sylweddol

Mae'r prosiect hwn wedi dangos y gallwn ddefnyddio cyfrif wyau ysgarthol yn ddibynadwy, ochr yn ochr â data cyfradd twf a chyflwr y llo, fel modd o fonitro haint yn ystod y tymor pori a dim ond trin pan fo'r anifeiliaid ei angen mewn gwirionedd yn hytrach na dosio yn ôl dyddiad wedi’i nodi ar y calendr.