17 Rhagfyr 2020

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn bryder sylweddol ym maes iechyd pobl a maes iechyd anifeiliaid
  • Mae rhoi’r gorau i ddefnyddio triniaethau gwrthficrobaidd cyffredinol yn dylanwadu’n gadarnhaol ar AMR, ond mae angen rhoi mwy o sylw i weithredu arferion gorau ar ffermydd
  • Mae technolegau manwl gywir a strategaethau’d dyfodol i leihau AMR yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ond mae’n debyg y bydd eu heffaith yn llai nag effaith gwella hylendid, bioddiogelwch a dulliau rheoli clefydau ffermydd yn gyffredinol

 

Sefyllfa bresennol Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Mae ymwrtheddau gwrthficrobaidd yn bryder cynyddol yn y sector iechyd dynol. Amcangyfrifwyd y bydd AMR yn y DU yn destun pryder allweddol yn y DU o fewn y 30 mlynedd nesaf, ac fe wnaeth arolwg yn 2015 awgrymu y gallai anawsterau AMR arwain at 10 miliwn o bobl yn marw ac achosi colledion gwerth £76.5 triliwn o ran cynnyrch a gollir. Fe wnaeth meta-ddadansoddiad byd-eang awgrymu fod gosod cyfyngiadau ar y defnydd o wrthfiotigau wedi arwain at ostyngiad o 15% yn yr achosion o AMR a gostyngiad o 23-32% ym mynychder bacteria sy’n gwrthsefyll nifer o gyffuriau ymhlith anifeiliaid. Fodd bynnag, mae strategaethau megis defnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd fel deunydd hybu tyfiant (rhywbeth sydd wedi’i wahardd i raddau helaeth ledled y byd) wedi effeithio’n amlwg ar y defnydd o foddion proffylactig i wneud iawn am golledion a welir ym maes cynnyrch anifeiliaid. Fel y cyfryw, mae rheoliadau Ewropeaidd wedi mynd ati i gyfyngu ymhellach ar y defnydd proffylactig o wrthfiotigau mewn da byw o 2022 ymlaen. Fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ddwyn sylw at effaith penodol amaethyddiaeth a da byw ar AMR pan wnaethant lansio canllawiau penodol ynghylch y defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd sy’n bwysig o safbwynt meddygol ar draws y diwydiant cynhyrchu bwyd tua diwedd 2017. Y rhesymeg oedd y gallai triniaethau cyffredinol, defnydd anghywir o foddion, defnydd o foddion i hybu tyfiant a gorddefnydd eang o foddion i drin da byw weithredu fel cronfa i alluogi i ficrobau ddatblygu ymwrthedd, ac yn y pen draw, gallai’r ymwrtheddau hyn gael eu trosglwyddo’n ôl i ficrobau sy’n achosi clefydau sy’n effeithio ar bobl.  Gall y mecanweithiau sy’n caniatáu datblygu AMR ar draws bacteria, ffyngau, parasitiaid a firysau fod yn gymhleth, ond mae elfennau’r egwyddor a ddangosir isod, yn achos gwrthfiotigau, yn wir yn gyffredinol yn achos unrhyw ficrobau. Fodd bynnag, heb os, nid dyma’r unig ddull sy’n arwain at achosi ymwrtheddau. 

 

Mae’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd o bwys critigol i’w defnyddio gan bobl yn destun pryder, oherwydd mae moch, er enghraifft, yn rhannu llawer o filheintiau â phobl. Fel y cyfryw, gall AMR mewn perthynas â throsglwyddo heintiau rhwng rhywogaethau fod yn risg difrifol. Er gwaethaf hyn, hyd yn hyn, mae’r dystiolaeth benodol ynghylch trosglwyddo heintiau rhwng pobl a da byw yn gyfyngedig; mae llawer yn credu ei fod yn rhywbeth cyffredin ond heb ei ymchwilio’n ddigonol ar hyn o bryd. Caiff rhai o’r dulliau posibl o drosglwyddo AMR eu cyfleu mewn modd syml isod, a gallant ddigwydd rhwng yr amgylchedd, pobl, da byw a llawer o ffactorau eraill i sawl cyfeiriad.

 

Mae’r erthygl hon yn ceisio ymdrin â rhai o ffactorau AMR yn achos systemau pori neu systemau pori rhannol, fel sy’n bodoli yn y sectorau bîff, buchod godro a defaid. Mae clefydau sy’n gysylltiedig â microbau sydd o bwys economaidd sylweddol yn achos gwartheg yn cynnwys; ysgothi, dolur rhydd firysol buchol (BVD), niwmonia, colledion cyflwr sy’n gysylltiedig pharasitiaid a chloffni. Yn achos buchesi buchod sugno, mae triniaethau milfeddygol yn cyfrif am 20-21% o’u costau blynyddol yn y DU ar gyfartaledd, a bydd cyfran sylweddol o’r costau hyn yn gysylltiedig â thriniaethau gwrthficrobaidd. Yn ychwanegol, mae astudiaethau penodol wedi dangos effaith defnydd cynnar o wrthfiotigau i drin lloi buchesi sugno, a gwelwyd fod 20.4% o loi  yn gorfod cael triniaethau yn ystod y 30 diwrnod cyntaf. Yn achos defaid, mae anawsterau clefydau microbaidd yn cynnwys; cloffni, colledion cyflwr sy’n gysylltiedig â pharasitiaid, niwmonia, clefyd cegleithedd a chlwy’r cymalau. Mae rheoli maetholion yn briodol, yn enwedig yn ystod cyfnod beichiogrwydd ac ar adeg derbyn colostrwm, hefyd yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn lleihau nifer y triniaethau o gyffuriau gwrthficrobaidd sy’n ofynnol. Yng Nghymru ar hyn o bryd, ceir fframwaith iechyd a lles anifeiliaid (AHWF) sy’n cynnwys grŵp gweithredu a chyflawni ynghylch AMR sy’n ceisio defnyddio dull ‘un iechyd’ i frwydro AMR trwy gysylltu anifeiliaid, yr amgylchedd a’r sector gofal iechyd. Ynghyd â hyn, mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi dangos parhad eu hymrwymiad i ddull ‘un iechyd’ o frwydro AMR trwy eu cynlluniau gweithredu pum mlynedd, sef Mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd’ (cynllun cenedlaethol y DU) ac “Ymwerthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd” (Cymru), ar gyfer y cyfnod o 2019 i 2024.

Y prif strategaethau y maent yn eu nodi ar lefelau amaethyddol yw arferion rheoli ffermydd da, bioddiogelwch, arferion hylendid da a strategaethau brechu priodol. Mae cynlluniau eisoes yn mynd rhagddynt yng Nghymru sy’n defnyddio’r strategaethau allweddol hyn ac maent yn annog trosglwyddo gwybodaeth yn well trwy gyfrwng ‘Arwain Vet Cymru’, prosiect a ariennir gan y cynllun datblygu gwledig.

 

Arferion gorau a bioddiogelwch

Wrth ystyried AMR ymhlith da byw, un ystyriaeth bwysig yw hybu iechyd anifeiliaid (oherwydd fe wnaiff hynny leihau’r angen posibl am driniaethau gwrthficrobaidd) a strategaethau i wella hylendid (i atal cynnydd mewn microbau a’u trosglwyddo). Mae cynlluniau megis ‘Rheoli Parasitiaid yn Gynaliadwy’ (SCOPS) a ‘Rheoli Llyngyr yn Gynaliadwy’ (COWS) yn arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd anifeiliaid a lleihau triniaethau gwrthficrobaidd yn achos grŵp penodol o ficrobau. Yn yr un modd, mae gan ‘Defnydd Cyfrifol o Foddion mewn Amaethyddiaeth’ (RUMA) dasglu sy’n ceisio unigoni a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau i drin da byw. Yn ychwanegol, mae cynlluniau eraill, megis y ‘Rhaglen traed iach’ sy’n cael ei rhedeg gan AHDB, yn ceisio gwella iechyd a hylendid trwy leihau mynychder clefydau penodol y gwyddys eu bod yn arwain at driniaethau gwrthficrobaidd. Mae strategaethau sy’n rhan o gynlluniau gwarant ffermydd (megis y rhai sy’n ofynnol yn achos ardystio organig, cynllun gwarant fferm da byw Cymru (‘FAWL’) a chynllun sicrhau ansawdd Red  Tractor ayyb) yn gallu cyfrannu at leihau AMR trwy gyfrwng eu gofyniad i gynnal adolygiadau rheolaidd o’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd ar ffermydd trwy law milfeddygon. Fe wnaeth DEFRA ymrwymo i dargedau ynghylch y defnydd o wrthfiotigau, mewn da byw i gynhyrchu bwyd, i’w gostwng i 50mg/kg erbyn 2018, a chyflawnwyd hynny cyn terfynau amser y targedau yn 2016. Yn ôl yr adroddiad diweddaraf ynghylch ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd milfeddygol a gwerthiant y cyffuriau hynny (VARSS) yn y DU, roedd y defnydd o wrthfiotigau wedi gostwng i 29.5 mg/kg, bron iawn ddwywaith yn fwy na’r ffigurau a ddymunid yn wreiddiol. Fodd bynnag, er bod holl feysydd cynhyrchu da byw wedi dangos lleihad yn y defnydd o wrthfiotigau o 2015 i’r presennol, yn yr adroddiad olaf yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2017 a 2018, gwelwyd cynnydd yn y defnydd o wrthfiotigau yn y sectorau dofednod a llaeth yn ystod y flwyddyn benodol honno.

Mae strategaethau arferion gorau a all arddangos buddion o ran gwella iechyd anifeiliaid, ac felly, lleihau’r defnydd o driniaethau gwrthficrobaidd, yn cynnwys dulliau o arsylwi megis siartiau sgôr resbiradol clinigol, sgorio cyflwr corfforol (BCS), pwyso anifeiliaid a sgorio llenwad rwmen. Er bod y rhain a dulliau eraill o arsylwi yn cael eu cynnal yn barod ar y cyfan, bydd sicrhau y gwneir hynny’n rheolaidd fel rhan o strategaeth rheoli yn cynorthwyo i wneud diagnosis cynharach o glefydau, i leihau’r angen am ymyriadau gwrthficrobaidd.

 

Ceir arferion gorau eraill i’w hystyried yn ymwneud â hylendid cyffredinol a bioddiogelwch. Gall clefydau gyrraedd systemau ffermio trwy gyfrwng symudiadau anifeiliaid a phrynu stoc allanol. Mae’r gallu i ynysu ac arwahanu anifeiliaid a brynir (a rhai sydd eisoes ar y fferm) yn rhywbeth a all atal clefydau rhag lledaenu ar lefel y fuches neu’r ddiadell. Yn bryderus iawn, ar waethaf hyn, mae astudiaethau wedi dangos na fydd 10% o ffermwyr yn dilyn y gweithdrefnau arwahanu priodol ar ôl prynu defaid newydd. Mae DEFRA yn nodi arferion gorau ynghylch bioddiogelwch ac maent yn cynnwys strategaethau allanol (ynghylch heintiau sy’n cyrraedd ffermydd) a mewnol (atal heintiau rhag lledaenu o fewn ffermydd). Er y gall fod yn anodd darparu ffigurau ynghylch buddion arferion bioddiogelwch penodol, mae llawer yn ystyried fod y rhain yn ffactor pwysig o ran lleihau nifer yr achosion o heintiau, ac felly, yr angen am driniaethau gwrthficrobaidd. Profwyd fod cynlluniau megis buchesi caeedig yn lleihau risgiau datblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd i E. coli ymhlith buchod godro, er enghraifft. Os cedwir anifeiliaid dan do, bydd hynny’n risg ychwanegol, oherwydd bydd angen ystyried protocolau glanhau a diheintio penodol i ddiddymu’r mannau hynny a all fod yn gronfeydd o ficrobau. Mewn ymchwil a wnaed ynghylch clefyd Johne, dangoswyd fod 97% o ffermwyr yn defnyddio’r un mannau i loea nifer o fuchod, ac ni fyddai 33.7% ohonynt fyth yn glanhau’r mannau hyn rhwng y naill fuwch a’r llall. Mae annog ffermwyr i ofyn am raglenni â chymorth milfeddygon ynghylch iechyd anifeiliaid a chynllunio bioddiogelwch i atal clefydau a darparu addysg wedi’i dargedu a sicrhau ymwybyddiaeth o’r anawsterau wedi amlygu effeithiau cadarnhaol o ran rheoli clefydau penodol mewn sawl achos. 

Yn achos defaid a gwartheg, mae’r colostrwm cyntaf a gaiff anifeiliaid newydd-anedig yn sicrhau y trosglwyddir imiwnedd goddefol rhag clefydau iddynt, a heb hynny, gallai fod yn ofynnol iddynt gael triniaethau gwrthficrobaidd, neu gallai lefelau marwoldeb gynyddu.  Yn ôl yr arfer gorau, yr adeg orau i gael colostrwm yw’r pedair awr gyntaf wedi’r enedigaeth (oherwydd bydd yr ansawdd yn dirywio maes o law) a dylid profi colostrwm gan ddefnyddio refftractomedr i sicrhau ei ansawdd. Yn yr un modd, yn achos mamogiaid cyfoen a buchod cyflo, yn ystod y cyfnod ychydig cyn ac wedi ŵyna a lloea, gall maeth fod yn allweddol i sicrhau y cynhyrchir colostrwm rhagorol. Er mai prin yw’r ymchwil yn achos gwartheg sy’n awgrymu fod unrhyw ddeietau penodol yn rhoi hwb i ansawdd colostrwm (er bod ychwanegion megis asid nicotinig yn addawol), mae maeth digonol yn allweddol. Yn achos defaid, nodir fod unioni lefel y maeth a roddir i famogiaid yn unol â nifer yr epil yn bwysig i sicrhau’r canlyniadau gorau o safbwynt ŵyna ac ansawdd y colostrwm, ac er y bydd llawer o ffermwyr yn sganio mamogiaid yn rheolaidd, ni fyddant yn rhannu’r mamogiaid sy’n cario un oen a’r rhai sy’n cario gefeilliaid yn ddigon effeithiol i sicrhau y cânt y lefelau delfrydol o faetholion yn eu porthiant.

Mae brechu yn strategaeth bwysig i leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd fel mesur ataliol. Yn achos pobl, ysgrifennwyd yn helaeth am rôl brechlynnau o safbwynt lleihau mynychder clefydau ac AMR. Mae brechlynnau yn ddewis pwysig yn lle cyffuriau gwrthficrobaidd yn achos da byw, ac mae tystiolaeth yn awgrymu fod effeithiolrwydd brechlynnau is-uned, DNA ac RNA yn well o gymharu â dulliau traddodiadol o imiwneiddio rhag pathogenau cyfan. Gall brechu buchod a mamogiaid yn ystod wythnosau olaf y cyfnod cyflo neu gyfoen wella crynodiad gwrthgyrff sy’n benodol i antigenau sy’n bresennol mewn colostrwm, gan roi hwb ychwanegol i’r amddiffyniad sydd gan loi ac ŵyn yn erbyn pathogenau penodol, yn cynnwys her parasitiaid.

Yn gyffredinol, maeth ac iechyd anifeiliaid yw’r elfennau allweddol i frwydro clefydau a lleihau’r tebygolrwydd o ddalclefydau. Er enghraifft, bydd anhwylderau megis clwy llaeth buchod godro yn golygu fod anifeiliaid yn fwy tebygol o ddal heintiau mastitis. Gallai rheoli buchod sych yn cynnwys therapi buchod sych dethol yn hytrach na thrin pob buwch sych, a defnyddio triniaethau selio teithi effeithiol, yn cynnwys datblygiadau newydd mewn perthynas â selwyr tethi gwrthficrobaidd sy’n effeithiol yn erbyn microbau penodol, helpu hefyd i leihau nifer yr heintiau a nifer y triniaethau gwrthficrobaidd sy’n deillio o hynny. Ble caiff anifeiliaid sy’n pori eu hamaethu, yn aml iawn, byddant yn dod i gysylltiad uniongyrchol â slyri/tail ar y fferm, a gall hynny fod yn gyfrwng posibl i sicrhau presenoldeb microbau AMR. Gall microbau AMR fod yn bresennol yng ngharthion yr anifail ei hun, ond gall cydadwaith a mwtaniad microbau pan fydd slyri neu dail yn cael eu storio a’u prosesu arwain at ddatblygiad AMR. Er bod yr “Asiantaeth Safonau Bwyd” (FSA) yn awgrymu triniaethau i leihau lefelau pathogenau sy’n bresennol mewn slyri, prin iawn yw’r ymchwil hyd yn hyn ynghylch rôl bosibl effeithiau storio a thrin slyri ar ddatblygiad AMR. Felly, efallai bydd angen ystyriaeth benodol mewn perthynas ag AMR yn achos ymchwil i strategaethau rheoli megis storfeydd slyri caeedig ac agored, pyrolisis a chompostio tail gyda deunyddiau eraill. Yn olaf, mae porthiant anifeiliaid yn bwysig o safbwynt lleihau ychwanegion gwrthfiotig a datblygiad AMR. Yn y gorffennol, ac mewn gwledydd eraill, roedd presenoldeb gwrthfiotigau mewn porthiant yn gysylltiedig â phresenoldeb microbau AMR yn yr amgylchedd, ac fe wnaeth diddymu gwrthfiotigau o borthiant anifeiliaid arwain at leihau lefelau microbau AMR. Gall defnyddio’r dulliau gorau posibl o storio porthiant hefyd atal halogiad gan facteria, a sicrhau gwelliant cyffredinol yn iechyd anifeiliaid sy’n cael porthiant ar y fferm. 

 

Technoleg ac AMR

Mae technolegau ffermio manwl gywir yn caniatáu i iechyd anifeiliaid gael ei arsylwi’n rheolaidd, tuag at system fonitro 24/7. Yn y diwydiant llaeth, fe wnaeth arolwg o 490 o ffermwyr ganfod fod mabwysiadu technolegau, yn gyffredinol, yn arwain at gyflawni gwerthoedd uwch mewn perthynas â chynhyrchu llaeth. Roedd hyn yn gysylltiedig â mwy o effeithlonrwydd, ond yn bwysig iawn, roedd yn gysylltiedig hefyd â’r gallu i fonitro clefydau a thargedu’r anifeiliaid i’w trin er mwyn lleihau colledion mewn perthynas â chynhyrchu llaeth.   Gall monitro lles yn fanwl gywir a thargedu triniaethau helpu i atal triniaethau gwrthficrobaidd diangen, a allai, fel arall, sbarduno datblygiad AMR. Mae technolegau hefyd yn caniatáu i anifeiliaid sy’n cael eu monitro gael eu nodi a’u gwahanu’n rhwyddach i atal clefydau rhag lledaenu, a bydd hynny’n lleihau nifer y triniaethau gwrthficrobaidd ymhellach. Mae technolegau sy’n cynorthwyo i gyflawni hyn yn cynnwys olrheinwyr ymddygiad megis mesuryddion cyflymu, sy’n gallu gwneud cyfraniad sylweddol at wella lles cyffredinol anifeiliaid. Mae’r olrheinwyr ymddygiad eraill sydd ar gael yn cynnwys porthwyr awtomatig, a gall newidiadau mewn unrhyw agwedd o ymddygiadau “arferol” anifeiliaid fod yn arwydd yn aml o gamau cynnar clefydau.   Gall rhybuddion sy’n deillio o’r rhain gael eu defnyddio i wneud newidiadau i reolaeth strategol ffermydd i frwydro ffactorau sy’n achosi clefydau ac anhwylderau. Gall delweddu thermol a monitorau tymheredd ganfod tymereddau'r anifeiliaid eu hunain a thymereddau eu hamgylchedd, dwy elfen sy’n rhyngweithio i effeithio ar reolaeth iechyd a chlefydau anifeiliaid. Ceir ymchwil sy’n defnyddio delweddau thermol i rybuddio ffermwyr am ddatblygiad mastitis a chlefydau allweddol eraill mewn gwartheg a defaid. 

 

Mae awtomeiddio prosesau arsylwi cyflwr anifeiliaid yn cynnig dull arall o ganfod newidiadau sy’n gysylltiedig â chlefydau. Gall systemau megis camerâu 2D a 3D, dysgu peirianyddol, cloriannau awtomataidd a data godro robotaidd rybuddio ffermydd yn gynharach am newidiadau y gellir gweithredu mewn ymateb iddynt i leihau nifer y triniaethau gwrthfiotig gofynnol posibl. Mae offerynnau dadansoddi delweddau wedi cael eu defnyddio i ganfod cloffni yn gynharach mewn gwaith ymchwil. Dyma un o’r clefydau a gysylltir yn fwyaf rheolaidd â thriniaethau gwrthficrobaidd. Profwyd fod pwyso awtomataidd yn cynnig cyfle heb ddefnyddio llawer o lafur i reoli maeth anifeiliaid trwy gyfrwng dull wedi’i dargedu, a gall hefyd fod yn ddull o nodi clefydau, ac mae prosiectau megis STOC+ (HCC) eisoes yn rhoi hyn ar waith ymhlith diadelloedd yng Nghymru. Yn ychwanegol, mae systemau sy’n cysylltu cloriannau awtomataidd â gynnau dosio yn dod yn fwy cyffredin; diben y rhain yw sicrhau na chaiff anifeiliaid ddosys gormodol neu annigonol o gyffuriau gwrthficrobaidd, gan sicrhau fod triniaethau yn fwy effeithiol ac arbed arian ac amser ar yr un pryd. Mae prosiect AfarCloud yn  integreiddio technoleg delweddau yn y ciwbiclau godro robotaidd i gasglu data ychwanegol am anifeiliaid, e.e. sgôr llenwad rwmen neu sgôr cyflwr corfforol, mewn modd gwrthrychol a manwl gywir. Yna, gall buchod sy’n perfformio’n wael gael eu hasesu’n benodol i ganfod presenoldeb clefydau. Mae ciwbiclau godro robotaidd yn cynnig cymorth hanfodol i ffermwyr i asesu statws clefydau gwartheg a gwella cynlluniau triniaethau yn seiliedig ar newidiadau i gyfanswm y llaeth a gynhyrchir a data ynghylch ymweliadau buchod. Gellir defnyddio olrheinwyr estrws at ddibenion arsylwi iechyd cyffredinol anifeiliaid hefyd, oherwydd gall newidiadau annisgwyl yn amgylchiadau’r estrws gael eu defnyddio i ddwyn sylw at ffactorau iechyd megis clefydau yn datblygu’n gynharach.

Mae technoleg isgoch agos (NIR) megis teclynnau llaw NIR4farm yn asesu lefelau maetholion porthiant neu garthion fel y gellir addasu dognau er mwyn sicrhau fod iechyd cyffredinol da byw cystal ag y gall fod, ac mae’n bosibl y gallai hynny effeithio’n anuniongyrchol ar leihau nifer y triniaethau gwrthficrobaidd. Gall technolegau NIR a dargludedd trydan hefyd fonitro cyfanswm cyfrif celloedd bacteraidd mewn llaeth, a gall dulliau canfod o’r fath dargedu buchod godro a ddylai gael triniaethau i atal mastitis a sefydlu strategaethau bioddiogelwch i leihau lledaeniad unrhyw heintiau trwy gyfrwng peiriannau godro.

Mae technolegau i fonitro a rheoli amgylcheddau ble cedwir anifeiliaid dan do yn gwneud defnydd cynyddol o dechnoleg fanwl gywir. Gallai systemau i reoli tymheredd a nwy trwy gyfrwng dulliau rheoli awyriad awtomataidd helpu i ddarparu’r amgylcheddau gorau er lles iechyd anifeiliaid, gan wella straen gwres, rhywbeth y gwyddys ei fod yn gysylltiedig ag achosion o glefydau. Yn ychwanegol, gall awyriad a llif aer fod yn ffactorau allweddol o safbwynt trosglwyddo clefydau sy’n cael eu cludo yn yr aer. Mae systemau bioddiogelwch manwl gywir, megis system Biorisk® cwmni pigChamp, yn olrhain rhyngweithiadau rhwng gweithwyr ffermydd a da byw, i leihau risgiau a gwella dulliau o reoli lledaeniad heintiau. I wneud hyn, bydd staff yn gwisgo teclynnau Bluetooth a gosodir darllenwyr yma ac acw ar fferm, i fonitro symudiadau staff. Gallai systemau o’r fath gael eu haddasu’n rhwydd at ddibenion ffermydd llai, a gallent ddod yn rhan o strategaethau sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol milfeddygol ac ymgynghorwyr amaethyddol i gynnig strategaethau rheoli diogelwch manwl gywir i ffermwyr ar sail patrymau’r data.

 

Effeithiau eraill ar AMR

Mae bridio wedi’i dargedu ac addasiadau genynnol yn cynnig y potensial i ddatblygu bridiau da byw sy’n fwy gwydn. Gwyddys fod gan rhai bridiau o wartheg ymwrtheddau cynhenid, a cheir tystiolaeth benodol o fridiau o ddefaid sydd â gwell ymwrthedd i barasitiaid. Gallai bridio da byw sy’n gallu gwrthsefyll clefydau arwain at ostyngiad dramatig yn y angen am gyffuriau gwrthficrobaidd, ac felly, lleihau’r amgylchedd sy’n caniatáu i AMR ddatblygu. Er bod bridio i sicrhau’r gallu i wrthsefyll clefydau yn cynnig un dull, mae llawer o ymchwil yn dal ar y gweill i ddeall natur gymhleth effeithiau gwrthfiotigau dros gyfnod graddol (ac ar draws rhaglenni bridio) ar ficrobiota anifeiliaid a’u hiechyd a’u perfformiad yn gyffredinol. Gallai datblygu dealltwriaeth well o hyn helpu i wella’r defnydd o driniaethau gwrthficrobaidd yn y dyfodol. Mae golygu genynnau CRISPR-Cas yn cynnig adnodd newydd i sicrhau newidiadau genynnol wedi’u targedu mewn da byw, ond hefyd yn y microbau sy’n fwyaf agored i AMR. Gellir cyflawni hyn trwy atal genynnau ymwrthedd, gan sicrhau fod microbau yn ymateb yn well i driniaeth unwaith eto, neu achosi marwolaeth microbau, gan gynnig triniaeth arall yn lle cyffuriau gwrthficrobaidd. 

Mae bacterioffagau yn firysau sy’n targedu bacteria, a gall y rhain fod yn adnoddau i dargedu bacteria amgylcheddol a bacteria mewn anifeiliaid mewn modd penodol iawn. Er y gallant brofi ymwrthedd naturiol gan y bacteria (yn union fel gwrthfiotigau), os rhoddir hwy fel cymysgedd gymhleth o facterioffagau sy’n targedu elfennau ychydig yn wahanol o’r bacteria oll ar yr un pryd, bydd yn anodd i ymwrtheddau ddatblygu. Mae gwrthfiotigau cyfieuol neu wrthfiotigau ar ffurf nano-ronynnau neu wedi’u mewngapsiwleiddio â nano-ddefnyddiau yn cynnig rhywbeth mwy defnyddiol na’n dewis presennol o wrthfiotigau, ac mae’n bosibl y gallant leihau’r tebygolrwydd o achosi AMR.  Gall gwrthfiotigau gael eu glynu wrth wrthgyrff proteinau a wnaiff eu tywys yng nghorff yr anifeiliaid yn uniongyrchol at y bacteria. Gall hyn leihau nifer y dosys sy’n ofynnol a lleihau rhyngweithiau gwrthfiotigau â’r bacteria digroeso a allai ddatblygu a lledaenu genynnau AMR. Mae nano-ronynnau a mewngapsiwleiddio â nano-ddefnyddiau yn darparu moddion sydd ag arwynebedd arwyneb uwch i wella gweithgarwch y cyffur ac yn amddiffyn moddion yn well rhag cael eu dadelfennu gan fetabolaeth naturiol yr anifail, gan leihau nifer y dosys gofynnol. Mae peptidau gwrthficrobaidd yn addawol o ran eu gallu i frwydro ymwrtheddau i wrthfiotigau oherwydd mae gallu’r bacteria i ddatblygu ymwrthedd i’w weld yn llawer llai yn achos y rhain. Er bod anawsterau mewn perthynas â’r gallu i sicrhau fod y moleciwlau bychan hyn yn sefydlog, mae cyfuno’r defnydd ohonynt â nano-dechnolegau yn cychwyn edrych yn addawol.

Mae rhoi gwrthgyrff trwy’r genau hefyd wedi cael ei archwilio mewn perthynas ag amddiffyn rhywogaethau dyfrol, adarol a mamalaidd rhag clefydau. Yn gyffredinol, cynhyrchir y gwrthgyrff hyn trwy imiwneiddio ieir i gynhyrchu gwrthgyrff yn yr wyau y byddant yn eu dodwy (gwrthgyrff melynwy wyau ieir/IgY), neu trwy gyfrwng synthesis mewn planhigion. Gall porthi’r cymysgeddau gwrthgyrff hyn yn broffylactig trwy’r genau sicrhau ymatebion imiwnedd goddefol mewn da byw, gan eu hamddiffyn rhag bacteria penodol a lleihau’r angen am wrthfiotigau, ac felly, lleihau mynychder AMR. Gall ewfiotigau yn y diwydiant porthiant anifeiliaid fod â rolau fel deunyddiau i’w defnyddio yn lle gwrthfiotigau i hybu tyfiant ac iechyd. Mae ewfiotigau yn cynnwys profiotigau, asidau organig, rhagfiotigau, perlysiau ac olewau naws. Er bod amheuaeth ar hyn o bryd ynghylch eu heffeithiau, mae profiotigau  yn addawol, ac yn bwysig iawn, nid oes anawsterau o ran datblygiad AMR yn gysylltiedig â hwy.

 

Crynodeb

Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn cael ei ystyried yn argyfwng sy’n datblygu ym meysydd systemau iechyd dynol ac amaethyddiaeth, ac yn achos y rhyngweithio sy’n bodoli rhwng y ddwy system, gan arwain at effaith ar yr amgylchedd cyfagos fel cronfa. Er bod cynnydd sylweddol wedi digwydd yn yr ymdrech i frwydro AMR yn y DU ac yn Ewrop, mae nifer o wledydd ar ei hôl hi, ac nid ydynt wedi gweithredu gwaharddiadau ar driniaethau gwrthficrobaidd cyffredinol a’r defnydd ohonynt fel deunyddiau hybu tyfiant. Mae’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd yn amrywio ar draws ffermydd y DU, ac mae rhai yn gwneud defnydd sy’n uwch o lawer na’r hyn a ddylai fod yn ofynnol. Mae’r meysydd pwysig sy’n gysylltiedig â lleihau’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd yn cynnwys cynnal safonau uchel o ran arferion gorau megis hylendid, bioddiogelwch a strategaethau rheoli clefydau ar ffermydd. Mae’n hanfodol i ffermwyr fod yn ymwybodol o’r meysydd hyn a cheisio datblygu cynlluniau rheoli ar y cyd â gweithwyr proffesiynol milfeddygol gwybodus er mwyn cyflawni’r llwyddiant pennaf. Fell arall, gallai technolegau wneud cyfraniad cynyddol at wella rheolaeth ar ffermydd. Gallai’r data a ddarperir gan y technolegau hyn gael eu cynnwys mewn strategaethau gwell i reoli iechyd a lles anifeiliaid, gan leihau mynychder clefydau a sicrhau lleihad yn nifer y triniaethau gwrthficrobaidd, ac felly, llai o achosion o AMR.

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth