16 Mawrth 2022

 

Dr Richard Kipling: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’r potensial ar gyfer ennill incwm drwy fasnachu carbon yn dod yn ffactor o ddiddordeb cynyddol i reolwyr tir
  • Fodd bynnag, gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y potensial ar gyfer atafaelu carbon, a gall asesu potensial tirwedd benodol yn gywir fod yn heriol
  • Mae deall dylanwad y ffactorau hyn yn hanfodol, gan y gallai camau gweithredu anaddas arwain at ganlyniadau llai na delfrydol neu ganlyniadau niweidiol

 

Mae adroddiad diweddar gan y Green Alliance yn awgrymu y gallai atafaelu carbon fod gwerth hyd at £1.7 biliwn y flwyddyn yn y DU. Mae’r awduron yn rhagfynegi y bydd ymdrechion i atafaelu carbon yn debygol o ganolbwyntio ar dir sy’n cael ei ystyried yn ‘llai ffafriol’ ar gyfer ffermio (gan fod yr enillion o ganlyniad i ffermio yn isel) ac ar fawndir cynhyrchiol iawn ar yr iseldir (oherwydd cyfanswm yr allyriadau carbon a bod y potensial i storio carbon mor uchel). Mae prynu tir fferm er mwyn atafaelu carbon eisoes yn bwnc llosg yng Nghymru. A ddylid croesawu cynlluniau o’r fath, fel rhan o’n hymdrechion i reoli cynhesu byd-eang (yn ogystal â chyfle i rai i wneud arian), neu a oes posibl iddynt fod yn niweidiol i’r amgylchedd ac i gymunedau gwledig fel ei gilydd?

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar un agwedd o newid defnydd tir ar gyfer atafaelu carbon – y mathau o gostau carbon sy’n gysylltiedig gydag unrhyw gynllun, ac mae’n rhaid pwyso a mesur y rhain yn erbyn y buddion wrth farnu ei werth carbon net. Nid yw’r effeithiau amgylcheddol na chymdeithasol (negyddol na chadarnhaol) yn cael eu hystyried yma, nac ychwaith y problemau gyda dylunio a llywodraethu cynllun credyd carbon. Dylid ystyried yr holl effeithiau hyn ochr yn ochr â’r materion sy’n cael eu trafod.

 

1. Beth sydd angen ei ystyried yng nghyd-destun credydau carbon?

 

1.1 Credydau gwaredu carbon

Mae’r siart isod yn rhoi trosolwg o’r effeithiau carbon sydd angen eu cyfrif wrth gyfrifo gwerth carbon net unrhyw gynllun, i roi ei effaith wirioneddol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. O ran lleihau cynhesu byd-eang, dim ond yr effaith fyd-eang hon sy’n cyfrif. Mae’r is-adrannau canlynol yn trafod pob un o’r effeithiau carbon hyn yn eu tro.

 

Ffig 1. Y costau carbon sydd angen eu hystyried wrth werthuso cynllunio ar gyfer gwaredu carbon (a gwerth y credydau sy’n cael eu creu ar eu cyfer), er mwyn rhoi darlun cywir o’u heffaith net ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Ôl troed carbon cynlluniau: Er mwyn deall effaith carbon net cynllun penodol, mae angen ei ystyried trwy gydol oes y cynllun, gan gynnwys creu, defnyddio a gwaredu cynnyrch sy’n deillio o weithgareddau megis plannu coed. Bydd yr adran hon yn defnyddio ffigyrau dangosol o’r llenyddiaeth, i roi syniad o’r math o ystyriaethau allyriadau, costau a’r buddion sy’n gysylltiedig â phlanhigfeydd a’r defnydd o’u cynhyrchion. Ar gyfer unrhyw gynllun coedwigo penodol, bydd y ffigyrau hyn yn amrywio yn ôl rhywogaethau'r coed, amodau tyfu,  dulliau tyfu a chynaeafu meithrinfeydd, dulliau a phellter cludo, hyd y cynllun, a defnydd o'r pren ar ôl cynaeafu. Fodd bynnag, bydd angen ystyried yr un agweddau a phroblemau beth bynnag fo nodweddion unrhyw gynllun penodol. Rydym yn canolbwyntio yma ar goedwigo, ond mae nifer o’r un problemau’n berthnasol wrth ystyried atafaelu ar wlypdiroedd – ac yn bendant, mae rhesymeg ystyried y buddion carbon yn ogystal â chostau cynlluniau’n parhau i fod yr un fath.

Roedd Ingram et al (2019) yn amcangyfrif, ar gyfer coeden Fasarn Coch a dyfwyd mewn meithrinfa a’i gludo i safle er mwyn ei blannu, y byddai cyfanswm defnydd y carbon ar gyfer yr opsiwn gyda’r effaith leiaf a ystyriwyd oddeutu 20.228 kgCO2e (kg o nwyon tŷ gwydr wedi’u trosi i symiau cyfwerth o garbon deuocsid, yn ôl eu heffaith ar gynhesu byd-eang dros 100 mlynedd). Fodd bynnag, dros gyfnod o 60 mlynedd, byddai’r goeden yn atafaelu cyfanswm o 905.93 kgCO2e. Hynny yw, byddai costau allyriadau ar gyfer cynhyrchu’n lleihau’r buddion allyriadau cyffredinol yn gysylltiedig â thyfu’r goeden lai na 2%.

Nid dyma ddiwedd y stori fodd bynnag. Ar ddiwedd oes y goeden, mae’r 905.93 kgCO2e y mae’r awduron yn ei gyfrifo a fyddai’n cael ei atafaelu gan y goeden, yn dychwelyd i’r atmosffer wrth iddi bydru, gan gydbwyso cymeriant yr allyriadau. Oherwydd hynny, roedd EC JRC (2010) yn argymell y dylid ystyried budd allyriadau o goed sy’n tyfu ar ffurf eu gwerth o ran storio carbon dros dro, sy’n cael ei amcangyfrif yn 0.01 x cyfanswm y carbon sy’n cael ei storio bob blwyddyn. Gan ddefnyddio amcangyfrifon Ingram et al (2019), byddai’r Fasarnen Goch yn atafaelu 15.099 kgCO2e ar gyfartaledd bob blwyddyn (mewn gwirionedd, mae hyn yn debygol o fod yn or-amcangyfrif sylweddol, gan fod coed yn atafaelu llawer yn llai o garbon bob blwyddyn ar ddechrau eu cylch bywyd, gyda mwy’n cael ei atafaelu’n nes ymlaen – ac felly’n cael ei storio am lai o amser yn gyffredinol). Mae hyn yn rhoi gwerth carbon o 276.31 kgCO2e o’r carbon sy’n cael ei storio drwy gydol oes y goeden – llawer llai o fudd na’r hyn sy’n cael ei awgrymu gan gyfanswm y carbon sy’n cael ei atafaelu yn ystod oes y goeden. Ar raddfa’r cynllun cyfan, mae hefyd angen ystyried y bydd nifer o’r coed sy’n cael eu plannu’n cael eu tynnu wrth i’r goedwig gael ei theneuo, a bydd eraill yn marw’n ifanc. Ar y llaw arall, os mae’r coetir yn adfywio’n naturiol neu’n cael ei ail-blannu, bydd coed y genhedlaeth nesaf yn amsugno carbon, gan gydbwyso’r hyn a gollir wrth i goed gael eu torri, eu llosgi neu farw mewn ffyrdd eraill – hyd nes bydd y coed yn cael eu tynnu o’r safle. Mae’r materion hyn yn dangos bod hirhoedledd y goedwig – parhauster y cynllun (Elliott et al 2022) – yn hanfodol o safbwynt gwerth carbon, o ystyried y bydd coed unigol yn dychwelyd eu carbon i’r atmosffer yn y pen draw.

Os bydd coed yn cael eu llosgi er mwyn cynhyrchu ynni biomas, gellid ystyried bod hynny’n cymryd lle cynhyrchu ynni’n seiliedig ar danwydd ffosil, a byddai modd cyfrifo budd y lleihad hwn mewn tanwydd ffosil fel un o effeithiau cadarnhaol y blanhigfa. Yn yr achos hwn, byddai’n bwysig sicrhau na fyddai’r gwerth carbon sy’n cael ei gynnwys yn y credydau carbon o’r coetir yn cael ei gyfrif ddwywaith drwy ei effeithiau ar allyriadau o’r sector ynni – a fyddai’n cynyddu’r risg o oblygiadau negyddol ar y cyfan ar gyfer allyriadau byd-eang. Byddai hefyd angen i gyfrifiadau effeithiau ar ddefnydd ynni o danwydd ffosil ystyried yr effeithiau ehangach, megis y potensial i gynlluniau atafaelu carbon eang i gynyddu prisiau ynni, ac o ganlyniad, cynnydd mewn defnydd ynni yn gyffredinol, gan effeithio ar y buddion carbon net disgwyliedig.

Opsiwn arall yw y byddai’r pren o’r goeden yn cael ei gynaeafu a’i ddefnyddio mewn cynnyrch. Mae Kutnar and Hill (2014) yn rhestru amcangyfrif o’r allyriadau sy’n gysylltiedig gyda 14 o gynhyrchion pren, gan ddod o hyd i ystod o werthoedd yn amrywio o’r ffigwr isaf o 57 kgCO2e ar gyfer coed caled wedi’u llifio a’u sychu ag aer, hyd at ffigwr uchaf o 643 kgCO2e ar gyfer bwrdd haenog i’w ddefnyddio yn yr awyr agored. Fodd bynnag, tra byddai’r cynnyrch yn cael ei ddefnyddio, byddai’n dal i gynnig yr un buddion storio carbon â’r goeden fyw (heb gronni ymhellach). Gan ddefnyddio’r dull ILCD a ddisgrifir uchod (EC JRC 2010) dros oes o 50 mlynedd, byddai hyn yn cynrychioli 452.97 kgCO2e ychwanegol o garbon wedi’i atafaelu ar gyfer y pren wedi’i lifio, ac arbedion cyffredinol o 652.05 kgCO2e o ran allyriadau o blannu’r coed hyd at ddiwedd oes. Ar gyfer y bwrdd haenog, byddai’r arbediad net yn 66.0537 kgCO2e yn unig.

I grynhoi, mae’n bosibl y gallai’r arbedion net o ran allyriadau’n deillio o unrhyw blanhigfa fod yn llawer is na’r hyn a awgrymir gan amcangyfrif o’r carbon sy’n cael ei storio dros oes coeden, gan ddibynnu ar gyd-destun penodol a hirhoedledd cynllun.

Potensial ar gyfer storio carbon mewn cynllun mwy effeithiol: Mae gwaith ymchwil diweddar gan Hou et al (2020) wedi awgrymu, gan ystyried ffactorau megis glawiad, stoc garbon organig cychwynnol yn y pridd, tymheredd, oedran y goedwig, a defnydd y tir yn y gorffennol, y byddai coed llydanddail collddail (0.42 Mg ha−1 yr−1), coed conifferaidd bytholwyrdd (0.48 Mg ha−1 yr−1) a choetiroedd llydanddail bytholwyrdd (0.73 Mg ha−1 yr−1) yn atafaelu gwahanol lefelau o garbon organig yn y pridd. Roedd y gwahaniaethau’n ymwneud â natur, patrwm ymgasglu, cyfanswm diraddiad dail marw a gwreiddiau, ond roeddent yn gyfyngedig i goed iau gydag oedran cyfartalog llai na 20 mlynedd, ac nid oeddent yn ystyried ffactorau eraill megis pH y pridd a chynnwys clai. O ran storio carbon uwchben y ddaear, daeth Förster et al (2020) i’r casgliad bod coedwigoedd ffawydd brodorol yn yr Almaen yn atafaelu dwywaith y carbon a oedd yn cael ei atafaelu mewn planhigfeydd Pinwydd yr Alban, ac yn cynnig 25% yn fwy o gynhyrchiant cynradd. Mae angen gwaith ymchwil pellach i edrych ar y gwahaniaethau rhwng cyfraddau atafaelu carbon gwahanol rywogaethau coed yn yr astudiaethau hyn, ond mae’n dangos bod y math o goed sy’n cael eu plannu ac ym mhle yn hanfodol o ran faint o garbon y byddant yn ei atafaelu. Mae Benton et al (2022) yn nodi, gan fod planhigfeydd conifferaidd yn cael eu hystyried yn fwy proffidiol yn y DU, y bydd buddsoddwyr preifat yn debygol o wneud y gorau o’r math hwn o goetir. Fodd bynnag, os caiff coed o’r fath eu plannu dan amodau lle byddai rhywogaethau coed eraill a/neu arferion rheoli eraill (gan gynnwys, yn hanfodol, yr oedran y byddai’r coed yn cael eu cynaeafu) yn debygol o atafaelu mwy o garbon, dylai’r costau carbon hyn gael eu tynnu o’r buddion carbon sy’n cael eu cyfrifo ar gyfer y cynllun. O ystyried graddfa’r gwahaniaethau posibl mewn atafaelu carbon a nodwyd yn yr astudiaethau uchod, gallai hyn effeithio’n sylweddol ar fuddion carbon net unrhyw gynllun.

Ôl troed carbon gweithgareddau blaenorol sydd bellach yn digwydd yn rhywle arall: Mae tir sydd wedi’i neilltuo ar gyfer atafaelu carbon drwy goedwigo yn debygol o fod wedi cael ei ffermio’n flaenorol. Ar y wyneb, mae budd carbon yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i roi’r gorau i’r gweithgaredd hwnnw. Fodd bynnag, gan gymryd nad oes unrhyw newid yn y farchnad ar gyfer y cnydau neu’r da byw a gynhyrchir, bydd rhoi’r gorau i’w cynhyrchu mewn un lle yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant mewn man arall. Gallai’r newid hwn arwain at gynhyrchu mewn modd sy’n fwy effeithlon o ran allyriadau yn rhywle arall, ond gallai hefyd arwain at gynhyrchiant llai effeithlon, ac yn y pen draw, yn y ddwy achos, at golli cynefinoedd naturiol i ddarparu’r tir amaethyddol gofynnol ar lefel fyd-eang. O ganlyniad, mae’n rhesymol cymryd y bydd y lleihad mewn allyriadau o ganlyniad i roi’r gorau i ffermio ar y tir a fyddai’n cael ei blannu (neu’n cael ei adfer i greu cors neu ffen), yn cael ei wrthbwyso gan allyriadau a fyddai’n digwydd yn rhywle arall.

Gan nad yw rhestrau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol yn rhoi ystyriaeth i’r dadleoli carbon a ddisgrifir uchod, ceir cymhelliant polisi i lywodraethau cenedlaethol ei anwybyddu. Byddai gwneud hyn yn peryglu cynnydd net gwirioneddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan fod cynlluniau’n cynhyrchu credydau carbon a ddefnyddir i wrthbwyso allyriadau, heb arwain at fwy o garbon yn cael ei storio’n fyd-eang mewn gwirionedd. Noder fod y dadleoli carbon hwn yn ychwanegol at y dadleoli carbon a allai ddigwydd pe byddai llywodraethau’n cynnwys credydau sy’n cael eu cynhyrchu o fewn eu hawdurdodaeth eu hunain tuag at eu targedau hinsawdd eu hunain, ar ben yr un credydau’n cael eu defnyddio i wrthbwyso allyriadau mewn gwledydd eraill (Benton et al 2022) – os bydd y ddau beth yma’n digwydd, mae’n bosibl y ceir sefyllfa o ‘ddadleoli carbon dwbl’.

Mewn gwirionedd, gallai effeithiau disodli ffermio er mwyn gwneud lle ar gyfer cynllun atafaelu carbon arwain at nifer o effeithiau eang eraill, rhai ohonynt yn garbon positif, a rhai’n garbon negyddol – gallai’r pren a gynhyrchir ar y tir leihau’r galw am bren o fannau eraill er enghraifft. Mae’r broses o ddatglymu’r gwahanol effeithiau hyn yn gymhleth iawn, gan ofyn am ddulliau asesu cylchred bywyd dilynol manwl, ac nid yw’r rhain yn gallu cynnig sicrwydd ar eu pen eu hunain (Ekvall, 2012).   

Storio carbon o ganlyniad i ddefnydd blaenorol: Nid yw atafaeliad carbon yn y pridd ar dir sy’n cael ei ffermio ar lefel sero. Mae’n llai dan dir âr nag ar laswelltir parhaol. Mae amcangyfrifon yn amrywio yn ôl lleoliad (yn enwedig y math o bridd, amodau amgylcheddol a dulliau rheoli), ond yn y DU, daeth Prout et al (2020) i’r casgliad bod cynnwys carbon organig cymedrig y pridd (g kg-1) yn 25 ar gyfer tir âr (yn seiliedig ar 1661 o astudiaethau), 42 ar gyfer glaswelltir parhaol (yn seiliedig ar 1277 o astudiaethau) a 40 ar gyfer coetiroedd (yn seiliedig ar 269 o astudiaethau).  Roeddent hefyd yn amlygu perthynas rhwng y math o bridd a charbon organig y pridd, gyda chynnwys clai uchel yn cynyddu’r potensial ar gyfer dal carbon – o ran cynnwys clai (g kg-1) gallai’r ffigyrau cymedrig ar gyfer tir âr (262), glaswelltir (281) a choetir (251), egluro’n rhannol pam bod ffigyrau carbon organig cymedrig y pridd yn uwch mewn gwirionedd ar gyfer glaswelltir na choetiroedd. Fodd bynnag, mae’r data’n dangos nad yw lefelau carbon organig y pridd o reidrwydd yn llawer iawn uwch dan goetir nag o dan  laswelltir parhaol. Amlygodd Rees et al (2018) waith ymchwil a oedd yn awgrymu y gallai trosi o dir âr i goetir collddail gynyddu crynodiad carbon oddeutu 400% o’i gymharu â 23% wrth drosi o laswelltir i goetir.

Er y gallai glaswelltir amaethyddol ymylol a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu da byw ymddangos yn fwy deniadol yn economaidd ar gyfer atafaelu carbon na thir âr (o ganlyniad i werth is cynnyrch amaethyddol), (Benton et al 2022), mae’n bosibl mai’r tir hwn fyddai’n cynnig y budd net isaf o ran y carbon ychwanegol sy’n cael ei atafaelu.

Y prif negeseuon yw bod i) angen tynnu lefel y carbon a fyddai wedi cael ei storio pan oedd tir yn cael ei ffermio o’r lefelau disgwyliedig pan fo’r tir yn cael ei goedwigo, er mwyn rhoi buddion net coedwigo, a ii) mae’r budd hwn yn debygol o fod yn llawer is (ac mewn rhai achosion, hyd yn oed yn cynrychioli colled  net o garbon o’r pridd) pan fo glaswelltir parhaol yn cael ei drosi’n goetir, na phan fo tir âr yn cael ei drosi’n goetir. 

Ôl troed carbon llysfwytawyr gwyllt: Ffactor olaf i’w ystyried yw bod anifeiliaid gwyllt sy’n cnoi cil yn byw yng nghynefin coedwigoedd y DU, ac mae’n rhesymol cymryd y byddai rhywogaethau megis ceirw yn dychwelyd i dir sy’n cael ei ail-goedwigo. Cymerwn fod ceirw’n dychwelyd (0.4 uned da byw) ar lefel pori cadwraeth o 0.03-0.15 uned da byw fesul hectar y flwyddyn (gan ddilyn canllawiau stocio SAC (2007) ar gyfer rheolaeth gadwraeth mewn coetiroedd). Yn seiliedig ar amcangyfrif bod carw llawn dwf yn allyrru  10.4kgCH4 y pen bob blwyddyn, gallai safle 100 hectar fod yn gyfrifol am allyriadau blynyddol o 2184 – 10920 kgCO2e o fethan enterig – heb ystyried allyriadau o dail. I roi cyd-destun, mae astudiaeth gan Edwards-Jones et al (2008) o ôl troed carbon dwy fferm ddefaid yng Nghymru wedi dangos allyriadau o 5,278 kgCO2e fesul hectar ar un a 4,216 kgCO2e fesul hectar ar un arall – er bod y ffigyrau hyn yn ystyried holl allyriadau’r fferm, nid allyriadau methan o’r anifeiliaid yn unig. I roi syniad ehangach o’r lefel ‘naturiol’ tebygol o allyriadau methan o anifeiliaid cnoi cil gwyllt o’i gymharu ag allyriadau methan presennol o ganlyniad i ffermio, mae Manzano and White (2019) yn amcangyfrif y gallai’r boblogaeth naturiol o elciaid, ceirw a bison (cyn dirywiad y boblogaeth  trwy law pobl) yn yr UDA, fod wedi cynhyrchu oddeutu 85% o lefel y methan sy’n cael ei allyrru ar hyn o bryd gan yr holl dda byw amaethyddol yn y wlad.

I grynhoi, mae planhigfeydd newydd yn annhebygol iawn o beidio ag allyrru unrhyw fethan o gwbl, a dylid tynnu’r allyriadau y maen nhw’n eu cynhyrchu (a/neu’r costau carbon wrth waredu llysfwytawyr gwyllt) allan o werth carbon disgwyliedig y prosiect. Fel y mae Benton et al (2022) yn ei amlygu, dylid hefyd ystyried allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill (er enghraifft, ychwanegu gwrtaith i’r tir i annog coed i dyfu).

 

1. Credydau lleihau allyriadau carbon

Mae’r Green Alliance (Benton et al 2022) yn amlygu na ellir rhoi gwerth ar gredydau carbon a gynhyrchir drwy newid arferion (er enghraifft trwy ddefnyddio llai o wrtaith artiffisial) yn nhermau lefel y lleihad maen nhw’n ei gynrychioli’n unig, gan fod rheoliadau’n debygol o orfodi lleihad o’r fath dros amser beth bynnag. Felly, dim ond o ran cynnydd yng nghyflymdra’r newid o ganlyniad i’r cyllid a ddarperir trwy werthu credydau carbon y gellir rhoi gwerth ar y newidiadau. Yn amlwg, byddai’n anodd gwybod yn bendant beth fyddai cyfradd newid ‘credydau dim carbon’, gan y gallai gwaith llywodraethau’n ail-ffocysu ar bolisïau eraill arwain at newid yn gynt hebddynt. O ganlyniad, mae’n anodd darganfod effaith cynlluniau o’r fath o’i gymharu â lleihad mewn allyriadau hebddynt – cysyniad ychwanegedd (Elliott et al 2022) – ac ni ellir ei gymryd yn ganiataol.

 

2. Egwyddorion cyffredinol

Gellir dwyn y materion a’r cymhlethdodau a ddisgrifir uchod ynghyd fel egwyddorion cyffredinol ar gyfer asesu buddion carbon net unrhyw gynllun atafaelu carbon neu leihau allyriadau. Mae Asesiad Cylchred Bywyd (LCA) wedi dod yn un o’r ffyrdd sy’n cael ei gydnabod a’i barchu fwyaf er mwyn mesur effeithiau amgylcheddol cynhyrchion a mentrau, ac mae’n cydymffurfio gyda safonau a chanllawiau rhyngwladol (EC JRC 2010). Mae degawdau o waith ymchwil LCA yn dysgu gwersi pwysig ynglŷn ag asesu effeithiau amgylcheddol. Mae’r ddwy wers bwysicaf yn berthnasol i asesu buddion allyriadau nwyon tŷ gwydr cynlluniau storio carbon neu gynlluniau lleihau allyriadau: 1) Mae angen edrych yn gyfannol, dros oes y gweithgaredd – gan gynnwys diwedd oes a gwastraff, 2) Mae astudiaethau priodoledd (cyfrifo holl effeithiau gweithgaredd at ei gilydd) yn gallu nodi effeithiau’r gweithgaredd hwnnw. Fodd bynnag, nid ydynt yn gallu dweud beth fyddai goblygiadau eu newid mewn unrhyw ffordd benodol, ac felly, ni ddylid eu defnyddio i asesu rhinweddau newidiadau posibl. Er mwyn gallu deall goblygiadau dewisiadau, mae angen asesiadau canlyniadol, sy’n ystyried effeithiau ehangach a dilynol unrhyw newid (Ekvall 2012).

Mae’r Green Alliance yn pwysleisio cysyniadau parhauster (gan gynnwys darpariaeth gyfreithiol i sicrhau bod cynlluniau’n para digon hir i gyflawni’r buddion storio carbon neu leihau allyriadau y maen nhw’n addo); ychwanegedd (bod rhaid i gynlluniau ddarparu buddion y tu hwnt i’r hyn a fyddai wedi cael ei gyflawni fel arall); ac osgoi dadleoli carbon (yn yr achos hwn, disgrifir hyn yn eu hadroddiad fel cyfrif credydau carbon ddwywaith gan y wlad sy’n gwerthu) fel safonau pwysig ar gyfer masnachu carbon amaethyddol, ynghyd â mesur a dilysu priodol (Elliott et al 2022). Fodd bynnag, er bod y safonau hyn yn hanfodol, mae gwersi o’r LCA yn mynd ymhellach – wrth edrych ar barhauster, mae’r syniad o ystyried oes/hyd gyfan cynnyrch neu weithgaredd yn ychwanegu’r elfen bwysig o ddeall sut mae cynhyrchion coedwig yn cael eu defnyddio a’u trin ar ddiwedd eu hoes. Mae cysyniadau ychwanegedd a dadleoli carbon yr un mor hanfodol, ond mae’n rhaid archwilio’r rhain yn llawn ynghyd â goblygiadau eraill posibl gweithredu cynllun penodol, gydag asesiad dilynol cynhwysfawr a strwythuredig.

Mae’r wers gyntaf yn deillio o’r LCA yn amlygu bod angen i fuddion net cynlluniau atafaelu carbon ystyried costau a buddion y broses o blannu’r hadau hyd at waredu cynnyrch pren yn y pen draw. Mae’r ail wers yn pwysleisio bod angen ymgorffori effeithiau ehangach cynlluniau o’r fath i asesiadau o’u gwerth, gan gynnwys symud cynhyrchiant amaethyddol i rywle arall, gwerth perthynol cynllun penodol o’i gymharu ag opsiynau eraill (gan gynnwys gwerth atafaelu carbon y defnydd a wnaed yn flaenorol), a’r effaith ar boblogaethau anifeiliaid gwyllt sy’n cnoi cil. Mae’r gwersi hyn yn cael eu cydnabod a’u deall yn eang ym maes asesu amgylcheddol, a dylid eu defnyddio’n llawn wrth werthuso cynlluniau atafaelu carbon i osgoi goblygiadau anfwriadol o ganlyniad i’w gweithredu.

 

3. Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn wedi canolbwyntio’n llwyr ar fuddion allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang tebygol wrth newid defnydd tir o gynhyrchiant amaethyddol i atafaelu carbon, yn enwedig drwy blannu coetiroedd. Nid yw’r adroddiad wedi edrych ar risg cynlluniau’n methu â chyflawni eu haddewidion, nac ychwaith y materion ehangach yn ymwneud â masnachu’r credydau carbon eu hunain, na risgiau a chostau amgylcheddol a chymdeithasol eraill cynlluniau o’r fath. Nid yw’r adroddiad chwaith wedi edrych ar y nifer o wasanaethau ecosystem a’r rolau pwysig y mae coetiroedd y neu chwarae. Yn hytrach, mae’n rhoi sylwadau penodol ar effeithlonrwydd coedwigo tir fferm i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang, gan ddangos y ffactorau sydd angen eu cynnwys wrth asesu gwerth allyriadau unrhyw gynllun penodol. Os nad yw’r ffactorau hyn yn cael eu hystyried, mae’n debygol y gallai defnyddio tir amaethyddol ar gyfer atafaelu carbon arwain at oblygiadau llai na delfrydol a niweidiol o bosibl ar gyfer ymdrechion i ymladd yn erbyn cynhesu byd-eang. O ystyried yr holl ffactorau hyn gyda’i gilydd, nid yw’n glir o gwbl ar hyn o bryd bod modd cyfiawnhau adleoli cynhyrchiant amaethyddol oherwydd coedwigo yn nhermau storio carbon neu leihau allyriadau’n fyd-eang.

Yn hytrach, yr hyn sydd ei angen yw atebion sy’n:

  • gwneud y gorau o’r cyfle i storio carbon a lleihau allyriadau mewn tirweddau cynhyrchiol (er enghraifft trwy systemau amaeth goedwigaeth a choed-borfeydd) yn ogystal â
  • symud arferion ffermio tuag at fod yn fwy adfywiol (diogelu a gwella adnoddau naturiol a gwasanaethau ecosystem ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd uchel o fewn ffiniau penodol) gan gynnwys
  • tyfu mwy o wrychoedd a choed a gwella’r dulliau o’u rheoli, gan hefyd reoli a diogelu gwlypdiroedd a chynefinoedd lled-naturiol presennol, a’u diogelu rhag datblygiad yn ogystal â gorgyffwrdd amaethyddol.

Wrth gwrs, mae angen i atebion o’r fath fod yn destun craffu dan y telerau a drafodir yn yr adroddiad hwn. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn argyfwng ffisegol, a dim ond newid ffisegol yn lefelau’r nwyon tŷ gwydr sy’n gallu lliniaru hynny – mae fframio’r mater mewn modd ariannol, fel ffordd o wneud arian, yn tynnu ein sylw oddi wrth yr unig ganlyniad pwysig, sef lleihau faint o CO2 a nwyon tŷ gwydr eraill sydd yn yr atmosffer er mwyn gallu cynnal ein systemau cynnal bywyd. Nid yw unrhyw gynllun nad yw’n gallu cyflawni hynny ar ôl pwyso a mesur y dystiolaeth yn ateb i’r broblem.  Os oes modd lleihau’r nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer a gwneud arian ar yr un pryd, mae hynny’n beth da – ond effeithlonrwydd mynd i’r afael â’r broblem ddylai bennu p’un a dylai cynllun fynd yn ei flaen. Pe byddai popeth arall yn gyfartal, gellir disgwyl y byddai atafaelu carbon a lleihau allyriadau mewn systemau amaethyddol cynhyrchiol ac adfywiol yn y DU yn:

  • lleihau dadleoli carbon (osgoi symud cynhyrchiant i rywle arall)
  • cynyddu parhauster atebion (rhoi rhan weithredol a pharhaus i berchnogion tir a chymunedau mewn tir cynhyrchiol sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy)
  • sicrhau ychwanegedd drwy ehangu a gwella arferion amaeth goedwigaeth arloesol ac adfywiol nad oes modd eu datblygu heb gymorth hirdymor i ffermwyr ddatblygu eu sgiliau, cael mynediad at yr adnoddau a hyfforddi’r gweithwyr gofynnol.
  • parhau i ddarparu pren (os mae arferion llywodraethu cylchred bywyd cynhyrchion o’r fath yn gwella) a allai gymryd lle deunyddiau adeiladu eraill gyda mwy o effaith amgylcheddol.
  • Cefnogi cymunedau amrywiol, arloesol a bywiog

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth