Rôl Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch fferm. Felly dyma ffermwr adnabyddus, hyfforddwr Lantra a mentor diogelwch fferm Brian Rees yn rhannu ei gyngor gydag Alun Elidyr, un o Lysgenhadon bartneriaeth ar gyfer gyrru tractorau yn ddiogel ar lethrau.
“Dylech wneud gwaith cynnal a chadw ar yr holl gerbydau fferm fel mater o drefn ond cyn unrhyw dasg lle byddwch yn gweithio ar lethrau, mae gwiriadau ychwanegol a ‘phrawf gafael’ hanfodol y dylech bob amser ei wneud,” meddai Brian.
“Cofiwch hefyd, os ydych chi'n bwriadu gweithio ar eich pen eich hun, cariwch ffôn bob amser a dywedwch wrth rywun arall ble rydych chi'n gweithio.”