Ydych chi erioed wedi gweld buwch yn defnyddio toiled? Parhewch i wylio a gwelwch yn union hynny ...

Ar y bennod hon o Rithdaith Ryngwladol, byddwn yn ymweld â'r Iseldiroedd i weld sut mae'r ffermwr llaeth Jan Willem Tijken yn defnyddio'r dechnoleg arloesol hon.

Creuwyd CowToilet gan Hanskamp, cwmni sy'n canolbwyntio ar arloesi ffermio llaeth o'r Iseldiroedd.

Mae'r CowToilet yn system droethi awtomatig a gwirfoddol ac bellach yn rhan annatod o system fferm deuluol Tijken.

Mae'r toiled yn casglu wrin yn uniongyrchol o'r ffynhonnell ar wahân i ysgarthion, gan alluogi'r ddau faetholyn i gael eu defnyddio yn unigol i'w llawn potensial ar gyfer rheoli glaswelltir. 

Trwy sicrhau nad yw'r wrin yn dod i gysylltiad â'r ysgarthion trwy storiio ar wahan, mae cryn dipyn yn llai o amonia'n cael ei ffurfio gan greu hinsawdd iachach.

Am ragor  o wybodaeth am CowToilet, ewch i wefan Hanskamp: https://hanskamp.nl/en/en/cowtoilet 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Farms - Wonderful places BUT dangerous play grounds
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
EIP Wales - Uchafbwyntiau - 26/05/2023
Rhwng mis Mai 2017 a mis Mawrth 2023, ariannodd EIP yng Nghymru
Rhithdaith Ryngwladol - Gorchudd Coedwigaeth Parhaus - 17/03/2023
Mae’r Coedwigwr a Fentor Cyswllt Ffermio, Phil Morgan, yn rhannu