Mae ein Rhithdaith Ryngwladol gyntaf yn mynd â ni ar daith fer dros Fôr Iwerddon i gyfarfod â Hanna a George o Fferm Ballyhubbock yng Ngorllewin Wicklow, Iwerddon. 

Yn 2017, aeth y cwpl ati i drawsnewid eu busnes o system ddefaid masnachol a sugno i system godro defaid. Erbyn 2021, a bellach gyda diadell sefydledig o ddefaid East Friesland / Lacaune a thipyn o amser wedi’i wario yn arbrofi i ddatblygu’r cynnyrch, mae Haloumi Ballyhubbock Farm wrthi yn cyrraedd y brig ac i’w weld ar silffoedd archfarchnadoedd Aldi ledled Iwerddon!

Yn rhannu awgrymiadau a chyngor da, mae'r fideo yma yn rhoi mewnwelediad manwl i daith y cwpl i'r diwydiant llaeth defaid. Maen nhw’n trafod yr heriau y maent wedi'u goresgyn gan gynnwys cynhyrchu llaeth, canfyddiadau’r cyhoedd am y cynnyrch a phwysigrwydd datblygu’r cynnyrch wrth gael y cynnyrch i’r farchnad. Bellach yn frand sydd â gwobrau i’w enw, mae'n werth gwrando ar stori Ballyhubbock!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr yn addasu i'n hinsawdd newidiol
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
Farms - Wonderful places BUT dangerous play grounds
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
EIP Wales - Uchafbwyntiau - 26/05/2023
Rhwng mis Mai 2017 a mis Mawrth 2023, ariannodd EIP yng Nghymru