Dyma Bryn Perry, ffermwr cenhedlaeth gyntaf a ffermwr llaeth defaid yn Sir Benfro yn rhannu’r mewnwelediadau a gasglwyd gan yr Academi Amaeth ar daith astudio yng Ngwlad y Basg yn Sbaen. Cipolwg ar y fferm llaeth a’u technoleg, llaeth defaid, sut mae gwneud caws ddefaid traddodiadol, gwinllannoedd a’r broses penodol o gwneud gwin yn y rhanbarth a thechnoleg hydro i gyd yn digwydd yn yr ardal hon.
Roedd y tebygrwydd o ran tirwedd a hinsawdd y rhanbarth Sbaenaidd hwn yn golygu bod llawer o'r arferion ffermio yn berthnasol ac yn bosibl i'w gweithredu ar ffermydd yng Nghymru.
Roedd cefnogaeth y llywodraeth yn y Basg i annog Newydd-ddyfodiaid a datblygu busnesau amaeth o fewn y rhanbarth yn amlwg i’w weld ac yn galluogi llawer o'r busnesau ffermio i fabwysiadu defnydd da o offer a thechnoleg ar gyfer effeithlonrwydd a sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.