Yn gorwedd wrth wraidd amaethyddiaeth yng Nghymru mae un o'r arfau pwysicaf yn ymateb y diwydiant i newid hinsawdd - pridd.
Tra ei fod yn ffaith gyffredin fod cynhyrchiant glasswelltir a chnydau yn dibynnu ar strwythur, deunydd organig a statws maethol y pridd, mae hefyd yn elfen hanfodol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.
O ganlyniad i’ allu naturiol pridd i storio carbon, mae amaethyddiaeth yn gallu gwrthbwyso allyriadau trwy ei ddal a storio.
Yma, mae Swyddog Technegol Cig Coch, Lisa Roberts, yn cynnig awgrymiadau ar sut y gallwch gynyddu gallu dal carbon ar eich fferm. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma hefyd.