Ymunwch â Cyswllt Ffermio ac arbenigwr o’r diwydiant, Phil Morgan o Sustainable Forest Management a SelectFor er mwyn darganfod ffyrdd o wella rheolaeth coetiroedd fferm, a sut all technegau rheolaeth gwahanol ychwanegu gwerth at goetiroedd tra'n parhau i wella'r amgylchedd.

Mae Phil yn trafod gwahanol dduliau o rheoli coed, gyda phwyslais ar goedwigaeth gorchudd parhaus ac ardaloedd o blanhigfeydd ar safle coetir hynafol. Mae'r weminar yn darparu cipolwg o’r cysyniad o goedwigaeth gorchudd    parhaus a thechnegau rheoli, ar gyfer perchnogion presennol a newydd ar goetiroedd. Mae cyfle hefyd i ddarganfod a dysgu sut i drawsnewid eich  coetir i un sy’n gallu darparu incwm wrth ddatblygu mewn i goetir cynaliadwy ffyniannus ar gyfer y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –