29 Chwefror 2024

 

Gall lleihau pa mor aml rydych yn godro i unwaith y dydd leihau llwyth gwaith ffermwyr llaeth Cymru ond mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Cyswllt Ffermio wedi dangos y bydd ergyd i broffidioldeb rhai busnesau os byddant yn newid o system odro ddwywaith y dydd.

Mae Clyngwyn, un o’r ffermydd sy’n rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, ger Clunderwen, Sir Benfro, yn dilyn patrwm godro yn y bore ac yn y prynhawn ar gyfer y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn ar hyn o bryd.

Mae'r fuches gymysg o Swedish Red, Norwegian Red a Montbeliarde yn cynhyrchu ychydig o dan 6,000 litr flwyddyn ar gyfartaledd fesul buwch ar 4.5% o fraster menyn a 3.4% o brotein, gyda llaeth yn cael ei werthu i First Milk.

Cafodd y system, sy’n cael ei rhedeg gan Jeff a Sarah Wheeler, ei hadolygu gan Sean Chubb, ymgynghorydd datblygu busnes gyda Livestock Improvement Corporation (LlC) fel rhan o’u gwaith prosiect Cyswllt Ffermio, i weld a fyddai economeg lleihau pa mor aml y maent yn godro i unwaith y dydd yn gwneud synnwyr mewn buches â 150 o wartheg, gan bennu cyllideb ar gyfer 1.4 tunnell o ddwysfwyd y fuwch y flwyddyn.

Ni chyfyngodd Mr Chubb yr adolygiad hwnnw i un model ond cymhwysodd ffigyrau’r teulu Wheeler i bedwar model:

●    Godro unwaith y dydd am dymor llawn
●    Godro unwaith y dydd am hanner tymor
●    Godro unwaith y dydd am dair wythnos ar ddechrau’r cyfnod llaetha
●    Godro unwaith y dydd ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod llaetha

Daeth yr ymarfer hwn i'r casgliad, gan ystyried y gyfradd stocio a'r lefel gynhyrchu bresennol a chan ystyried y gost o gynhyrchu, mai system dwywaith y dydd y mae’r teulu Wheeler yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd oedd y mwyaf proffidiol wrth edrych ar eu pris llaeth presennol.

“Os yw’r prisiau hyn yn symud mewn ffordd ffafriol, yna’r system hon fydd yn parhau i fod y mwyaf proffidiol ond os bydd y prisiau’n symud mewn ffordd anffafriol yna fe allai’r systemau eraill ddod yn fwy proffidiol,” meddai Mr Chubb.

Ar gyfer pob un o'r systemau unwaith y dydd a fodelwyd ganddo, newidiodd lefel y proffidioldeb.

Byddai godro unwaith y dydd am dymor llawn yn arwain at arbediad llafur o 1,277.5 awr ond byddai refeniw yn gostwng 30% tra byddai costau ond yn gostwng 5%.

Byddai mabwysiadu system odro unwaith y dydd am hyd at hanner y tymor, o fis Medi tan ddiwedd mis Chwefror, yn lleihau amser godro 630 awr. Byddai refeniw llaeth yn lleihau 10% a chostau mewnbwn yn lleihau 2%.

Pe bai'r teulu Wheeler ond yn newid i system odro unwaith y dydd am dair wythnos ar ddechrau'r cyfnod llaetha ac am naw wythnos arall ar ddiwedd y cyfnod llaetha, byddai refeniw yn cael ei leihau 7% a chostau 1%, gan gynnwys 294 awr o arbedion llafur.

Byddai’r ymyriad byrraf – system odro unwaith y dydd am dair wythnos ar ddechrau prif ran y cyfnod lloia gydag arbediad o 73.5 awr o lafur - ar 1.5%, yn arwain at y gostyngiad lleiaf yn eu refeniw gydag ychydig iawn o symudiad mewn cyfanswm gwariant.

Ond fe fyddai'r elw yn parhau i fod yn llai o'i gymharu â system odro ddwywaith y dydd, yn ôl Mr Chubb.

Mae gan bob un o wahanol gymwysiadau’r system odro unwaith y dydd y craffwyd arnynt ei bwyntiau cadarnhaol a negyddol ei hun, ychwanegodd, yn dibynnu ar yr hyn y mae’r ffermwr am ei gyflawni, gan gynnwys 'cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith'.

Er na fyddai unrhyw un o'r systemau godro unwaith y dydd yn gwneud cymaint o arian i'r teulu Wheeler â system odro ddwywaith y dydd, maen nhw'n broffidiol - a byddent yn parhau felly hyd yn oed am bris llaeth is, meddai Mr Chubb.

“Wrth i hyd system odro unwaith y dydd gynyddu mae’r proffidioldeb yn lleihau ond mae’r elw fesul awr yn cynyddu,” nododd.

“Mae pa fath o system odro unwaith y dydd sydd orau i chi yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech ei gael o’r system.''

Mae system odro unwaith y dydd yn opsiwn yr oedd y teulu Wheeler wedi'i ystyried fel ffordd o leihau eu llwyth gwaith.

“Mae’n rhywbeth oedd wedi bod yng nghefn ein meddyliau ers tro oherwydd dim ond Jeff a fi a’i rieni sydd ar y fferm. Roeddem wedi gofyn i'n hunain a oedd unrhyw beth y gallem ei wneud yn wahanol i leihau'r llwyth gwaith,'' eglurodd Mrs Wheeler.

Bu’n ymarfer defnyddiol iawn, i archwilio’r agwedd ariannol ar y gwahanol opsiynau fel prosiect Cyswllt Ffermio, ac roedd wedi helpu i lywio’r penderfyniad yn y tymor byr, meddai.

“Ni allaf ein gweld yn newid yn gyfan gwbl i’r system honno, mae pawb yn dweud wrthym fod ein buchod yn rhy dda i gael eu godro unwaith y dydd yn unig, a byddai’r ergyd ariannol o wneud hynny yn fwy nag y byddwn wedi’i ddisgwyl.

“Nid ydym yn ei ddiystyru’n gyfan gwbl, gan ei fod yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn y dyfodol efallai, ond efallai yn ystod y misoedd diwethaf cyn sychu yn unig oherwydd byddem ar ein colled wrth newid yn gyfan gwbl i system odro unwaith y dydd.”

Ni fyddai unrhyw opsiwn i gynyddu nifer y buchod am y golled honno o ran cynhyrchiant oherwydd cyfraddau stocio o dan y rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.

“Ni allwn gadw mwy o wartheg nag sydd gennym ar hyn o bryd, mae ein siediau yn llawn ac nid oes gennym y tir sydd ei angen ar gyfer y gyfradd stocio newydd,” ychwanegodd Mrs Wheeler.

Yn ôl yr adroddiad, y lifer mwyaf sydd gan y teulu Wheeler ar gyfer gwrthbwyso colled mewn cynhyrchiant llaeth pe baent yn cyflwyno system odro unwaith y dydd yw creu bloc lloia tynnach, gan ei leihau’r bloc lloia i 10-12 wythnos; mae’r fuches ar hyn o bryd yn lloia o 20 Mawrth gydag ychydig o’r buchod sy’n lloia’n ddiweddarach yn ymestyn y bloc hyd at 15 Medi.

Ond byddai hyn yn cael ei ddylanwadu gan yr hyn y byddai eu prynwr llaeth yn ei ganiatáu, awgrymodd Mr Chubb.

Byddai patrwm lloia tynnach yn golygu defnyddio llai o ddwysfwyd, trydan a llai o atgyweiriadau i adeiladau ac, o ganlyniad i hynny, llai o laeth yn cael ei gynhyrchu wrth drosglwyddo, llai o gostau milfeddygol a meddyginiaeth hefyd.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites