19 Mai 2022

 

Ydych chi eisiau gwella iechyd y fuches a gwella perfformiad a chynhyrchiant eich buches bîff neu laeth? A ydych yn ymwybodol o’r arwyddion clinigol sy’n dangos bod parasitiaid yn broblem, a sut i’w hatal neu eu rheoli? A ydych yn gwybod pa fathau o borfa a systemau pori sy’n peri’r risg fwyaf, sut mae’r tywydd yn effeithio ar gylch bywyd parasitiaid, a pham fod angen i chi ynysu gwartheg sy’n dod i mewn?

Gall gyflyrau fel llyngyr yr iau, llyngyr yr ysgyfaint, llyngyr y perfedd a pharasitiaid allanol effeithio’n ddramatig ar berfformiad da byw, a all gael effaith economaidd ddifrifol ar gynhyrchiant.

Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio modiwl newydd yn ei gyfres boblogaidd o weithdai iechyd a lles anifeiliaid. Ar gael o’r mis hwn, bydd ‘Rheoli parasitiaid mewn gwartheg’ yn galluogi ffermwyr i atal, canfod a rheoli’r arwyddion clinigol sy’n gysylltiedig â’r parasitiaid uchod, yn ogystal â’r rhai sy’n effeithio’n benodol ar loi ifanc, gan gynnwys cocsidiosis a chryptosporidiwm.

Gyda holl gynnwys cyrsiau Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio wedi’i ddatblygu ar y cyd â NADIS (y Gwasanaeth Cenedlaethol Gwybodaeth am Glefydau Anifeiliaid) a’i ddarparu gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru, bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai mewn gweithdai grŵp wyneb yn wyneb rhanbarthol sy’n para hyd at dair awr, neu ar-lein.

Mae’r milfeddyg fferm James Coope, o Filfeddygon Cain yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn un o’r milfeddygon cymeradwy sy’n rhan o’r gweithdai. Mae Mr Coope yn pwysleisio bod atal a rheoli yn hollbwysig, a dywed y dylai ffermwyr bob amser ymgynghori â’u milfeddyg fferm eu hunain wrth lunio cynllun rheoli parasitiaid:

“Bydd y gweithdai hyn yn tynnu sylw ffermwyr at yr arwyddion clinigol cynnar a’r ffactorau risg a all ddangos problemau a rhoi arweiniad iddynt ar arferion rheoli gorau.

“Gall peswch fod yn arwydd clinigol amlwg iawn o lyngyr yr ysgyfaint, felly mae angen ymchwilio iddo’n brydlon.

“Yn yr un modd, mae angen i ffermwyr ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â phorfeydd a systemau pori gwahanol, gan y gall hyn fod yn elfen allweddol wrth reoli llyngyr y perfedd (PGE) mewn gwartheg.”

Bydd pob gweithdy a ariennir yn llawn yn ymdrin â rhagweld parasitiaid a chyfrif wyau ysgarthol i sicrhau bod ffermwyr yn dewis y triniaethau gwrthlyngyr cywir ac yn eu rhoi ar yr amser a'r amlder priodol. Bydd ffermwyr llaeth yn cael gwybod am gyfyngiadau trin gwartheg godro ar gyfer llyngyr yr iau. Ymdrinnir â phrotocolau triniaeth gwrthlyngyr ac amseroedd na ddylid godro.

I gael gwybod pa bractisau milfeddygol fydd yn cyflwyno’r modiwlau hyfforddi hyn ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, ac am leoliadau a dyddiadau, ewch i’r adran sgiliau a hyfforddiant  neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y