10 Hydref 2023
Gall treial ar raddfa cae yng Nghymru sy’n cynnwys tyfu gwahanol gnydau gorchudd o dan fresych y gaeaf helpu ffermwyr i nodi pa fathau sy’n gwarchod priddoedd rhag dŵr ffo yn y modd gorau.
Mae cnydau bresych y gaeaf yn opsiwn cynyddol boblogaidd i gynhyrchwyr da byw sy'n ceisio lleihau costau cynhyrchu gan fod pori yn y fan a'r lle yn darparu ffynhonnell ratach o fwyd y gaeaf na phorthiant arall trwy leihau'r pwysau ar siediau a lleihau costau llafur a deunydd i’w roi dan anifeiliaid.
Fodd bynnag, gall gadael priddoedd yn foel ac yn agored i wynt a glaw ar ôl pori arwain at golli uwchbridd, sy’n niweidiol i faeth y pridd ac ansawdd dŵr.
Mae cnydau gorchudd yn fodd o angori pridd ac felly mae treial yn cael ei gynnal ar fferm dda byw yng Ngwynedd i werthuso'r cnwd mwyaf addas i'w hau mewn porthiant o fresych a maip sofl.
Dyfarnwyd cyllid i Bryn Hughes a Sarah Carr gan 'Gyllid Arbrofi' Cyswllt Ffermio i gynnal y treial ar eu ffermdir yn Sylfaen, Abermaw, lle maent yn ffermio defaid a bîff.
“Bydd y prosiect yn gwerthuso gwahanol gymysgedd hadau ar gyfer hau bresych ac yn asesu eu heffeithiolrwydd o ran gorchudd tir, lleihau dŵr ffo, cynhyrchu porthiant a pherfformiad anifeiliaid,” eglurodd Sarah.
Cafodd pum plot un hectar eu sefydlu ym mis Awst, pob un â phorthiant o faip sofl a rêp fel y cnwd i’w bori ond a dyfwyd ar y cyd â gwahanol gnydau gorchudd.
Bydd y rhain yn cynnwys cymysgedd gorchudd tir o rhonwellt, rhygwellt lluosflwydd, meillion a ffacbys, ail gymysgedd o fyswellt, diploid canolraddol, festulolium a pheiswellt y ddôl, a thrydydd plot yn tyfu cyfuniad o’r ddau.
Bydd un plot reoli hefyd heb unrhyw gnwd gorchudd ac un arall gyda thetraploid Eidalaidd.
Bydd y plotiau’n cael eu pori gan ddefaid y gaeaf hwn.
Yn ogystal â sgorio perfformiad da byw, bydd statws y pridd yn cael ei fonitro a bydd gwerthusiad yn cael ei gwblhau er mwyn darganfod y cymysgedd hadau mwyaf addas ar gyfer hau.
Mae Bryn a Sarah, a brynodd Sylfaen y llynedd ar ôl adleoli o fferm yn Sir Fynwy, yn ddiolchgar i Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio am ariannu’r prosiect hwn a rhoi’r cyfle i dreialu’r cnydau hyn ar eu tir newydd.
Mae unigolion a grwpiau eraill o hyd at bedwar ffermwr a thyfwr hefyd wedi derbyn cyllid i’w galluogi i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu, gan gynnwys tyfu glaswellt gyda llwch craig basalt a thyfu maglys i wella gwytnwch systemau pesgi ŵyn yn ystod sychder yr haf.